Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'O ba radd y bo'i wreiddyn' ARTHUR TROUGHTON Bridfa Blanhigion Cymru CYDNABYDDIR yn gyffredinol gan fiolegwyr fod hynafiaid ein planhigion tir yn byw mewn dwr, ac yn ddigon posibl yn y môr. Yn ddiamau rhai uncellog oedd yr organebau cyntaf y gellid eu hadnabod fel planhigion, ac yn symud o gwmpas gyda'r cerrynt heb gartref parhaol, megis y gwna'r plancton heddiw. Erbyn iddynt ddatblygu'n organ- ebau Iluosgell yr oedd rhai ohonynt wedi cael mantais ar eu cymdogion drwy ddewis aros yn agos at wyneb y môr. Drwy hyn caent uchafswm o oleuni, a'r ynni hwn yn eu galluogi i droi diocsid carbon o'r dwr yn garbohidradau cymhleth i'w defnyddio ganddynt ar gyfer tyfu. Fe ddichon i'r planhigion lluosgell cynnar hyn drechu effeithiau'r cerrynt drwy angori eu hunain wrth graig gerllaw wyneb y dwr a sicrhau safle barhaol. I'r pwrpas hwn datblygwyd ganddynt organ a lynai wrth y graig drwy sugnedd, megis y gwna gludafael rhai mathau o wymon heddiw. Hwn ydoedd hynafiad ein systemau gwreiddiau presennol. Un swyddogaeth yn unig oedd gan y gludafael, sef angori, ac erys hwn yn un o swyddogaethau gwreiddiau ein planhigion tir presennol. Ond mae ganddynt swyddogaethau eraill a ddaeth i fod pan symudodd y planhigion o'r dwr i'r tir. Cafwyd amryw fanteision drwy'r symud hwn, ac un o'r rhai pennaf ydoedd cynyddu dwysedd y goleuni, gan nad oedd yn rhaid i hwnnw mwyach dreiddio drwy'r dwr. Ond y newid mwyaf oedd amgylch- ynnu'r planhigion i raddau helaeth iawn ag awyr neu nwy ac nid â hylif. Mae metabolaeth planhigion yn dibynnu ar ymweithiau cemegol yn digwydd yn y wedd hylifol (toddiant mewn dwr). Felly, cyn y gallai'r planhigion fyw ar y tir 'roedd yn hanfodol iddynt addasu eu hunain i gadw cyflenwad digonol o ddwr yn eu meinweoedd. Dim ond o dan amgylchiadaii eithriadol yn unig y gallai planhigion y tir gasglu digon o ddwr o'r awyr, ac fel rheol collant fwy o ddwr i'r awyr nag a gânt oddi yno. Yr unig ran o'r amgylchedd sydd â digon o ddwr ynddo i blanhigion tir yn ystod y rhan fwyaf o'r amser yw'r pridd, ac am hynny fe ddaeth swyddog- aeth newydd i'r gwreiddiau, sef amsugno dwr. Ni wyddom pa ffurf ar wreiddyn a ddatblygwyd gyntaf i amsugno dwr o'r pridd, ond erbyn hyn mae gan y gwahanol blanhigion addasiadau cymhleth eithriadol ar gyfer hyn. Yr un, fodd bynnag, yw'r egwyddorion sylfaenol i bob math o wreiddiau er ei fod yn weithgarwch dyrys, a hynny'n bennaf oherwydd nifer mawr y prosesau sy'n ymwneud â hyn, a'r gwahaniaethau yn eu cyflymder gweithio. Y broses amlycaf yw mynd â'r dwr o'r pridd i mewn i gelloedd allanol (epidermis) y gwreiddiau, ei drawsgludo drwy'r gwreiddiau i'r xylem, sef cyfres o gelloedd ar ffurf pibellau, sy'n ei gludo i'r dail lle mae'n cael ei drydarthu. Yn ystod ei daith o'r epidermis i'r xylem rhaid i'r dwr dreiddio drwy nifer o wahanol fathau o gelloedd a phob un ohonynt â graddau gwahanol o wrthiant i symudiad y dwr. Nid y 'galw' am ddwr gan blanhigion­-pan fo'r dail yn trydarthu neu ar gyfer y prosesau metabolig -yw'r unig ffactor sy'n rheoli'r hyn a gymerir i mewn, canys fe'i rheolir hefyd gan y 'cyflenwad*. Mae hwn yn fater tra chymhleth, a datblygiad theori trylediad a hwylustod cyfrifiadur a'i gwnaeth yn bosibl i wneud cyfrif o'r hyn sy'n digwydd i ddwr pridd yng nghyffiniau'r gwreiddiau amsugnol. Bu'n rhaid defnyddio modelau mathemategol, gan fod symiau a phellterau mor fychan yn ei gwneud yn anodd iawn i gael mesuriad uniongyrchol. Wrth dyfu, gwthia blaenau'r gwreiddiau drwy'r gwagleoedd rhwng gronynnau'r pridd a dod i gyffyrddiad uniongyrchol â'r dwr pridd sy'n ffilm oddi amgylch y gronynnau hyn. Caiff y dwr sydd gerllaw blaenau'r gwreiddiau ei amsugno'n gyflym, ac fe'i amnewidir drwy drylediad o'r pridd cyfagos. Dibynna cyfradd y trylediad ar 'raddiant' y dwr rhwng y ddau bwynt uchod-po fwyaf y graddiant mwyaf hefyd fydd cyfradd y trylediad. Felly, po gyflymaf yr amsugnir y dwr, yna'r cyflymaf i gyd y tryleda'r dwr tuag at y gwreiddiau o'r pridd o'u cwmpas. Mae mathemateg trylediad yn ddigon gwybyddus i'n galluogi i gyfrif mai symudiad y dŵr drwy'r pridd, yn y rhan fwyaf o achosion, yw'r broses fwyaf araf yn ystod ei symudiad o safle ryw ychydig y tu allan i'r gwreiddiau tan iddo gael ei drydarthu fel anwedd gan y dail. Felly fe amgylchynir y gwreiddyn sy'n tyfu ga 1 batrwm ar ffurf côn o wahaniaethau yn swm y d\\ r a gynhwysir yn y pridd. Ger blaenau'r gwreiddia