Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pigion Gwyddonol Y CWARC UNIGOL? Ers blynyddoedd bellach mae'r ddamcaniaeth wedi cryfhau fod mater trwm yn gyfuniad o gwarciau. Mae'r syniad fod gronynnau megis y proton, y niwtron a'r meson wedi'u hadeiladu drwy gyfuno nifer o gwarciau yn esboniad derbyniol sydd wedi symleiddio llawer ar gymhlethdod hollti'r atom. Ar hyn o bryd credir fod pedwar cwarc yn bodoli. Rhoddwyd yr enwau 'lan', 'lawr', 'rhyfedd' a 'swynol' ar y gronynnau elfennol yma. Felly, yn ôl y ddamcaniaeth, cyfansoddwyd y proton o ddau gwarc 'lan' ac un 'lawr', y niwtron o ddau cwarc 'lawr' ac un cwarc 'lan', ac yn y blaen. Mae esboniad syml o'r ddamcaniaeth i'w gael yn The Key to the Universe gan Nigel Calder sydd wedi'i seilio ar y rhaglen deledu o'r un enw a ddarlledwyd ym mis Ionawr. Er mor ddeniadol yw'r ddamcaniaeth ni welwyd erioed dystiolaeth am gwarc unigol, dim ond am gyfuniadau megis y proton. Yn awr mae rhai gwyddonwyr yn credu fod arbrawf ym Mhrifysgol Stanford, U.D.A., gan George La Rue a'i arolygwr, yr Athro William Fairbank, wedi dod o hyd i'r fath dystiolaeth. Ailweithiodd y ddau arbrawf enwog R. A. Millikan, sydd mor hysbys i anianegwyr y chweched dosbarth. Yn nechrau'r ganrif mesurodd Millikan wefr yr electron drwy fesur symudiad diferyn o olew o atomiser a oedd yn nofio rhwng dau blât mewn maes trydanol. 'Roedd cyflymder symudiad y diferyn yn dibynnu ar y nifer fechan o îonau rhydd a oedd yno. Trwy ddod â ffynhonnell ymbelydrol yn agos iddo 'roedd modd newid gwefr y diferyn. Gan mai dim ond newid o amryfal wefr yr electron oedd yn digwydd, medrodd Millikan fesur y wefr honno. Technoleg bur wahanol oedd wrth law La Rue a Fairbank, ond er defnyddio pelen o'r elfen fetalaidd Niobiwm a Choilïau uwchddargludol (o'r dymheredd 4-2k) yr un oedd egwyddor yr arbrawf. Nid oes ofod yma i fanylu, ond digon yw dweud fod y ddau yn credu eu bod wedi mesur sawl enghraifft o belen ag arni wefr traean gwefr yr electron(e). Cyhoeddwyd y canlyniadau ym mis Mai eleni yn Physical Review Letters (cyf. 38, tud. 1011). Er nad yw La Rue a Fairbank yn honni hyn, un esboniad o'r canlyniad yw eu bod wedi mesur presenoldeb cwarc unigol. Byddai'r fath SPECULUM beth yn creu tipyn o benbleth i'r damcaniaethwyr. mae'n debyg, ac ansicr yw ymateb y byd gwyddono! i'r adroddiad. Serch hynny, os nad cwarc, beth arall all fod yn gyfrifol am y ffenomen ? CNEWYLLYN GALAETH Ar begwn arall ffon fesur y bydysawd mae seryddwyr Arsyllfa Genedlaethol Seryddiaeth Radio U.D.A. wedi darganfod gwrthrych enfawr yng nghanol ein galaeth. Os meddylir am yr alaeth fel olwyn-drol, mae K. I. Kellermann a'i gydweithwyr wedi canolbwyntio eu hymyradur radio ar ganol yr echel. (Mae'r haul ddwy-ran-o- dair y ffordd i'r ymyl.) Ddwy flynedd yn ôl dangoswyd fod cnewyllyn i'r alaeth (sydd i'w weld yng nghysawd y Saethydd, Sagitariws) yn mesur tua 0-02 eiliad o arc (tua 20 x 109 milltir ar draws). Yn awr darganfuwyd fod chwarter egni yr ardal hon yn dod o wrthrych llai na 1 x 109 milltir ar draws. O'i gymharu mae diamedr system yr haul tua 3-6 x 109 milltir. Mae natur yr ymbelydredd electromagnetig sy'n tarddu yno yn awgrymu'r posibilrwydd fod corff a enwir yn 'dwll du' gwirioneddol enfawr yno. (Astrophysical Journal, cyf. 214, tud. 161.) Os gwir hyn buasai'r gwrthrych yn pwyso can miliwn gwaith pwysau'r haul-tua 1058 pwysau'r cwarc. CÔG BYSGODYN Ond 'pethau bach sy'n poeni pawb' a'r hyn sy'n poeni pysgod y teulu Cichlidae yw Haplochromis Chrysonotus. Mae nifer o'r Cichlidae yn amddiffyn eu hepil, os daw perygl yn agos, trwy eu cymryd yn ofalus yn eu geneuau. Yn nyfroedd llyn Malawi 'roedd A. J. Ribbink, Prifysgol Rhodes, De'r Affrig, yn astudio ymddygiad y pysgod diddorol yma ac i'w syndod sylwodd fod rhai o'r nytheidiau yn cynnwys cymysgedd o epil. (Nature, cyf. 267. tud. 243.) Er mwyn gweld beth oedd y pysgod ychwanegol casglodd Ribbink yr epil a'u magu. Adnabuwyd yr epil 'estron' fel pysgodyn arall o'r enw Haplochromis Chrysonotus. Er mwyn am- ddiffyn a magu ei epil ei hun 'roedd hwn yn manteisio ar y Cichlid. Mae'n debyg fod y rhiant amddiffynnol yn hollol ymwybodol o'r sefyllfa ond