Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I Ysgolion GoL. GARETH R. WILLIAMS CEMEG ORGANIG JOHN WRIGHT a BARRY JOHNSON ( Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam) Cyflwyniad Astudiaeth yw Cemeg Organig o gyfansoddion carbon heblaw am eu ocsidiau. Mae'r cyfansoddion yn cynnwys carbon wedi ymuno gyda hydrogen, ocsigen, nitrogen ac halogenau. Mae carbon yn arbennig oherwydd ei fod yn gallu ffurfio miloedd o gyfansoddion drwy ymuno â'i gilydd mewn dau ffurf, un ai cadwyn neu mewn cylch Gellir gwahaniaethu'r cyfansoddion ymhob dos- barth ymhellach i GYFRES HOMOLOGUS, lle (a) gellir eu paratoi gyda dulliau tebyg; (b) mae ganddynt briodweddau tebyg; (c) mae newid graddol yn eu priodweddau ffisegol; (ch) mae ganddynt fformwla cyffredinol. Hydrocarbonau Cyfeiriwyd eisoes at y ffaith fod carbon yn wahanol i elfennau eraill am ei fod yn gallu ffurfio nifer o gyfansoddion, a rhai o'r rhain gyda hydro- gen. Gelwir y cyfansoddion yma, sy'n cynnwys carbon a hydrogen yn unig, yn HYDROCARBONAU. Yr alcanau Teulu o hydrocarbonau gyda'r fformwla cyffredinol CnH2n + 2 (n > 1). Gwelir o'r tabl canlynol, fod cyfres homologus o alcanau yn dilyn patrwm arbennig, lle mae'r molecwlau yn mynd yn fwy wrth fynd i lawr y gyfres. Gwelir felly eu priodweddau ffisegol yn newid yn raddol. Mas Ymdodd- Berw- molecwlar Fformwla bwynt bwynt cymharol Methan CH4 —184°C —161°C 16 Ethan C2H6 -172 -88 30 Propan C3H8 -190 -45 44 Butan C4H10 -135 —0·5 58 Pentan C5H12 -132 -36 72 Hecsan C6H14 -94 +69 86 Gyda butan a'r alcanau sy'n is yn y gyfres, mae'n bosib cael ffurf neu gyfansoddyn arall gyda'r un fformwla molecwlar ond gyda fformwla ffram- weithiol gwahanol. Dywedir fod gan butan ISOMER, h.y.