Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG Y BRIFYSGOL, CAERDYDD UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: C. W. L. BEVAN, c.b.e., D.sC. Y mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r Coleg ym Mharc Cathays. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau Prifysgol Cymru (B.A., B.Sc., B.Sc.Econ., LL.B., B.Mus.). Gellir astudio'r pynciau a ganlyn: YNG NGHYFADRAN Y CELFYDDYDAU Cymraeg, Saesneg, Lladin, Groeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Portwgaleg, Hebraeg, Athroniaeth, Efrydiau Beiblaidd, Hanes, Hanes Cymru, Cerddoriaeth, Archaeoleg, Addysg, Mathemateg, Seicoleg, Economeg, Cyfraith. Gellir cymryd gradd B.Mus. yn yr Adran Gerddoriaeth. YNG NGHYFADRAN EFRYDIAU ECONOMAIDD A CHYMDEITHASOL Economeg, Cyfraith, Athroniaeth, Cyfrifyddiaeth, Cysylltiadau Diwydiannol, Seicoleg, Gweinyddiad Cymdeithasol, Cyfarwyddo a Rheoli Gweithwyr, Gwyddor Gymdeithasol, Gwleidyddiaeth, a Chymdeithaseg. Gellir cymryd gradd LL.B. drwy Ysgol y Gyfraith Caerdydd. YNG NGHYFADRANNAU GWYDDONIAETH A GWYDDONIAETH GYMWYSEDIG Mathemateg Bur, Mathemateg Gymwysedig, Ystadegau, Ffiseg, Mathemateg Gyfrifyddol, Cemeg, Llysieueg, Swoleg, Microbioleg, Daeareg, Electroneg, Anatomeg, Ffisioleg, Biocemeg, Meteleg, Mwyngloddiaeth, Peirianneg Sifil, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Drydanol ac Electronig, Seicoleg, Archaeoleg, ac Economeg. Y mae gan y Coleg neuaddau preswyl ar gyfer dynion a merched. Ceir hefyd feysydd chwarae, gymnasiwm. ac Undeb Myfyrwyr newydd i'w rannu gyda'r Athrofa. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn gan y Coleg ar sail canlyniadau'r flwyddyn gyntaf. Adeiladwyd Canolfan Cyfrifiaduron i ddal cyfrifiadur l.C.L. 4-70. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. YSGOL FEDDYGOL GENEDLAETHOL CYMRU, CAERDYDD (PRIFYSGOL CYMRU) Llywydd: SYR CENNYDD TRAHERNE, K.G., K.ST.J., t.d., LL.D., M.A., J.P. Pennaeth: J. P. D. MOUNSEY, M.A., M.D., F.R.C.P. Cofrestrydd: T. R. SAUNDERS, B.A. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau meddygol Prifysgol Cymru (M.B., B.Ch., B.D.S.) Hefyd ceir yn awr Gwrs Gradd mewn Astudiaethau Nyrsio Uwch (B.N.). Dylid dychwelyd y ffurflenni cais i Ganolfan Ceisiadau am Fynediad i'r Prifysgolion. G.P.O. Box No. 28, Chelten- ham, GL50 1 HY, erbyn 15 Rhagfyr. Gellir gwneud cais cyn cael canlyniadau'r arholiad a gydnabyddir gan y Brifysgol ar gyfer matriculation. Ceir hefyd gyrsiau ar ôl gradd, sy'n arwain i ddiploma mewn Radiodiagnosis Meddygol (Cymru), a diploma mewn Darfodedigaeth a Chlefydau'r Frest (Cymru), a gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. Dylai'r rhai sydd am ymgymryd ag astudiaethau meddygol neu ddeintyddol gael eu ffurflenni cais oddi wrth eu hysgolion neu golegau neu oddi wrth y Cyngor Canolog, G.P.O. Box No. 28, Cheltenham, GL50 1HY. Dylid anfon ceisiadau i'r Cyngor Canolog erbyn 15 Rhagfyr yn y flwyddyn sy'n blaenori'r flwyddyn y disgwylir cychwyn ar y cwrs. Dylíd cyfeirio pob ymholiad ynglyn a'r cyrsiau at y Cofrestrydd, Ysgol Feddygol Cymru, Parc Heath, Caerdydd CF4 4XN.