Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wneud, a'u pechod (gormodol) o wneud yr hyn na ddylasent ei wneud. Ceir nifer o enghreifftiau yn y naill a'r llall o'r ddau gategori: fe fydd un enghraifft yr un yn ddigonol, efallai, yn yr erthygl hon. Mewn meddygaeth, mae gwyddoniaeth (or- llewinol, beth bynnag) wedi derbyn mai prif gyfryngau gwellhad yw'r gyllell a'r cyffur. Datblygu techneg y naill ac amrywiaeth ac effeithiolrwydd y llall yw prif nod (unig nod, e fallai) meddygaeth orllewinol heddiw. Dyma'r meysydd cydnabydd- iedig-ac oddi amgylch iddynt, wele furiau uchel a thrwchus o ragfarn. Nid oes tystiolaeth ddigonol (faterol/resymegol) ar gael o gyfryngau gwellhad ar wahân i'r cyfryngau cydnabyddiedig — iErgo.r ebe meddygaeth ragfarnllyd, 'nid ydynt yn bod!' Eto i gyd, clywn o bryd i'w gilydd am dechnegau a dulliau eraill a ddefnyddir gan bobloedd an- orllewinol. A'r rheiny, o bosib, yn effeithiol. 'Pw!' ebe'r gwyddonydd gorllewinol, 'nid oes unrhyw dystiolaeth faterol/resymegol o'u heffeithiolrwydd' -a dyna osod maen arall ar furiau rhagfarn. Oni COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: Syr GORONWY H. DANIEL, K.C.V.O., C.B., D.PHIL. CYRSIAU GRADD Darperir cyrsiau yng nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gwlad, y Gyfraith, Cerddoriaeth, ac Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol. Mae'r holl Adrannau Gwyddoniaeth mewn adeiladau modern, digonol eu hoffer a'u celfi. CYRSIAU DIPLOMA Diplomâu mewn Addysg, Gwyddor Gwlad, Ystadegaeth, Ffiseg yr Awyrgylch, Ffiseg Electronig, Mathemateg Bur, Micropalaeontoleg, Palaeograffeg, Cyfraith a Chydberthynas y Gwledydd, Addysg Ddwyieithog, Technoleg Addysg. YMCHWIL Darperir ar gyfer graddau uwch ym mhob pwnc. Yn yr holl adrannau Gwyddoniaeth Bur a Gwyddor Gwlad mae ysgolion ymchwil grymus, a gynhelir gan grantiau o ffynonellau gwladol a phreifat. LLYFRGELLOEDD Yn Llyfrgell y Coleg mae dros 300,000 o gyfrolau rhwymedig, gan gynnwys casgliadau arbenigol a chyfnodolion. Ceir cyfleusterau digymar ar gyfer pob pwnc yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. YSGOLORIAETHAU Dyfernir nifer fawr o ysgoloriaethau ar ganlyniadau arholiad a gynhelir ym mis Ionawr. Nid yw dal un o'r ysgoloriaethau hyn yn lleihau dim ar y grant y bo myfyriwr yn ei dderbyn oddi wrth awdurdod addysg lleol. NEUADDAU PRESWYL Cynigir llety i fyfyrwyr mewn neuaddau preswyl traddodiadol ac un neuadd "hunan-ddarpariaeth". Mae lle i 250 yn neuadd gymysg Gymraeg Pantycelyn. PROSPECTUS Gellir cael Prospectus y Coleg, Llawlyfr Cymraeg, a gwybodaeth bellach oddi wrth y Cofrestrydd. ddylai'r meddwl gwyddonol fynnu archwilio'r dystiolaeth sydd ar gael-yn ofalus iawn, a chyda'r un graddau eithafol o fanylder ag a roddir i ddatblygu (dyweder) un o'r cyffuriau neu un o'r technegau cyfoes ? Ac o oresgyn muriau rhagfarn, onid oes yna bosibilrwydd (o leiaf) y gwelid mai meysydd toreithiog, yn wir, yw'r meysydd gwaharddedig? Ystyriwn yr ail gategori: y pechod o ormodaeth a gyfyd yn sgîl yr angof o gyfyngiadau gwyddon- iaeth-tystiolaeth faterol a phrosesau meddyliol rhesymegol. Dro ar ôl tro, wele wyddonwyr yn mynnu gwneud yr 'extrapolations' mwyaf an- wyddonol, gan ymestyn canlyniadau'r dystiolaeth faterol/resymegol i destunau nad oes a wnelont â mater nac â rhesymeg. A hynny, yn aml, gyda chanlyniadau andwyol i ddynoliaeth. Un enghraifft benodol ? Difrodaeth ffydd. Y ffydd honno sydd, yng ngeiriau Paul, yn 'sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a wnelir'.