Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ond beth am ddefnyddio'r moroedd neu'r daeargrynfeydd er mwyn ymosod? Coeliwch chi neu beidio, mae Rwsia ac America yn ceisio perffeithio'r technegau hyn o ymosod (Gweler Bhupendra M. Jasani yn Ambio 1975, 4, Rhif 5/6). Bu'r datblygiadau'n ddigon llwyddiannus nes cymell y ddwy wlad i gytuno (ar 21 Awst 1975) i ddechrau cyfres o drafodaethau dirgel. Bellach mae drafft o gytundeb y carent ei gynnig i Bwyllgor Diarfogi y Cenhedloedd Unedig wedi ei lunio. Mae'r technegau wedi eu rhestru: 1. Arall-gyfeirio niwl neu gwmwl. 2. Cynhyrchu niwl. 3. Cynhyrchu cenllysg. 4. Rhyddhau cemegolau i newid nodweddion trydanol yr awyrgylch. 5. Rhyddhau meysydd electomagnetig i'r amgylchedd. 6. Cynhyrchu a chyfeirio stormydd niweidiol. 7. Cynhyrchu glaw neu eira. 8. Newid yr hinsawdd. 9. Torri twll yn yr haen ozon/ioneiddio. 10. Rheoli mellt. 11. Newid nodweddion ffisegol, cemegol a thrydanol y moroedd. 12. Ychwanegu ymbelydredd i'r moroedd. 13. Cynhyrchu tonnau anferth (tsunamis). 14. Cychwyn daeargrynfeydd. 15. Llosgi'r ddaear ar raddfa eang. 16. Newid cwrs afonydd. 17. Cychwyn symudiadau perygl o'r ddaear. 18. Creu neu ddefnyddio llosgfynyddoedd. Nid yw'r cytundeb (sydd ond ar ffurf drafft ar hyn o bryd) yn gwahardd ymchwil i'r technegau hyn, ond bydd, mewn cytundeb â Siarter y Cenhedloedd Unedig, yn rhoi hawl i banel o wledydd i archwilio effeithiau anarferol i sicrhau nad oes un wlad yn torri'r cytundeb. Dyddiau cynnar yw'r rhain eto, ac mae cryn amheuaeth ymhlith y gwledydd llai nad ydynt yn aelodau o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. O dan y cyfansoddiad presennol mae unrhyw gytundeb yn dibynnu ar gydweithrediad y pwerau sefydlog i'w weithredu. Eto mae arwyddion bod America a Rwsia yn ddigon pryderus ynghylch y datblygiadau hyn iddynt symud yn weddol gyflym i gwblhau'r cytundeb. Mae llawer o fanylion technegol cymhleth i'w datrys, ond yr hyn sydd yn anhygoel yw fod trafodaethau difrifol yn gorfod cael eu cynnal ar bynciau oedd gynt yn perthyn i ffug- wyddoniaeth. Nid oes terfyn i ddyfeisgarwch dyn i ladd ei gyd-ddyn, hyd yn oed pe bai'n dinistrio'r byd yr un pryd. Poenyn Pennä' Rhif3; Clorian y Cardi (o dud. 133). Ateb: Druan ohono, mae f'ewyrth Llew yn twyllo'i hun, oherwydd mae'r cwsmeriaid yn cael mwy na phwys o flawd am eu harian! Bwriwch mai 'a' yw hyd y fraich chwith ac mai 'b' yw hyd y fraich dde. Gan ddefnyddio momentau (neu synnwyr cyff Y Cenhedloedd Unedig GLYN O. PHILLIPS a b redin!) cyfanswm pwysau'r blawd yw p = 2b 2a a b Nawr, mae p 1 = 1 1 = 2b 2a a2 + b2 2ab (a b)2 2ab 2ab Gan fod y rhif hwn yn bositif mae'n dilyn fod ]• yn fwy nag 1.