Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG PRIFYSGOL GOGLEDD CYMRU, BANGOR UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: SYR CHARLES EVANS, M.A., D.SC., F.R.C.S. Darperir cyrsiau gradd Prifysgol Cymru yng Nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth, Diwinyddiaeth a Cherddoriaeth. Mae'r cyfadrannau'n cynnwys testunau arferol curricula prifysgol, a cheir, yn ychwanegol, ddarpariaeth arbennig ar gyfer dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o bynciau. Y mae gan y Coleg chwe Neuadd Breswyl gan gynnwys Neuadd gymysg Gymraeg, sef Neuadd John Morris-Jones. Gellir cael manylion pellach a chopi o Brospectws y Coleg oddi wrth y Cofrestrydd. POLITECHNIG CYMRU PONTYPRIDD Prifathro: D. W. F. JAMES, B.SC., PH.D. Cyrsiau Gradd ADDYSG ASTUDIAETHAU BUSNES CEMEG CYFRIFIANNEG DYNIAETHAU MAINTFESURAETH MATHEMATEG A CHYFRIFIANNEG PEIRIANNEG ELECTRONIG PEIRIANNEG FECANYDDOL PEIRIANNEG GEMEGOL PEIRIANNEG SIFIL RHEOLAETH YSTADAU Cyrsiau H.N.D. ADEILADU ASTUDIAETHAU BUSNES ASTUDIAETHAU CYFRIFIADUROL CEMEG MATHEMATEG, YSTADEGAETH A CHYFRIFIANNEG MWYNGLODDIAETH PEIRIANNEG DRYDANOL AC ELECTRONIG PEIRIANNEG FECANYDDOL PEIRIANNEG GEMEGOL PEIRIANNEG SIFIL Darperir nifer o gyrsiau proffesiynol, y Diploma Addysg Uwch a chyrsiau rhan-amser yn ychwanegol i'r uchod Gellir cael Prosbectws a gwybodaeth bellach oddi wrth y Cofrestrydd Academaidd, Politechnig Cymru, Llantwit Road, Treforest, Pontypridd, Morgannwg Ganol.