Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PILOSARIA. Mae'n amlwg fod rhyw fath o ryng- weithiad rhwng y genyn melanig, yr amgylchedd ac ymddygiad y gwahanol fathau. Esboniad eithaf pwysig yw'r ffaith fod dau fath o felanig yn bosibl, y math HETEROSYGUS a'r math homosygus. Efallai felly fod y ffurf heterosygus yn gryfach na'r homosygus trechol a'r un enciliol ac felly fe fyddai anghysondeb yn y ffigurau. Casgliad arall a gyrhaeddwyd gan y gwyddonwyr yma yw i'r polymorffiaeth y sonir amdano yn yr erthygl hon fodoli yn fwyaf arbennig am dri rheswm: (1) Mantais y gwyfyn heterosygus dros y gweddill. (2) Cystadleuaeth am fannau i orffwyso. (3) Y broses o fudo rhwng yr ardaloedd gwledig a'r rhai diwydiannol. A oes unrhyw dystiolaeth yn yr astudiaethau diweddaraf yma fod yna wrthdroad yn amledd y ffurf felanig fel canlyniad i buro'r aer? Rhaid cofio, ATHROFA GWYDDONIAETH A THECHNOLEG PRIFYSGOL CYMRU PARC CATHAYS, CAERDYDD UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: A. F. TROTMAN-DICKENSON, d.sc. Cynigir CYRSIAU GRADD mewn ASTUDIAETHAU PENSAERNIOL ASTUDIAETHAU MORWROL: CLUDO CYDWLADOL DAEARYDDIAETH MASNACH FORWROL TECHNOLEG FORWROL ASTUDIAETHAU SAESNEG MODERN BANCIO A CHYLLID BIOLEG GYMWYSEDIG CEMEG CEMEG POLYMERAU A THECHNOLEG CYFRIFEG CYNLLUNIO DINESIG ECONOMEG ECONOMEG BUSNES ECONOMEG DDIWYDIANNOL ELECTRONEG j^arpenr nner o gyrsiau wedi-gradd, a chymgir ysgoloriaethau ymchwil. Ceir y Prospectws a phob manylion oddi wrth y Cofrestrydd Academaidd, UWIST Caerdydd, CF1 3NU. wrth gwrs, fod newidiadau yn y genynnau yn broses araf iawn, felly ni ddylid disgwyl newid syfrdanol yn fuan. Serch hynny, mae peth newid wedi ei nodi gan Clarke a Sheppard ar y Wirral. Rhwng 1961 a 1964 yr oedd cynnydd yn y ffurf wreiddiol o 5-2% i 8-9%. Erbyn 1974 yr oedd y cynnydd wedi cyrraedd 10-5%. Yn ogystal, ym Manceinion, lle methwyd â chael hyd i un gwyfyn o'r math gwreiddiol yn niwedd y pumdegau a dechrau'r chwedegau, gwelir iddynt yn awr ffurfio 2-5% o'r samplau. Er fod llawer iawn o waith eto i'w wneud ar yr astudiaeth hon, fe ddengys heb unrhyw amheuaeth fod Detholiad Naturiol yn digwydd yn yr achos yma fel canlyniad i ymgais dyn i ddatblygu diwyd- iant yn yr ynysoedd hyn a'i gamrau diweddarach i niwtraleiddio rhai o effeithiau drwg yr ymgais wreiddiol hon. Lluniau Daw Lluniau 1-4 o A Handbook on Evohition, Gavin de Beer, Llundain, 1970. FFERYLLEG FFISEG GYMWYSEDIG FFISEG GYFLWR SOLED GWEINYDDIAETH BUSNES GWLEIDYDDIAETH MATHEMATEG A'I CHYMWYSIADAU OPTEG OPHTHALMIG PEIRIANNEG DRYDAN AC ELECTRONEG PEIRIANNEG FECANYDDOL PEIRIANNEG GYNHYRCHU PEIRIANNEG SIFIL SEICOLEG ALWEDIGAETHOL SEICOLEG GYMDEITHASOL GYMWYSEDIG Y GYFRAITH YSTADEGAETH GWYDDOR YR AMGYLCHEDD/ CEMEG BUR A CHYMWYSEDIG