Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhinweddau Llaeth Mam Brodor o Rydaman yw Hywel Williams. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman cyn mynd ymlaen i Ysbyty Middlesex lle y graddiodd mewn Meddygaeth. Ar hyn o bryd mae'n gweithio yn Adran Baediatreg Ysbyty'r Frenhines Charlotte yn Llundain, gan arbenigo mewn gwaith babanod. Diflannu oddi ar wyneb y ddaear a wnâi y mamalod i gyd petai'r reddf gyntefig gynhenid i roi teth a sugn i'w hepil yn gwanhau. Mae'r reddf mor hanfodol ac anhepgor fel na byddai gobaith i unrhyw greadur oroesi hyd yn oed un genhedlaeth hebddi. Eto i gyd, llwyddodd y creadur dynol i wneud hynny. Dengys arolwg diweddar fod llai na thraean o famau ym Mhrydain Fawr yn bwydo eu babanod o'r fron erbyn mis ar ôl y geni-a chyn lleied a 6% erbyn y trydydd mis. O dipyn i beth trodd Dyn ei gefn ar y ffordd naturiol o fwydo ei epil, ffordd na ellir ei rhagori er chwilio taer a chostus. Erys llaeth y fron y ffordd fwyaf effeithiol i fwydo baban. Eto i gyd, anaml y gwelir mam yn rhoi bron i'w baban yn gyhoeddus—yn wir, teimla Llun gan Anthea Sieveking HYWEL WILLIAMS rhai mamau eu bod yn gorfod mynd i'r tý bach (o bobman!) i fwydo rhag achosi 'embaras' i bobl eraill. Anodd yw deall meddwl cymdeithas a all wyrdroi y weithred hyfryd hon i rywbeth anwedd- aidd i'w guddio 0 lygaid dynion. Ond mae arwyddion bod y rhod yn troi unwaith yn rhagor. Daw rhagoriaethau llaeth y fam yn fwy amlwg bob dydd o'u cymharu â llaeth powdr artiffisial. Llaeth buwch ydyw pob llaeth powdr yn y bôn, ac fe wariodd y cwmnïau masnachol lawer o arian ac amser ar ymchwil i geisio adnewid ei gyfansodd- iad er mwyn ei wneud yn fwy tebyg i laeth dynol. Dyna, yn wir, ydyw craidd y broblem. Ni ddylid disgwyl i laeth a fwriadodd Natur ar gyfer creadur â chyrn a chynffon fod yn gymwys ac yn addas ar gyfer baban dynol. Llaeth Llaeth Llaeth buwclì dynol adnewidiadol Carbohydrad (Lactos) 4-8 7-0 6-9 Braster 3-8 3-6 3-3 (Amryw- iaeth mawr, yn enwedig gyda brîd y fuwch) Protin: 3 4 1-2 1·8 Caseinogen 3·0 0-8 1·23 Lactalbwmin 0-4 0-4 0-57 (Pob mesuriad: g/100 ml.) Calsiwm 120 33 55 Ffosffad 99 15 40 Sodiwm 50 15 22-5 Calorïau 62 62-67 63 (Pob mesuriad: mg./lOO ml.) O'r tabl uchod gellir gweld bod gwahaniaeth sylweddol rhwng cynnwys llaeth buwch a chynnwys llaeth dynol; gellir gweld hefyd bod y cwmnïau masnachol wedi llwyddo, i raddau helaeth iawn, i greu llaeth powdr nad yw'n anhebyg ar yr olwg