Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Poenyn Penna' WELE gychwyn cyfres newydd o bosau; rhai yn hen ffefrynnau, rhai yn gymharol newydd a rhai (gobeithio!) yn newydd sbon. Clywaf rai ohonoch yn dechrau anesmwytho eisoes gan dybio mai pethau i fathemategwyr uchel-ael yn unig yw posau, ac yn sicr nid pethau y gall meidrolion y byd hwn eu deall heb sôn am eu datrys! Peidiwch, da chi, a choleddu'r fath syniadau rhagfarnllyd Oherwydd gellwch fod yn berffaith sicr o un peth-mae'r wybodaeth fathemategol sy'n debygol o fod â'i hangen ar ddarllenwyr y golofn hon i gyd ym meddiant y plentyn ysgol tair ar ddeg oed. Ac i brofi'r pwynt byddwn yn cynnwys datrysiad pob pos ar dudalen wahanol ym mhob rhifyn. Does dim esgus, felly! Mae ambell bos newydd yn mwynhau cyfnod o boblogrwydd, yn cael ei adrodd a'i ailadrodd, ei ddatrys a'i ailddatrys mewn sawl cylchgrawn. Felly'n union y pos canlynol. Un rheswm am ei boblogrwydd presennol yw'r argraff a geir ar y darlleniad cyntaf nad oes ynddo nemor ddim gwybodaeth. Ond craffwch arno eto (Ateb ar dudalen 44.) COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro; R. W. STEEL, B.se., m.a., F.R.G.S. Darperir y cyrsiau canlynol i fyfyrwyr gwyddonol: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth Bur a Gwyddoniaeth Gymwysedig. (b) Diploma'r Coleg mewn Ffiseg Fathemategol. (c) Diploma'r Coleg mewn Cartograffi. (ch) Diploma'r Coleg mewn Peirianneg Gemegol. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Bur yn cynnwys Atlironiaeth, Seicoleg, Economeg, Mathemateg Bur, Ystadegau, Mathemateg Gymwysedig, Ffiseg, Cemeg, Daeareg, Daearyddiaeth, Botaneg, Swoleg, Geneteg, Microbioleg, Eigioneg a Bioleg Forol. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Gymwysedig yn cynnwys Peirianneg Sifil, Trydanol, Mecanyddol, Technoleg Cyfrifyddol a Diwydiannol, Peirianneg Gemegol, a Meteleg. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Dyfernir Ysgoloriaethau Derbyn bob blwyddyn ar sail canlyniadau arholiadau lefel 'A'. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. POSITRON Rhif 1. Y Tair Chwaer Pan aeth Tom yn ôl i Drepostyn wedi blynydd- oedd maith o fod yn alltud yn America, pwy welodd gyntaf ar y stryd ond Siân Plas Mawr, un o'i gyd- ddisgyblion o ddyddiau ysgol. Un gyndyn oedd Siân erioed i ateb cwestiwn yn blwmp ac yn blaen ac, ar ôl y 'Sut mae' agoriadol, dyma oedd natur y sgwrs: Tom: Faint o blant sydd gen ti rwan, Siân? Siân Mae gen i dair o ferched, a'r tair yn cael eu penblwydd ar yr un dyddiad. Tom A beth yw eu hoedran erbyn hyn ? Siân: Pe bae ti'n lluosi oedran y tair byddet ti'n cael 72. Tom Ond mae'n rhaid i ti roi mwy o wybodaeth i mi na hynny. Siân Mae cyfanswm y tri oedran yr un rhif â'r nifer o blant oedd yn arfer bod yn nosbarth hen Jones y Sgŵl. Tom: Dydy hynny eto ddim yn ddigon i mi, Siân. Siân: Mae'r ferch hynaf yr un ffunud â'i thad. Beth oedd oed y tair chwaer?