Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Melanedd diwydiannol Detholiad naturiol yn digwydd fel canlyniad i'r amgylchedd ddiwydiannol MARGARET ELLIS JONES PAROD iawn yw haneswyr heddiw i gydnabod yr effeithiau syfrdanol ar fywydau trigolion yr ynys- oedd hyn fel canlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol a gyrhaeddodd ei uchafbwynt yng nghanol y ganrif ddiwethaf. Hawdd iawn felly wrth ganolbwyntio ar y newidiadau pendant yma ar ddyn a'i ffordd o fyw yw esgeuluso'r effeithiau llai dramatig ond pwysig serch hynny ar fyd natur. Yn yr erthygl hon edrychwn ar effaith yr amgylchedd ddiwydiannol yma ar un math o wyfyn a'r golau a deflir gan yr astudiaeth ar agwedd bwysig o Esblygiad. Yr astudiaeth ei hun-astudiaeth o felanedd diwydiannol Dyma'r enw a roddir ar y ffenomen lle y gwelir y gwyfyn yn newid ei ffurf olau batrymog i ffurf ddu, ac o'r 780 rhywogaeth o MACROLEPIDOPTERA a geir yn ynysoedd Prydain gwelir fod mwy na 70 wedi mynd drwy'r broses yma o newid. Yr esiampl bwysicaf, fodd bynnag, yw'r gwyfyn o'r enw biston betularia (y Peppered Moth yn Saesneg). Nid syndod yw deall mai ym Manceinion ym 1849 y darganfuwyd y ffurf ddu o'r gwyfyn yma am y tro cyntaf-y ffurf a adwaenir wrth yr enw biston BETULARIA CARBONARIA. Gwelir fod Manceinion yng nghanol ardal geni'r Chwyldro Diwydiannol. Tua 10,000 oedd poblog- aeth y ddinas ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif, a bu cynnydd syfrdanol i 300,000 ym 1850 ac erbyn 1900 yr oedd hanner miliwn o bobl yn byw yma. Un a fu yn Ilygad-dyst o'r chwyldro oedd y nofelydd Elizabeth Gaskell a ysgrifennodd fel a ganlyn yn un o'i llyfrau a gyhoeddwyd ym 1855. Disgrifia deulu yn cyrraedd gorsaf Manceinion am y tro cyntaf: 'Quick they were whirled over long, straight, hopeless streets of regularly built houses, all small and of brick. Here and there a great oblong, many-windowed factory stood up, like a hen among her chickens, puffing out black un- parliamentary smoke and accounting for the cloud which Margaret had taken to foretell rain'. Llun I. Coeden mewn ardal wledig. Gwelir i'r ffurf felanig fod yn llawer mwy amlwg yma Llun 2. Coeden mewn ardal ddiwydiannol. Gwelir i'r ffurf wreiddiol fod yn amlwg iawn yma