Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f Ysgolion FFRWYTHAU A HADAU MELFYN R. WILLIAMS NEDI i'r weithred o ffrwythloniad gael ei chwblhau newn planhigion blodeuol mae wal yr wyfa neu'r lericarp yn newid. Ar ôl aeddfedu gall y pericarp fod naill ai yn wydn fel lledr, yn goedog a chaled, neu'n suddlon (succulent). Mae'r ffrwythau, fel y blodau maent yn datblygu ohonynt, yn gwahan- laethu'n fawr mewn ffurf, eto gellir eu dosbarthu hwynt yn ôl y math o bericarp y maent yn meddu arno. (Tabl 1.) Fel rheol, dim ond yr wyfa sy'n ffurfio'r ffrwyth, ond mewn rhai planhigion mae rhannau eraill heblaw yr wyfa yn tyfu ac yn dod yn rhan o'r ffrwyth gorffenedig. Yn yr egroes (rose-hips) a'r mefys, y cynheilydd (receptacle) yw'r rhan meddal a'r cerrig mân y tu mewn yw'r ffrwythau. Yn yr afal a'r gellygen, mae'r cynheilydd eto wedi chwyddo ac ynghlwm wrth wal allanol yr wyfa. Gelwir y fframweithiau hyn yn FFRWYTHAU FFUG. ANYMAGOROL Unhadog Achen pericarp lledraidd Blodyn ymenyn, Gcum, Clematis Samara pericarp adeiniog Onnen Cneuen pericarp caled, brau Collen, mesen. (Cypsela) pluf-galycs Dant y llew, cacamwci. ffrwyth isafiad SYCH YMAGOROL Nifer o hadau ffolicl uncarpel. Yn hollti Ysbardun y Marchog (Larkspur) (hadgoden) arhydunochr. Legum un carpel. Yn hollti bys y blaidd (lupinj ar hyd dwy ochr. Coden dwy garpel wedi Blodyn y fagwyr (Wallflower) (Siliqua) uno Hadgell Nifer o garpelau wedi Pabi, Helyglys, Campion. (Capsule) uno SCHIZOCARPIG Yn hollti yn rhannau Mynawyd y bugail, Marddanhadlen unhadog wen, Sycamorwydden, Gwlydd y perthi. SUDDLON Aeron Pericarp gyda dwy haen Grawnwin, Tomato. Nifer o hadau Amffrwyth Pericarp gyda thair haen Ceirios, Eirinen. (Drupe) Un hedyn mewn carreg Afalon Ffrwyth wedi'i amgylchynu (Pome) â chynheilydd iraidd. Nifer Afal o hadau yn y bywyn. Cneuen goco -Amffrwyth gyda'r mesocarp yn ffibrog. Egroes -Achen wedi'i amgylchynu mewn cynheilydd suddlon cwpanog. Mefys -Achen wedi'i sefydlu mewn cynheilydd suddlon. Mwyar duon -casgliad o amffrwythau bychain. Llun 1 Mathau o Ffrwythau