Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol Pum mlynedd ar hugain union sydd ers i mi ddechrau fy ngyrfa fel darlithydd ifanc yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yn ystod y cyfnod hwn ni sylwais ar ddim mor ddramatig a dynamig â'r cyflymder y cyflwynwyd y mesurau arbennig ar gyfer hyfforddi'r di-waith (sydd, wrth gwrs, yn cynnwys y grwp 16-18 oed) yn ystod y tair neu bedair blynedd diwethaf. Mae hyd yn oed yn curo, o ran cyflymder gweithredu, dwf y Prifysgolion yn y 60au yn unol ag adroddiad Robbins. Dyblwyd y nifer a dderbyniwyd i Brifysgolion yn ystod y degawd byrlymus hwnnw. Daethom o11 i gredu mai ufuddhau i ryw drefn naturiol oedd y twf mewn nifer y myfyrwyr, adeiladau, staff ac adnoddau cynorthwyol eraill. 'Roedd y cynllunwyr yn awyddus i dderbyn yr her, a thyfodd Prifysgolion yma ac mewn gwledydd eraill fel grawn unnos. Gwn am un Prifysgol enwog yn yr Iseldiroedd lle y darparwyd adeiladau ar sail allosodiad llinol o'r cyfnod hwnnw tan 1980. Ysywaeth, fel y gwelwyd wrth ddarparu ar gyfer gofynion athrawon ac anghenion ynni, profwyd mai cynllunwyr yw'r proffwydi mwyaf annibynadwy. Bu rhaid rhwygo offer allan o labordai er mwyn gwneud lle i'r llif o gymdeithasegwyr, economegwyr, cyfreithwyr a myfyrwyr gwleidyddiaeth. A dyma ni yn awr yn symud yn gyflymach hyd yn oed na Robbins gan arllwys cannoedd o filiynau o bunnau i gymysgedd o raglenni cymhleth ac amrywiol a ddyfeisiwyd gan gorff newydd sbon, y Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr. Nid wyf yn defnyddio'r gair 'dyfeisio' yn sarhaus o gwbl, ond er mwyn gwahaniaethu rhwng y math hwn o gynllunio gan swyddfa sydd heb fod yn ymwneud ag addysg, a pheirianwaith traddodiadol yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth. Fel y dywedais o'r blaen nid yw'r dull traddodiadol wedi profi yn arbennig o gywir, ac mae'r sawl sydd wedi bod yn rhan o brofiad cythryblus y cwtogi a chau Colegau Addysg yn sicr o deimlo ei bod yn amser hwyrach, i roi cyfle i gorff arall, sydd â chyfrifoldeb ehangach na hyfforddiant technegol fel y cyfryw, i geisio darparu hyfforddiant i gyfateb â'r swyddi a ragwelir. Ar y llaw arall, mae peryglon cynhenid wrth symud gyda'r fath gyflymdra. Y mae'n gwneud synnwyr, felly, i wyntyllu'r amheuon sy'n codi yn sgîl y fath ddatblygiadau. BIe bydd yn bosibl cael adeiladau addas ac anghenion eraill pan fydd yr adnoddau presennol wedi eu hymestyn i'r eithaf? A ellir rhyddhau staff i'w hyfforddi'n ddigonol a pharatoi'r deunydd addysgol angenrheidiol. Mae syniad y dosbarth syml eisoes wedi profi'n fethiant ar gyfer y grwp yma o fyfyrwyr. A fydd y syniad cyfyng o 'hyfforddiant' yn sgîl y Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr yn gwrthdaro â'r pwrpas ehangach mewn 'addysg' sy'n rhan o gyfrifoldeb yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth? A all y ddau gorff mawr biwrocrataidd hwn fodoli gyda'i gilydd a gweithio'n adeiladol ? A wnaiff presenoldeb un grwp o fyfyrwyr sy'n derbyn cyflog wythnosol gan y Pwyllgor Gwasanaethau Gweithwyr beri anfodlonrwydd ymhlith y grwp mwyaf o fyfyrwyr sy'n gorfod byw ar eu hadnoddau eu hunain ? Mae ymrwymiad sylfaenol ein Hathrofa ni i anghenion y gymdeithas yn ei gwneud yn hanfodol i ni ymateb yn egnïol i'r darpariaethau sy'n cael eu paratoi gan y Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr ac yn cydredeg â'n datblygiadau cychwynnol ni. Ffurfiwyd y Comisiwn ym 1974, ac felly mae'r Comisiwn a'n Hathrofa ni tua'r un oedran a'r ddau wedi treulio'r blynyddoedd cyntaf mewn cyfnod o dyfiant tymhestlog yn erbyn cefndir o ddiweithdra cynyddol a chwtogi mawr ar wario cyhoeddus. Dyma yn wir oedd bedydd tân. Ers Medi 1975 mae'r Athrofa wedi cynyddu dros 25 %-mewn tair blynedd. Mewn cyfnod pan oedd yn rhaid cwtogi £ 200,000 ar ein hamcangyfrif yn ystod yr un flwyddyn ariannol ag yr oedd nifer y myfyrwyr yn codi'n sydyn, daeth arian oddi wrth y Swyddfa Gwasanaethau Hyfforddi, fel y'i gelwid ar y pryd, fel manna o'r nefoedd. O dan y fath amgylchiadau ni ellid fforddio bod yn rhy ddethol ac efallai fod perygl cynhenid yma ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid bod nifer o Golegau Addysg Bellach, fel ninnau, wedi cydio yn ddiolchgar yn y llinyn bywyd hwn er mwyn darparu ar gyfer myfyrwyr 16-18 oed a fyddai, heblaw am hyn, wedi darganfod darpariaeth gonfensiynol neu wedi cael gwaith. Yn hytrach na darparu 'addysg' ar eu cyfer, cynigiwyd