Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Debygwn i SAFBWYNT PERSONOL AR WYDDONIAETH HEDDIW Eirwen Gwynn YR wyf am fentro. Yr wyf am gyfaddef yng ngholofnau ysgolheigaidd y GWYDDONYDD i mi weld gwrthrych hedegog dieithr, os dyna yw UFO yn Gymraeg. Ym Mehefin 1967, mi fues i'n recordio rhaglen deledu ar 'Fywyd yn y Gofod' ac yn honno, mi geisiais drin y broblem o ffenomenau anesbon- iadwy yn yr awyr mor ddi-duedd ag y medrwn gan ddweud na welais i erioed ddim byd o'r fath fy hun. Bum yn sgwrsio ar y rhaglen efo gwr oedd, gyda nifer o gyfeillion, wedi gweld un wrth bysgota yn Nyffryn Maentwrog yn oriau mân y bore; nid oedd yr un o'r lleill yn fodlon datgan yn gyhoeddus iddynt weld dim o'r fath er i bob un ohonynt roi disgrifiad manwl i mi yn bersonol. Trannoeth, newydd i mi ddychwelyd o Gaerdydd i Fangor, ffoniodd cyfaill o Benygroes i ddweud wrthyf am wylio'r ffurfafen i gyfeiriad Ynys Môn. A dyna pryd y gwelais i'r peth-fi a'r gwr a chymdogion; ac erbyn deall, llu o bobl eraill ym Môn ac Arfon; ac yn ddiweddarach, yn yr Iwerddon. Gyda'r nos o haf oedd hi, yn rhy gynnar i unrhyw seren fod yn weladwy. Yr hyn a welwyd, trwy gymorth gwydrau dau lygad, oedd ffurf côn ar ei ochr gyda golau coch rhwng coesau'r côn fel petai a ffurf arall fel olwyn dros ben main y côn (gweler y lluniad). Yr oedd cysondeb llwyr yn nisgrifiadau pawb o'r hyn a welsant ac mi gefais ar ddeall fod rhywrai swyddogol, gydag offer priodol, wedi rhoi uchder y peth yn naw neu ddeng milltir a'i natur yn fetalaidd­-ond iddynt wrthod cydnabod wrth fechgyn y wasg iddynt weld dim. Yn wir, mewn wythnosolyn lleol y cafwyd yr unig adroddiad a hynny i'r perwyl fod llawer o bobl wedi gweld un o loerennau'r Americanwyr yn mynd drosodd. Yn awr, ni fedrai hwn fod yn lloeren. Nid yw lloeren yn aros yn ei hunfan am tua dwy awr ac yna'n saethu i ffwrdd yn ddisymwth ac yn anghredadwy o gyflym. I ymddangos yn llonydd, rhaid i loeren fod 22,300 milltir o'r ddaear sy'n llawer rhy bell i fod yn weladwy drwy ein gwydrau ni. Ac ni fedr unrhyw loeren o wneuthuriad dyn gylchynu, heb sôn am aros, cyn ised â deng milltir-os oes coel i'w roi ar yr adroddiad am uchder y peth. Beth oedd ynteu? Ai llongofod o fyd arall ? Ni wn i. Ond byth oddi ar hynny, yr wyf wedi bod yn barotach i wrando ar adroddiadau am wrthrychau dieithr yn yr awyr. Adwaen erbyn hyn gryn nifer o bobl cwbl sobr a chyfrifol sydd wedi gweld pethau felly er mai prin yr un ohonynt sy'n fodlon cyfaddaf hynny'n gyhoeddus. Fawr ryfedd o gofio na cheir yr awdurdodau i gydnabod bodolaeth y GHD (UFO's) a bod y mwyafrif o wyddonwyr uniongred yn eu priodoli un ai i ffenomenau naturiol a dealladwy neu i ddychmygion personau gwan eu meddwl.