Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ABERYSTWYTH Penodwyd Mr. David I. Bateman, 42 oed, yn Athro Economeg Amaeth- yddol. Addysgwyd Mr. Bateman ym Mhrifysgol Lerpwl lIe graddiodd ag Anrhydedd (dosbarth cyntaf) mewn economeg yn 1956. Ar ôl ennill gradd M.A. am waith ymchwil, ymunodd ag Adran Economeg y Bwrdd Marchnata Llaeth. Yn 1963 daeth i Aberystwyth yn ddarlithydd mewn Economeg Amaeth- yddol, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu'n arbenigo ym maes Marchnata Amaethyddol. Bydd yn olynu'r Athro H. T. Williams, sy'n ymddeol eleni. Ymhlith y rhai a ddyrchafwyd yn Uwch-ddarlithwyr eleni y mae Dr. Noel G. Lloyd, 31 oed, o'r Adran Fathemateg Bur. Mae Dr. Lloyd yn frodor o Lanelli, graddiodd mewn Mathemateg yng Nghaergrawnt, a bu'n Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt cyn dod i Aberystwyth yn Ionawr 1975. Y mae Dr. Lloyd ar hyn o bryd yn treulio cyfnod yn ymchwilio ym Mhrifysgol Minnesota, U.D.A., fel Cymrawd ar Ymweliad o dan nawdd y Cyngor Ymchwil Gwyddonol. Bydd yr Athro Alan Wood, Pennaeth yr Adran Ddaeareg yn ymddeol ddiwedd mis Medi. Derbyniodd y Coleg gyfanswm o bron £ 110,000 mewn grantiau yn ystod yr haf eleni tuag at gynlluniau ymchwil gwyddonol. Ymhlith y grantiau a dderbyniwyd yr oedd £ 35,190 i'r Adran Ffiseg tuag at archwiliad ar Temperature Variable Flowing Afterglow, gan y Cyngor Ymchwil Gwyddonol. Derbyn- iodd yr Adran Gemeg dros £ 37,000 tuag at ymchwil mewn meysydd yn cynnwys crisialau, mwynau cleiog, a chemeg arwynebau solid yn gyffredinol. Mae'r Athro J. M. Thomas, C.G.F., ar hyn o bryd ar absen sabothol yn San Jose, California, ac fe'i disgwylir yn ôl ar ddechrau Medi. Yn y cyfamser, mae'r Dr. Samuel Graham yn ddirprwy deheuig iawn iddo fel Pennaeth Gweith- redol yr Adran. Menter unigryw yn hanes yr Adran Gemeg, ac yn wir yn hanes y Coleg hyd y gwyddom, fu sefydlu cwmni 'Aber- chromics'. Mae'r cwmni yma'n seiliedig ar waith ymchwil disglair Dr. Harry Heller ym maes sylweddau ffotocromig. Rhagor am y datblygiad diddorol hwn eto. Nodion o'r Colegau Ym mis Medi eleni cynhelir Ysgol Ddeuddydd drwy gyfrwng y Gymraeg i ddisgyblion chweched dosbarth. Mae rhaglen yr 'Ysgol' yn cynnwys darlithiau a sesiynau trafod ar amryw bynciau gan gynnwys y Gwyddorau Pur a pherthynas gwyddoniaeth a'r amgylchfyd. Daeth dros 100 i'r cwrs a gynhaliwyd y llynedd a disgwylir nifer tebyg eleni eto. Byddai'r cwrs yma'n agos iawn at galon y diweddar annwyl Athro Jac L. Williams a thrist iawn yw cofnodi ei ymadawiad sydyn o'n plith yn anterth ei weithgarwch ffrwythlon. Ni allai'r un maen coffa fod yn fwy parhaol nac amlwg na'r cyfraniadau mawr a wnaeth ef i addysg yn gyffredinol ac yn arbennig i addysg dwy-ieithog yng Nghymru. Collodd y Gyfadran Addysg a Chyf- adran y Gwyddorau ymchwiliwr diflino a chymeriad urddasol ei gadernid. Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant i'w weddw a'r teulu. BANGOR Penodwyd yr Athro John B. Owen i Gadair Amaethyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Cymro o Gerrig y Drudion yw'r Athro Owen a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Ffestiniog a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, lle graddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn amaethyddiaeth. Aeth ymlaen i wneud gwaith ymchwil ym Mangor ac ar 61 derbyn ei ddoethuriaeth fe'i penodwyd ar staff yr Adran Amaethydd- iaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ym 1962 fe aeth yn Ddarlithydd Prifysgol a Chyfarwyddwr Astudiaethau mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt a deng mlynedd yn ddiweddarach dech- reuodd ar ei waith presennol fel Athro Iechyd a Chynhyrchu Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberdeen. Ysgrifennodd yr Athro Owen 70 0 bapurau ar wahanol agweddau ar iechyd a chynhyrchu defaid, gwartheg a moch a bu llawer o'i ymchwil yn ymwneud â datblygu a gwella dulliau ffermio ar hyn o bryd. Bydd yr Athro Owen yn olynydd i'r Athro I. A. M. Lucas a benodwyd yn Brifathro Coleg Gwy ym Mhrifysgol Llundain. J.B. Ll.G.Ch. ATHROFA GWYDDONIAETH A THECHNOLEG PRIFYSGOL CYMRU Eleni y mae nifer y myfyrwyr-heb- raddio yn 2,323 a nifer y myfyrwyr ymchwil yn 395; golyga hyn fod cyfanswm y myfyrwyr-heb-raddio wedi cynyddu o 11% oddi ar 1974-a'r rhai ymchwil o ryw 33 Erbyn hyn y mae'r Athrofa yn cynnig rhyw ddeugain o wahanol gyrsiau gradd. Nid yw'r cynnydd ymddangosiadol hwn, fodd bynnag, wedi gwneud dim i leddfu'r ansicrwydd a'r pryder sydd ymhlith y staff ynghylch dyfodol academaidd yr Athrofa. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y PGP (Pwyllgor Grantiau'r Prifysgolion) mai peth dymunol fyddai gweld mwy o gydweithredu rhwng y tair rhan o Brifysgol Cymru a leolir yng Nghaer- dydd: mewn termau mwy penodol, awgrymwyd y gellid cychwyn y cyd- weithredu trwy gyfuno'r adnoddau llyfrgellol a thrwy resymoleiddio'r cyrs- iau Peirianneg. Pwysleisia'r PGP mai gwella'r drefniadaeth leol yw ei unig amcan ac nad oes a wnelo ei awgrym- iadau ddim â dyfodol fframwaith ffederal Prifysgol Cymru. Boed a fo am hynny gwêl rhai hyn oll fel bygythiad i undod y Brifysgol ac eisoes y mae nifer o academyddion yn darogan y gwelir sefydlu Prifysgol Caerdydd o fewn y degawd nesaf. Bu'r Gymdeithas Wyddonol yn dal i gyfarfod yn yr Athrofa yn ystod y flwyddyn. Cafwyd y cyfarfodydd a ganlyn yn ystod 1976-77: 'Fitamin C a'r Annwyd Cynredin' (Emyr Davies a R. Elwyn Hughes); 'Creu'r Planedau' (I. P. Williams); 'Y Ganolfan Cemegol- ion Ymbelydrol' (J. C. Maynard ac Eurof Evans); 'Gwaith Ymchwil ym Myd y Pontydd' (Roy Evans); 'Dysgu Botaneg-Trefn mewn Cymhlethdod' (Anne Lewis); 'Rwy'n gweld o bell (W. E. L. Rees); 'Prosesau Meddwl mewn Myfyrwyr' (Gareth Lotwick). Trwy ganiatâd caredig yr awdurdodai bu Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thecf noleg Eisteddfod Caerdydd (1978) y cynnal eu cyfarfodydd yn ystod flwyddyn yn yr Athrofa. Mae'n deb\ mai'r Adran Gwyddoniaeth yn Rhagle 1