Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymchwil Arennol Yng Nghymru Sais o Ogledd-Orllewin Llundain yw'r Dr. Coles syddyn dysgu Cymraeg, ac ef a luniodd yr erthygl hon yn Gymraeg. Aeth yn gyntaf i Ysgol Feddygol Westminster ac yna i Brifysgol Llundain ym 1963. Daeth i Dde Cymru ym 1965 ac etholwyd ef yn aelod o Goleg Brenhinol Meddygon Llundain yn yr unfìwyddyn. Bu'n aelod o'r Adran Arennol yn Ysbyty Frenhinol Caerdydd ers 1966. Ym 1971 derbyniodd radd Doethor (M.D.) gan Brifysgol Llundain ac apwyntiwyd ef yn Feddyg Ymgynghorol. Penodwyd yn Gyfarwyddwr yr Uned Ddialysis ym 1973. Cyhoeddodd 22 o erthyglau ar bynciau arennol, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda'r grŵp sy'n ymchwilio i lid y glomerwli. CYN chwedegau y ganrif hon, nid oedd triniaeth effeithiol am fethiant yr arennau. Ond ym 1960 achubodd Dr. Scribner a'i gydweithwyr yn yr Unol Daleithiau fywyd claf oedd yn dioddef oddi wrth fethiant parhaol ei arennau drwy ddefnyddio aren artiffisial. O fewn ychydig o flynyddoedd profodd y driniaeth yn arbennig o lwyddiannus. Ym 1967 daeth tri dyn busnes o Gaerdydd i ymweld â'r Athro H. Scarborough, Athro Meddygaeth yn Ysgol Feddygol Cymru, i gynnig peiriant aren i'w ddefn- yddio yn Ysbyty Frenhinol Caerdydd. Sut bynnag, 'roedd cynlluniau eisoes ar y gweill i gael uned ddialysis i'r ysbyty, un oedd yn cynnwys deg o beiriannau. Perswadiwyd y tri mai gwell fyddai helpu gydag ymchwil arennol. Derbyniwyd y sialens ac ym 1968 daeth y Sefydliad Ymchwil Arennol i Gymru i fodolaeth. Nod y Sefydliad oedd codi arian i helpu ymchwil arennol o fewn yr Uned arbennig yn yr Ysbyty Frenhinol. Trefnwyd pwyllgorau led-led Cymru ac aeth yr apêl am arian hyd yn oed i'r Wladfa. Erbyn 1970 'roedd yr Uned Ymchwil wedi dechrau ar ei gwaith gyda phedwar o weithwyr. Ar y cychwyn meddiannodd yr Uned ran o'r Adran Feddygol Academaidd, ond symudodd yr Adran hon i'r Ysbyty Brifysgol newydd ar ddiwedd 1971, gan adael yr Adeilad Rockefeller, cartref un o'r Adrannau Meddygol Academaidd cyntaf ym Mhrydain, yn wag. Newidiwyd yr adeilad yn helaeth i droi tua phedair mil o droedfeddi sgwâr yn labordai, ystafell ddarlithio, llyfrgell fach a swyddfeydd. Erbyn hyn (1978) y mae mwy nag ugain o bobl yn gwneud ymchwil yn yr Uned yn ogystal â chynorthwywyr ac ysgrifenyddion. Cyfarwyddwr anrhydeddus cyntaf yr Uned oedd yr Athro Scarborough, ond ar ôl ei ymddiswyddiad penodwyd Dr. (erbyn hyn yr Athro) A. W. Asscher yn ei 1e. Y mae ef yn awdurdod byd-enwog G. A. COLES Llun I. Yr Awdur oherwydd ei ymchwil i afiechydon y lleisw, hynny yw, y 'dŵr'. Yn gynnar yn hanes yr Uned dechreuwyd astudiaeth ym Mhenybont ar Ogwr i ddarganfod faint o gleifion oedd yn dioddef gyda methiant arennol; gwelwyd bod tua deg ar hugain y miliwn o'r boblogaeth oedd yn llai na hanner cant oed