Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau Henaint, ni ddaw Nutrition and Aging (gol. Myron Winnick), John Wiley, 1976. Pris £ 11.90. I'r biolegydd proffesiynol, prif amod parhad a datblygiad bywyd yw marwolaeth. Hyd yn oed i R. Williams-Parry-a oedd yn llawer llai sicr o'i bethau — 'Marw i fyw mae'r haf o hyd'. Heb fod marwolaeth yn digwydd yn rheolaidd ac yn ddi- eithriad ni fyddai na datblygiad nac esblygiad yn bosibl. Hawdd deall felly paham fod heneiddio a marwolaeth yn ffactorau mor waelodol ym myd natur. Nid ar chwarae bach y llwyddir i oresgyn y rhain. Ac a derbyn bod dyn yn llwyddo, rywdro, rywffordd i ddylanwadu ar y broses o heneiddio­ a thrwy hyn i estyn rywfaint ar hyd ei einoes-teg yw gofyn i ba raddau y dewisai arafu'r broses. Nes bod pawb yn cyrraedd y cant oed? Neu'r cant a hanner? Neu a fyddai'n chwennych creu cym- deithas statig a'i deiliaid yn fythol-hen? Cwestiwn annheg efallai i'w godi ar dudalennau'r GWYDD- ONYDD. Wedi'r cwbl, perffeithio'r moddion yw amcan pob gwyddonydd go iawn­-a hyn heb iddo orfod ymboeni'n ormodol am y dibenion. Trigain a deg, yn ôl yr Ysgrythur, yw oedran disgwyliedig dyn ar y ddaear; oedran a fu ymhell tu hwnt i gyrraedd y Cymro cyffredin hyd at yn gymharol ddiweddar-ac a erys felly o hyd i drigolion y rhan fwyaf o wledydd y Trydydd Byd. 'Yn ein gwlad ni y mae mwy na hanner ei phoblog- aeth yn meirw o dan bump ar hugain oed,' ysgrifennai J.P. (pwy bynnag ydoedd) yn ei lyfryn Cymraeg, 'Awgrymiadau ar Iechyd', a gyhoeddwyd yn Nolgellau yn 1844. 'A ydyw fod cymaint yn meirw mor fuan o angenrheidrwydd yn ganlyniad yr amgylchiadau ym mha rai y mae dyn wedi ei osod ynddynt?' gofynnodd yn nes ymlaen. Deil dynion i ofyn yr un cwestiwn heddiw — a'r duedd bellach yw credu mai natur ein lluniaeth yw'r pwysicaf ond odid o'r amgylchiadau hyn. Nid rhyfedd felly fod cred bur gyffredinol ar led ymhlith gwyddonwyr mai trwy newid ein lluniaeth yr ydym yn fwyaf tebygol o ddylanwadu ar y prosesau heneiddio ac ar glefydau henaint. Ymwneud â gwahanol agweddau ar y berthynas hon y mae'r casgliad ysgrifau yn llyfr Winnick. Disgrifia Morris Ross o Bensylfania rai o'i arbrof- ion ef ei hun sy'n cadarnhau astudiaethau blaenorol gan eraill ar y berthynas rhwng faint o fwyd a fwyteir gan berson a'i hirhoedledd. Dengys fod cyfyngu ar gyfanswm y lluniaeth yn hybu hir- hoedledd mewn llygod Ffrengig; mae Ross wedi dyblu hyd bywyd llygod yn y modd hwn. Llwydd- odd rhai o'i lygod i gyrraedd oedran o 1,800 diwrnod­-yr hyn o'i gyfieithu i dermau dynol (a chaniatáu fod y fath allosod yn wyddonol dderbyniol!) sy'n cyfateb i oedran o 180. Ni chyfeiria Ross at gyflwr 'seicolegol' ei lygod 'estyniedig'; bu eraill a wnaeth arbrofion cyffelyb yn honni mai golwg go druenus sydd ar lygod yr estynid eu hyd bywyd yn y modd hwn. Nid yw hyn yn syniad sy'n hollol ddieithr i Anghydffurfwyr Cymru, sydd wedi hen arfer â chyplysu byw yn fras a byrdra bywyd. Ac am resymau llai diwinyddol bu nifer yn y Canol Oesoedd-a chyn hynny am a wn i­-yn argymell cymedroldeb mewn bwyta fel polisi yswiriant ar gyfer hirhoedledd. Dyna i chwi'r Eidalwr Luigo Cornaro, awdur 'Sylwadau ar Fywyd Sobr a Chymedrol' (1558). Cafodd Cornaro droedigaeth ymborthegol pan oedd yn ddeugain oed; roedd ei gorff, yn ôl ei dystiolaeth ei hun, wedi mynd i gyflwr echrydus oherwydd gwledda a bwyta annisgybledig. Newidiodd Cornaro ei batrwm bwyta gan ei gyfyngu ei hun i 12 owns o fwyd bob dydd (bara, cig, cawl a wyau yn unig) a 14 owns o win. Bu farw'n gant oed. (Ac wrth fynd heibio, nid amhriodol efallai yw gofyn sut y llwyddodd Cornaro, os gwir ei ddisgrifiad o'i ddeiet, i osgoi'r sgyrfi; hanes gwahanol fu eiddo'r Dr. William Stark, ddwy ganrif yn ddiweddarach, a fu farw o'r sgyrfi ar ôl bwyta lluniaeth 'Cornaraidd' am gyfnod rhy hir.) Credid ar un adeg fod cysylltiad uniongyrchol rhwng hirhoedledd a lefel y protin yn y lluniaeth. Awgryma Ross nad gwir mo hyn bob amser a bod ffactorau eraill megis oedran yn gallu goleddfu dylanwad y protin. Nid fod modd diystyru dylanwad y protin yn llwyr yn hyn o beth. Daw hyn i'r amlwg pan ystyrir rhai o'r clefydau sy'n nodweddu henaint megis rhai mathau o diwmorau ac afiechydon y gyfundrefn wrinaidd. 4 y cant yw mynychder glomerulonephrosis (afiechyd yr elwlod) mewn llygod a dderbyn 10 y cant o brotin yn eu lluniaeth; 39 y cant yw'r mynychder cyfatebol pan fydd lefel y protin yn 51 y cant. Ceir sefyllfa gyffelyb mewn dynion. Y mae nifer o glefydau sydd â'u mynychder yn cynyddu fel yr heneiddia'r corff-rhai megis canser, clefydau'r galon ac ati. Ni ddigwydd y rhain ond yn bur