Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ydynt gan fwyaf tua 80 a lymffoseitiau yw'r gweddill. Yn y gwaed mae rôl y celloedd hyn ym mrwydr y corff yn erbyn heintiadau yn hollol gyfarwydd i ni. Mae'n debyg y bydd eu presenoldeb yn y llaeth yr un mor bwysig. Bydd hwn yn faes eang a ffrwythlon i ymchwilwyr lafurio ynddo yn ystod y blynyddoedd nesaf. Nid oes amheuaeth na welir cynnydd yn nifer y mamau sy'n bwydo o'r fron yn y dyfodol am fod Dyn o'r diwedd yn dechrau cydnabod fod ei ym- drechion yn amherffaith o'u cymharu â darpariaeth Natur. Wrth sugno bron ei fam, nid derbyn ymborthiant perffaith yn unig a wna'r baban, ond hefyd datblyga ymrwymiad dwys rhwng ei fam ac yntau, ymrwymiad sy'n hanfodol i ddatblygiad normal pob person. COLEG Y BRIFYSGOL, CAERDYDD UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: C. W. L. BEVAN, C.B.E., D.SC. Y mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r Coleg ym Mharc Cathays. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau Prifysgol Cymru (B.A., B.Sc., B.Sc.Econ., LL.B., B.Mus.). Gellir astudio'r pynciau a ganlyn: YNG NGHYFADRAN Y CELFYDDYDAU Cymraeg, Saesneg, Lladin, Groeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Portwgaleg, Hebraeg, Athroniaeth, Efrydiau Beiblaidd, Hanes, Hanes Cymru, Cerddoriaeth, Archaeoleg, Addysg, Mathemateg, Seicoleg, Economeg, Cyfraith. Gellir cymryd gradd B.Mus. yn yr Adran Gerddoriaeth. YNG NGHYFADRAN EFRYDIAU ECONOMAIDD A CHYMDEITHASOL Economeg, Cyfraith, Athroniaeth, Cyfrifyddiaeth, Cysylltiadau Diwydiannol, Seicoleg, Gweinyddiad Cymdeithasol, Cyfarwyddo a Rheoli Gweithwyr, Gwyddor Gymdeithasol, Gwleidyddiaeth, a Chymdeithaseg. Gellir cymryd gradd LL.B. drwy Ysgol y Gyfraith Caerdydd. YNG NGHYFADRANNAU GWYDDONIAETH A GWYDDONIAETH GYMWYSEDIG Mathemateg Bur, Mathemateg Gymwysedig, Ystadegau, Ffiseg, Mathemateg Gyfrifyddol, Cemeg, Llysieueg. Swoleg, Microbioleg, Daeareg, Electroneg, Anatomeg, Ffisioleg, Biocemeg, Meteleg, Mwyngloddiaeth, Peirianneg Sifil, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Drydanol ac Electronig, Seicoleg, Archaeoleg, ac Economeg. Y mae gan y Coleg neuaddau preswyl ar gyfer dynion a merched. Ceir hefyd feysydd chwarae, gymnasiwm, ac Undeb Myfyrwyr newydd i'w rannu gyda'r Athrofa. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn gan y Coleg ar sail canlyniadau'r flwyddyn gyntaf. Adeiladwyd Canolfan Cyfrifiaduron i ddal cyfrifiadur I.C.L. 4-70. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. COLEG PRIFYSGOL GOGLEDD CYMRU, BANGOR UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: SYR CHARLES EVANS, M.A., D.SC., F.R.C.S. Darperir cyrsiau gradd Prifysgol Cymru yng Nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth, Diwinyddiaeth a Cherddoriaeth. Mae'r cyfadrannau'n cynnwys testunau arferol curricula prifysgol, a cheir, yn ychwanegol, ddarpariaeth arbennig ar gyfer dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o bynciau. Y mae gan y Coleg chwe Neuadd Breswyl gan gynnwys Neuadd gymysg Gymraeg, sef Neuadd John Morris-Jones. Gellir cael manylion pellach a chopi o Brospectws y Coleg oddi wrth y Cofrestrydd.