Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffìg. 16(a). Os ail ymuna electron a bwlch posidol yn uniongyrchol yna rhoddir ymaith olau o donfedd yn cyfateb i'r egni Eg (b) Gellir cynhyrchu golau'n effeithiol ger y cyswllt p-n pryd yn bwysig. Yn y systemau mwyaf addawol defnyddir goleuni o laser GaAs, sy'n llewyrchu golau is-goch, ac un o'r problemau ar hyn o bryd yw cysondeb y rhain. I fod yn ddefnyddiol mae'n rhaid iddynt bara yn ddiwall am 100,000 awr, ac mae angen mwy o ymchwil i allu cyrraedd y nod yma yn rheolaidd. Ceir enghraifft o ffeibrau optig hefyd mewn cabl. Yma mae 144 o ffeibrau, a gall y cabl gario tua can mil o sgyrsiau. Gellir tynnu'r cabl drwy ddwythell yn yr un modd a chyda gwifrau Ffìg. 17. Ffurf y teleffon laser sy'n defnyddio ffeibr optig yn lle gwifrau metel metel ac mae'r cabl hon yn cael ei defnyddio mewn teleffon arbrofol gyda hyd o tua 11 cilometr. Yn awr hefyd mae'r swyddfa bost yn arbrofi gyda system debyg cydrhwng dwy dref yn Lloegr ac mae'n wir fod y systemau yn ymddangos yn llawer mwy addawol nag y disgwyliodd unrhyw un. Ar hyn o bryd mae cynhyrchu cablau gwydr dipyn yn ddrutach na rhai copr ond fe all hyn newid unwaith y gwneir hwy ar raddfa helaeth. Manteision eraill y cablau gwydr yw eu bod yn ysgafn ac hefyd yn rhydd rhag ymyrraeth drydanol. Gellir eu defnyddio mewn awyrennau, lie mae arbed pwysau yn bwysig iawn. Hefyd byddant yn cael eu defnyddio mewn cyfrifiaduron mawr lle mae'r gallu i ymdrin â llawer o signalau yn arbennig o gyflym yn fantais fawr. Yma ni chawsom ond cipolwg syml iawn ar faes ffiseg soledau a'r modd y mae datblygiadau diweddar yn effeithio ar ein bywydau. Yn sicr fe fydd datblygiadau yn yr ugain mlynedd nesaf yr un mor syfrdanolagynyrugain mlynedd ddiwethaf.Nid yw'r datblygiadau hyn heb eu peryglon, wrth gwrs. Mae cyfrifiaduron poced, er enghraifft, yn ddigon rhad yn awr i'w prynu i'n plant. Yn yr ysgolion a'r colegau 'rydym yn gorfod penderfynu a ddylem ganiatáu y rhain mewn arholiadau. Tra maent o fantais fawr mewn llawer o ffyrdd mae'n rhaid sicrhau na fyddant yn achosi i blant beidio â dysgu rhifyddeg yn drwyadl. Mae'r problemau yma yn mynd yn fwy cymhleth fel y mae'r dechnoleg yn tyfu ac mae'n rhaid i'n cymdeithas geisio taclo'r problemau hyn yn ddigon cynnar. Os na wneir hyn yna mae peryg mewn blynyddoedd i ddod i'r gym- deithas sy'n dibynnu ar y datblygiadau electroneg fod yn dibynnu'n llwyr ar y nifer fechan o'r rhai sy'n gallu amgyffred a deall y dechnoleg.