Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Chwech o Gymrodyr y Gymdeithas Frenhinol sy'n gweithio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ar risiau'r fynedfa Labordy Edward Davies. O'r chwith i'r dde: Yr Athro Emeritus Gwendolen Rees (Swoleg), Yr Athro John M. Thomas (Cemeg), Yr Athro J. S. Anderson (Cemeg), Yr Athro P. F. Wareing (Llysieueg), Yr Athro John P. Cooper (Cyfarwyddwr y Fridfa Blanhigion Gymreig), Yr Athro Syr Granville Beynon (Ffìseg). Mae yn y Coleg ddau Gymrodor arall, sef Yr Athro Hubert Rees (Llysieueg Amaethyddol) a'r Athro J. Heslop Harrison (Athro Ymchwil yn y Fridfa Blanhigion) ABERYSTWYTH Anrhydeddu Gwyddonwyr. Mae dau o brif wyddonwyr Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth wedi eu hethol yn Gymrodyr y Gymdeithas Frenhinol (F.R.S.). Y ddau yw'r Athro John P. Cooper, Cyfarwyddwr y Fridfa Blanhigion Gymreig, a'r Athro John M. Thomas, Pennaeth yr Adran Gemeg. Ymunodd yr Athro John Cooper â staff y Fridfa Blanhigion, Plas Goger- ddan, ym 1946, a bu'n Bennaeth yr Adran Geneteg Ddatblygol cyn ei benodiad yn Gyfarwyddwr ym 1975. Bu'n ymchwilio'n bennaf ar gynhyrch- iant cnydau, yn arbennig gweiriau pori. Mae wedi gweithredu am gyfnodau fel athro neu ymchwilydd ar ymweliad mewn naw o wledydd tramor. Fel Cyfarwyddwr y Fridfa mae'r Athro Cooper yn arwain tîm o dros gant o wyddonwyr sy'n ymwneud â dulliau a thechnegau bridio planhigion. Mae'r gweiriau a'r ydau a gynhyrchir gan y Nodion o'r Colegau Fridfa yn cael eu defnyddio'n helaeth yn y diwydiant amaethol, nid yn unig yng Nghymru ond drwy Brydain ac mewn gwledydd tramor. Y llynedd, derbyniodd y Fridfa Wobr y Frenhines am Gyflawniad Technolegol, am ddat- biygu'r mathau newydd o rygwellt y mae Sabrina yn enghraifft gyntaf ohonynt. Mae'r Fridfa, ynghyd ag Adran Llysieueg Amaethyddol y Coleg, yn addysgu myfyrwyr graddedig, lawer ohonynt yn dramorwyr, mewn gwydd- oniaeth planhigion. Mae'r Athro John M. Thomas yn gyn-fyfyriwr o Ysgol Ramadeg y Gwen- draeth a Choleg y Brifysgol, Abertawe. Yn 44 mlwydd oed, mae'n un o'r gwyddonwyr ieuengaf i gael ei ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol. Ers ei benodiad i Gadair Cemeg yn Aberystwyth ym 1969 bu'n arwain grwp llewyrchus o wyddonwyr sy'n ymchwilio ac addysgu ym maes cemeg ystad soled. Un o'i gymrodyr ymchwil yn y maes hwn yw'r Athro J. S. Anderson, F.R.S., cyn-Gyfarwyddwr y Labordy Cemegol Genedlaethol a Phennaeth Labordy Cemeg Anorganig ym Mhrifysgol Rhyd- ychen. Eisoes derbyniodd yr Athro Thomas wobrau Corday Morgan a Tilden am ei waith ymchwil mewn Cemeg. Mae'n Gymro Cymraeg, a threuliodd bron y cyfan o'i yrfa yng Nghymru, heblaw am gyfnodau byrion mewn nifer o wledydd tramor. Cyn ei benodi i'w swydd bresennol yr oedd yn Ddarllenydd mewn Cemeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Felly, y mae yn awr wyth Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn gweithio yn y Coleg, pedwar ym maes Llysieueg a Bridio Planhigion, dau mewn Cemeg, un mewn Sŵoleg ac un mewn Ffiseg. Ac eithrio Caergrawnt, Rhydychen a Llundain, mae gan Aberystwyth, o blith ei gwyddonwyr, y cyfartaledd uchaf o Gymrodyr o holl brifysgolion Prydain. J.B.