Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Haydn Edwards yn sgwrsio gyda'r Athro W. J. Orville-Thomas, D.Sc, Ph.D., F.R.I.C. Cadeirydd Adran Gemeg Prifysgol Salford H.E.E. Rwyf yn deall mai o Gwm Tawe 'rydych yn hanu. Beth wnaeth i chwi gymryd diddordeb mewn gwyddoniaeth ? O.T. Gadewais Gwm Tawe pan oeddwn tua wyth oed a mynd i Burry Port. Felly i Ysgol Ramadeg Llanelli yr es i. Nid wyf yn gwybod pam, ond o'r dechrau cemeg oedd fy hoff bwnc. 'Roedd rhywbeth tu fewn i fi'n dweud: Reit, cemeg yw'ch byd chi. Wedyn ymlaen i wneud lefel-A ac i Aber- ystwyth i wneud anrhydedd mewn cemeg. H.E.E. Ond oedd 'na symbyliad gwyddonol neu academaidd yn eich cefndir? O.T. Nac oedd. 'Doedd dim cefndir addysg yn y teulu. Glöwr oedd fy nhad, am dros ddeng mlynedd ar hugain, cyn agor siop fach yn Burry Port. Fi oedd y cyntaf o'r teulu ar ochr 'nhad, a bron y cynta ar ochr mam i fynd i Brifysgol. 'Roedd mam yn un o ddeunaw o blant a 'nhad yn un o dri ar ddeg, ac felly mae nifer mawr o berthnasau gyda fi. H.E.E. Felly, o gefndir diwydiannol y De i Geredigion. Sut le oedd yn Aberystwyth y blynydd- oedd hynny? O.T. Lle bychan oedd Aberystwyth ar ddech- rau'r rhyfel gyda thua wyth gant o fyfyrwyr yno a phawb yn nabod ei gilydd. Lle hoffus iawn oedd e. 'Doedd Adran Gemeg Aberystwyth ddim yn dda iawn achos bod rhai o'r goreuon yn gwneud gwaith rhyfel, ond yn ffodus iawn fe ddaeth Coleg y Brif- ysgol Llundain i Aberystwyth fel evacuees ac 'roedd staff UCL yn darlithio i ni. Felly cawsom y goreuon yn Ewrop yn darlithio yno-pobl fel Hughes, Ingold a Poole. H.E.E. Oedd hyn yng nghyfnod Cambell-James yn Aberystwyth? O.T. 'Roedd Cambell-James wedi 'madael â chemeg erbyn hynny, ac fel is-brifathro 'roedd e'n hala'i amser ar weinyddu. Ar ôl y rhyfel 'roedd Cambell-James wedi ymddeol, a C. W. Davies oedd yno. Dyn galluog iawn, ac fe newidiodd yr adran yn fawr. Gwnes anrhydedd ar ôl y rhyfel yn 1948, ac wedyn ymchwil gyda Mansel Davies. Y fi oedd un o'i fyfyrwyr cyntaf, ac ar ôl gorffen Ph.D. yn 1950 fe weithies am flwyddyn yn yr Almaen a blwyddyn yn U.D.A., a phan oeddwn i yno ces fy mhenodi yn ddarlithydd yn Aberystwyth. 'Roedd- wn yn lwcus i gael y swydd gan fod y pumdegau cynnar yn gwmws 'run peth â'r sefyllfa nawr. Cyn i'r Prifysgolion ddechrau tyfu. H.E.E. Fe garwn i eich holi ynghylch y cyfnod hwn, gan ddechrau efo'r rhyfel. Oedd gwasanaeth milwrol yn fwy o felltith na bendith i chi? O.T. Wel, un o'r bendithion oedd i mi fynd i'r Royal Signals a dysgu llawer am radio a circuits sydd wedyn wedi bod o fantais i fi mewn spectroscobeg. H.E.E. Felly ddaru'r rhyfel ddim amharu llawer arnoch. O.T. Naddo. H.E.E. Ac ar ei ddiwedd, mynd i'r Almaen i wneud gwaith ymchwil. O.T. Ie. Rown i'n cydweithio gyda R. Mecke. Fe oedd yr Athro gorau mewn Cemeg Ffisegol yn yr Almaen, ac un o oreuon y byd yn y maes rown