Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

methyl propan (sef isomer o butan) Priodweddau methan Mae methan yn nwy di-liw, di-arogl sydd bron yn hollol annhoddadwy mewn dwr. Mae'n llosgi mewn aer gydag adwaith ecsothermig, CH4(n) + 202(n) > C02(n) + 2H20(n) + Gwres Mae methan yn rhan bwysig o nwy naturiol, a carbon deuocsid a stêm yw'r cynnyrch llosgiad. Mae methan yn adweithio'n araf gyda clorin gyda golau haul yn gweithredu fel catalydd. Ffurfir methyl clorid yn gyntaf, ac wedyn disodlir pob atom hydrogen yn ei dro i ffurfio ar y diwedd tetracloro-methan. CHd(n) + CI2(n)→ CH,CI(n) + HCI(n) Yr alcenau Teulu o hydrocarbonau gyda'r fformwla cyffredinol CnH2n (n > 2). Mae'r alcenau yn hydrocarbonau sy'n ANNIR- LAWN, h.y. nid ydynt yn cynnwys y nifer 'llawn' o hydrogen, ac mae ganddynt rhwymyn dwbl sydd yn eu gwneud yn fwy adweithiol. Gellir cymharu'r rhwymynau yn ethan ac ethen fel hyn: fframwaith electronig ethen Priodweddau ethen Mae ethen yn adweithiol iawn am fod ganddo rwymyn dwbl sy'n hollti i rhoi rhwymynau sengl gan gymeryd rhan mewn adwaith adio. Dangosir hyn yn gyffredinol fel: