Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

anaml mewn pobl ifanc. Rhesymegol felly yw derbyn fod cysylltiad rhyngddynt â'r broses heneiddio-ac y mae penodau olaf llyfr Winnick yn ymwneud â'r berthynas dybiedig hon. Awgrymir gan Almy (pennod 9), Bierman (pennod 10) a chan Goodman a Smith (pennod 11) fod modd gostwng mynychder y clefydau hyn trwy ofalu bod ein lluniaeth yn un cymwys. Mae cryn dystiolaeth bellach mai po fwyaf o ffibr (megis us) a fwyteir, isaf i gyd yw mynychder anhwylderau'r perfedd. Cyflwyna Almy y ddamcaniaeth fod yr us yn ymgyplysu â'r asidau bustlog yn y perfedd a thrwy hyn yn rhwystro i facteria'r perfedd eu trawsnewid yn sylweddau carsinogenaidd. Damcaniaeth arall a drafodir yn bur fanwl yw'r awgrym fod a wnelo asidau brasterog trwythedig â datblygiad clefydau'r galon. Os gwir y ddwy ddamcaniaeth hon, wedyn gorau po fwyaf o fwydydd planhigol a fwytawn canys o blanhigion y daw ein ffibrau lluniaethol tra ATHROFA GWYDDONIAETH A THECHNOLEG PRIFYSGOL CYMRU PARC CATHAYS, CAERDYDD UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: A. F. TROTMAN-DICKENSON, D.SC. Cynigir CYRSIAU GRADD mewn CYFRIFEG BIOLEG GYMWYSEDIG FFISEG GYMWYSEDIG GWYDDONIAETH GYMWYSEDIG ASTUDIAETHAU PENSAERNIOL BANCIO A CHYLLID TECHNOLEG ADEILADU GWEINYDDIAETH BUSNES CEMEG PEIRIANNEG SIFIL ECONOMEG PEIRIANNEG DRYDAN AC ELECTRONEG Darperir nifer o gyrsiau wedi-gradd, a chynigir ysgoloriaethau ymchwil. Ceir y Prospectws a phob manylion oddi wrth Gofrestrydd y Coleg. bod asidau brasterog trwythedig yn fwy nodwedd- iadol o ffynonellau anifeiliol. Ond at ei gilydd, pur annelwig a niwlog yw'r cyngor a gyflwynir inni gan wyddonwyr ar sut i fyw yn hen. A 11e bo damcaniaethau ar gael, rhai a sylfeinir ar gydberthyniadau ydynt yn hytrach na rhai sy'n deillio o ystyriaethau achos-ac-effaith. Mae'n bur debyg fod y rhan fwyaf ohonom yng Nghymru yn bwyta'n anaddas; mae'n bur debyg hefyd fod y rhan fwyaf ohonom yn bwyta llawer mwy o fwyd nag sydd arnom ei eisiau-ffaith y dylai pob hirhoedledd-chwiliwr gadw mewn cof. Mwy na hyn ni ellir ei ddweud. 'Pan fwyteych, na fwyta dy holl awydd ond gad beth o chwant bwyd arnat,' oedd cyngor Meddygon Myddfai. Cyngor anghyflawn efalIai-ond llawn mor agos at y gwir â dim byd arall sydd gan wyddoniaeth gyfoes i'w gynnig. R.E.H. ELECTRONEG PEIRIANNEG GYNHYRCHU Y GYFRAITH ASTUDIAETHAU MORDWYOL CLUDO CYDWLADOL MATHEMATEG PEIRIANNEG FECANYDDOL ASTUDIAETHAU SAESNEG MODERN SEICOLEG ALWEDIGAETHOL OPTEG OPHTHALMIG FFERYLLEG GWLEIDYDDIAETH CYNLLUNIO DINESIG YSTADEGAETH