Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llwybrau Cymru Bae Clarach o ben Llwybr Craig Glais Nid bob amser y ceir llwybr natur yn dechrau a gorffen ei daith ar bromenâd. Ond dyna wna'r llwybr newydd sbon hwn a sefydlwyd yn ddiweddar gan Gangen Ceredigion o Ymddiriedolaeth Natur- iaethwyr Gorllewin Cymru, Cyngor Tref Aber- ystwyth, a'r Corfflu Gwarchodaeth Cenedlaethol. Tair milltir o hyd a gwaith rhyw ddwy awr o gerdded yw'r llwybr hwn. Fel y gwyr y cyfarwydd, Craig Glais yw'r hen enw, a'r enw cywir, ar Constitution Hill (neu Consti i'r bobl leol a chenedlaethau o fyfyrwyr atgofus), sef y bryn creigiog uwchlaw'r môr rhwng pendraw gogleddol y promenâd yn Aberystwyth a dyffryn Clarach yr ochr draw iddo. Gellir gwneud y rhan gyntaf o'r daith un ai ar droed neu yn y trên bach sy'n cael ei ddirwyn i fyny ac i lawr y llechwedd yn ystod misoedd yr haf. O ben Craig Glais ceir golwg ar Fae Ceredigion yn ei holl ogoniant, ac ar arfordir y gorllewin o JOSEPH LEWIS Llwybr Natur Craig Glais bendraw Llyn ac Ynys Enlli yn y gogledd hyd at Ynys Aberteifi, ac yn wir Ben Strwmbl, yn y de. Ar ôl dilyn y llwybr i mewn i'r tir a dod at y ffordd fawr, gellir dewis troi i'r chwith a'i dilyn i Glarach a chael taith fyrrach yn ôl i Aberystwyth uwchben y môr a thros Graig Glais drachefn. Neu fe ellir troi i'r dde a dilyn y llwybr yn ôl dros y top, heibio i Lôn Fach y Bwbach (nid enw i'r ofnus wedi nos!), ac ar hyd ymyl y maes golff nes gorffen y daith yn yr union fan y dechreuwyd cerdded. Gellir prynu llyfryn Saesneg am 20c oddi wrth lyfrwerthwyr lleol sy'n disgrifio nodweddion y llwybr, ei adar a'i anifeiliaid, ei goed a'i blanhigion eraill. Mae'r llyfryn yn orlawn o ffeithiau diddorol, ac yn anhepgor i'r sawl sydd am gael y mwynhad eithaf ar hyd y llwybr hudolus hwn. Erbyn hyn mae llyfryn dwyieithog wedi'i baratoi ar gyfer ei argraffu o hyn i ddiwedd y flwyddyn.