Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diagnosis Rhag-esgorol Trychineb i rieni a thristwch i feddygon ydyw genedigaeth plentyn â nam corfforol neu feddyliol arno. Nid oes, ond odid, neb ohonom na wyr am rywun sydd wedi dioddef o dan y groes hon. Efallai nad ydyw 'Thalidomide' a'i adladd yn ddim ond hanesyn papur newydd bellach, ond ar y llaw arall mae spina bifida a Syndrom Downs yn llawer mwy cyfarwydd. Un o ddyheadau dwysaf medd- ygon ar hyd yr oesoedd oedd darganfod ffordd o ragweld y genedigaethau hyn. Hyd yn ddiweddar, annigonol iawn oedd y dulliau a ddefnyddid i geisio gwneuthur hyn, ond mae datblygiadau modern wedi gwella'r rhagolygon ac wedi ennyn gobaith newydd. Defnyddiwyd pelydrau-X ers blynyddoedd i brofi'n derfynol bresenoldeb efeilliaid yn y groth, neu i gadarnhau bod ffoetws wedi marw. Defnyddir hwy o hyd gan yr obstetregydd i fesur maint allanfa'r pelfis a'i gymharu â maint pen y baban i sicrhau genedigaeth ddidramgwydd. Ond er pan ddechreuwyd ofni effaith y pelydrau ar gelloedd y corff cwtogwyd o dipyn i beth ar eu defnyddio, ac er bod iddynt eu priod le o hyd datblygwyd nifer o dechnegau newydd llai niweidiol a rhai sydd yn rhoddi canlyniadau mwy cywir. Wltrasoneg Datblygiad cyffrous a gweddol ddiweddar ydyw defnyddio tonfeddau wltrasonig i ddangos amlinell y baban yn y groth. Yr un ydyw'r egwyddor â'r hon a ddefnyddir gan longau wrth ddefnyddio sonar i archwilio dirgelion y dyfnder. Trosglwyddir atsain y tonnau gan y derbynnydd a'u newid yn llun ar sgrîn deledu bwrpasol at y gwaith. Bu gwelliant sylweddol yn y techneg yn ddiweddar, ac yn awr gellir canfod manylion gweddol fach o'r corff ynghyd â rhai anffurfiadau cyffredin. Pan amheuir bod mwy nag un baban yn y groth, gellir eu rhifo yn hawdd hyd yn oed o fewn ychydig wythnosau wedi'r beichiogi. Mae hwn yn fater o bwys lle credir bod triniaeth anffrwythlondeb wedi bod yn or- lwyddiannus ac wedi achosi beichiogi lluosrif (gw. Ffig. 1, 2 a 3). O'r namau corfforol mwyaf cyffredin, diffygion yn y tiwb newral sydd hawsaf eu gweld. Cynnwys y rhain spina bifida, hydroceffalws ac anenceffali. HYWEL WILLIAMS Yn y cyntaf mae diffyg yn ffurfiant yr asgwrn cefn a madruddyn y cefn. Arwain hyn at broblemau dirfawr i'r plentyn ar ôl ei eni am fod y bwlch yn ffurfiant y tiwb yn gadael y madruddyn a'r llifydd cerebrosbinal yn agored i'r awyr, ac mae hynny yn sicr o arwain at heintio'r meningau. Pe bai'r baban i fyw, byddai'r diffyg yng ngwneuthuriad y nerfau a'r madruddyn yn parlysu hanner isaf y corff gan gynnwys y coesau. Ni fyddai ganddo ychwaith reolaeth ar y carthion a'r wrin-anfanteision dybryd. Felly, nid oes mwyach gymaint o fri ar yr hyn a elwir yn llawfeddygaeth arwrol ag a fu yn y chwedegau. Rhoddir y pwyslais heddiw ar rwystro yn hytrach na thrin y cyflwr. Yn y cyflwr hydroceffalws mae diffyg yng nghylchrediad y llifydd cerebrosbinal o ddyfr- gistiau'r ymennydd i gamlas madruddyn y cefn. Mae'r diffyg hwn yn y llifiant yn achosi i ddiamedr y benglog gynyddu yn barhaol. Gwelir cynnydd yn y diamedr biparietal, h.y. ar draws yr ymennydd o un asgwrn parietal i'r llall, erbyn diwedd y beich- iogiad. Gellir gweld cynnydd ym maint y dyfr- gistiau, yn enwedig y fentriclau ochrol, ymhell cyn y gwelir cynnydd ym maint y benglog. Yn wir mae'n bosibl gweld newid cyn yr ugeinfed wythnos -bron yn ddigon cynnar i gynnig erthyliad gan fod y rhan fwyaf o'r babanod anffodus hyn yn dioddef oddi wrth nam meddyliol (gw. Ffig. 4). Nid ydyw'r rhan fwyaf o'r ymennydd na'r pen yn ffurfio o gwbl yn y cyflwr anenceffali, ac felly genir anghenfil heb obaith iddo fyw am fwy nag awr neu ddwy. Caredigrwydd â'r fam ydyw darganfod y rhain yn gynnar a'u herthylu. Alffa-ffoetoprotin (AFP) Dangoswyd llawer o ddiddordeb yn y protin hwn gan fod gobaith y gall ffurfio sail prawf didoli rhad ar gyfer pob gwraig feichiog. Albwmin y ffoetws ydyw alffa-ffoetoprotin a'r protin mwyaf cyffredin yng ngwaed y ffoetws. Os digwydd i ryw anffurfiant greu bwlch ym mhilyn y ffoetws, trosglwyddir ychydig o'r protin allan o'r corff a'i gymysgu â'r hylif amniotig. Felly, gwelir lefel uchel o'r AFP gyda spina bifida a hefyd gydag anenceffali. Un cyflwr arall a ddaw i'r golwg o dro i dro yw'r un a elwir yn 'Omphalocoele' 11e ceir y coluddion yn cael