Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fitamin C a'r Annwyd Cyffredin MAE fitamin C (asid ascorbig) yn un o'r ymbortheg- olion hanfodol-y sylweddau hynny sydd raid wrthynt yn ein lluniaeth er mwyn iechyd y corff. Canlyniad diffyg fitamin C yw y sgyrfi (y llwg)­ cyflwr a nodweddir gan anallu ar ran y corff i synthesu colagen, un o'i brotinau pwysicaf, ac y mae diffyg colagen yn ei dro yn peri bod y meinweoedd cyswllt yn annormal. Mae derbyn 10 miligram o fitamin C yn y lluniaeth bob dydd yn ddigonol i warchod y corff rhag y sgyrfi; y lwfans beunyddiol a argymellir gan yr awdurdodau yw 30 miligram-gan sicrhau felly 'ffactor ddiogelu' o dair. Hyd at yn gymharol ddiweddar nid oedd rheswm dros amau'r syniadaeth hon. Yn ddiweddar, fodd bynnag, daeth syniadau newydd i'r amlwg. Cafwyd yr awgrym o fwy nag un cyfeiriad fod gan fitamin C y gallu i ddylanwadu ar y corff mewn mwy o ffyrdd nag y tybiwyd gynt; awgrymir bellach nad gwar- chod y corff rhag y sgyrfi yw ei unig swyddogaeth. Awgrymir ymhellach fod eisiau dognau cymharol fawr ('mega-ddognau') er mwyn i'r fitamin gael cyflawni'r swyddogaethau ychwanegol tybiedig hyn. Prif ladmerydd y syniadaeth newydd hon yw Linus Pauling, cemegydd o fri cydwladol o'r Taleithiau Unedig. Prif ffynhonnell syniadau Pauling oedd cyfres o erthyglau gan feddyg o'r enw Irwin Stone mewn nifer o gylchgronau American- aidd pur anadnabyddus yn ystod y chwedegau. Hanfod dadleuon Stone oedd fod ar ddyn angen llawer mwy o fitamin C bob dydd na'r 30 miligram a argymellir yn gyffredinol. Ei brif ddadl oedd fod yr anifeiliaid hynny sydd heb golli'r gallu i synthesu fitamin C (ac y mae'r rhan helaethaf o anifeiliaid yn perthyn i'r garfan hon) yn ffurfio rhyw 2 i 5 gram ar gyfer corff a'i bwysau'n 60 cilogram. Awgrymodd Stone felly mai rhwng 2 a 5 gram oedd y dogn delfrydol ar gyfer dyn a'i bwysau corff yn 60 cilo- gram-rhyw ganwaith y dogn argymelliedig. Helaethwyd ar y syniadau hyn gan Pauling ac eraill a ddadleuai fod dognau mawr o fitamin C yn gwarchod y corff rhag nifer o anhwylderau megis clefyd y galon, canser a'r annwyd cyffredin. At hyn, honna Pauling fod peri i ddigonedd o fitamin C lifo R. ELWYN HUGHES trwy'r corff yn debyg o fywiocáu'r ymennydd ac o wella ansawdd bywyd yn gyffredinol. Amcan- gyfrifodd (trwy ddirgel ffyrdd) fod cymryd hyd at 5 gram o fitamin C bob dydd yn debyg o estyn hyd ei fywyd o ryw 3-5 mlynedd. Mae'r ddamcaniaeth Stone-Pauling wedi cydio'n dynn ym meddwl y cyhoedd ac erbyn hyn y mae cyfran sylweddol o'r boblogaeth yn cymryd megaddognau o fitamin C bob dydd­-yn bennaf, fe ymddengys, fel rhyw fath o bolisi yswiriant yn erbyn yr annwyd cyffredin. Ond nid yw'r ddamcaniaeth wedi derbyn cefnog- aeth gwyddoniaeth uniongred o bell ffordd. Gellir nodi tri gwahanol reswm dros amau ei dilysrwydd (1) mae'r dystiolaeth a ddyfynnir gan Pauling a'i gefnogwyr, o'i harchwilio'n ystadegol, yn syrthio'n fyr o'r safonau a ddisgwylir mewn astudiaeth wyddonol; (2) mae peth tystiolaeth ddiweddar fod mega- ddognau o fitamin C yn beryglus i'r corff am eu bod yn gallu gwyrdroi metabolaeth y celloedd (3) gellir sicrhau dirlawnder y meinweoedd â fitamin C trwy gymryd dogn o 100-150 mili- gram o'r fitamin yn unig-felly gwastraff yw cymryd llawer mwy o ddogn na hyn. Parthed y pwynt olaf hwn dylid nodi efallai i ddau wyddonydd o Gaerdydd (Eleri Jones ac Emyr Davies) gadarnhau hyn yn ddiweddar trwy ddangos fod dros hanner pob megaddogn yn dod allan yn y carthion-a bod y rhan helaethaf o ddigon o'r gyfran a amsugnir yn ymddangos yn yr iwrin o fewn 12 awr. Er hyn oll y mae poblogrwydd syniadau Stone a Pauling megis ar gynnydd ymhlith y boblogaeth leyg-ac y mae Pauling ei hun wedi rhoi hwb sylweddol ymlaen iddynt trwy gyhoeddi llyfrau poblogaidd megis Vitamin C and the Common Cold. Hawdd deall felly paham fod nifer o grwpiau gwyddonol ar draws y byd wedi ceisio asesu cywirdeb y ddamcaniaeth hon. Wedi'r cwbl, collir gwerth miliynau o bunnoedd o gynnyrch bob blwyddyn yn ganlyniad i'r annwyd cyffredin ac fe fyddai unrhyw feddyginiaeth a lesteiriai ei rawd yn beth gwerthfawr iawn.