Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn y grafft dieithr. Gan ddefnyddio ffibrinogen ymbelydrol dangoswyd y gellid gweld pan fyddai'r gwrthodiad yn digwydd. Y mae rhai cleifion yn gwrthod eu haren newydd yn gyflym er gwaethaf y driniaeth, ond y mae eraill yn derbyn y grafft heb unrhyw broblem. Y mae'n dra phwysig gwybod ymlaen llaw ym mha grwp y perthyn y claf cyn iddo gael aren newydd. Y mae'r tîm ymchwil yn ceisio datblygu prawf fydd yn dangos hyn. Ar yr un pryd y mae astudiaethau yn parhau ynglýn â mecanydd- iaeth gwrthodiad a sut i ddewis y driniaeth orau i ddileu ncu atal y gwrthod. Y mae un o'r darlithwyr (Dr. J. Maddocks) wedi bod yn astudio metabolaeth cyffuriau yn ystod wraemia, h.y. cyflwr methiant yr arennau. Gwelodd fod rhai cyffuriau yn cael eu metaboleiddio yn gyflymach nag arfer, ac mae'n debyg fod wraemia yn arwain i weithgarwch ychwanegol rhai ensymau yn yr iau. Hyd yn ddiweddar yr oedd yn amhosibl gwybod faint o gyffur i roi i glaf er mwyn rhwystro gwrthodiad. Os rhoddir gormod ceir effeithiau annymunol hefyd, ond y mae cryn amrywiad rhwng un claf a'r llall yn hyn o beth. Azathioprin yw'r prif gyffur a ddefnyddir a daeth Dr. Maddocks a'i dîm o hyd i ddull effeithiol o fesur crynodiad aiathioprin a'i gynhyrchion metabolig yn y gwaed. Daeth un canlyniad annisgwyl o'r astudiaeth hyn, nad oedd yn berthnasol i'r ymchwil wreiddiol. Tra oedd un myfyriwr yn defnyddio nitrogen hylif, gwelai y gallai rwystro batrïau trydan rhag gweithio. Awgrymodd mewn llythyr i'r cylchgrawn Nature y gallai nitrogen hylif gael ei ddefnyddio yn erbyn bomiau gyda batrïau a adawyd gan derfysgwyr, sef i rwystro bomiau wedi'u gadael gan bobl fel yr I.R.A. rhag gweithio. Achos mwyaf cyffredin methiant yr arennau yw Hid ar y glomerwli, ac y mae grwp arall yn yr Uned Ymchwil wedi bod yn astudio sut y digwydd y niwed arennol hwn. Ymchwiliwyd mwy na 90 0 gleifion oedd yn dioddef gyda llid y glomerwli, a sylwyd bod 13 ohonynt yn ysgarthu ensymau arbennig yn eu dwr. 'Roedd y cleifion yn ysgarthu llawer iawn o dameidiau o bilen waelod y glomerwli, ac 'roedd Uawer o bolymorffau yn eu glomerwli. Dangosodd profion fod ensymau pur o boly- morffau yn medru treulio pilen waelod yn y labordy. Pan gymharwyd yr ensymau yn y dwr gydag ensymau pur o bolymorffau, nid oedd unrhyw wahaniaeth. Y mae hi'n debyg felly bod rhai cleifion yn dioddef niwed i'r glomerwli oherwydd ensymau o bolymorffau. Gwnaethpwyd llawer iawn o waith ymchwil Llun 3. Un o'r labordai yn yr Uned Ymchwil. Gwaith ynglýn â thrawsblaniad a gwrthodiad sy'n mynd ymlaen yn y labordy yma manwl gan yr Uned, ond efallai bod yr enghr- eifftiau hyn yn dangos yr astudiaethau ynglýn â chlefyd arennol sydd o ddiddordeb i'r Uned. Yn ogystal â gwneud ymchwil y mae'r Uned yn cynorthwyo gyda dysgu yn yr Ysgol Feddygol ac yn cynnal cyfarfodydd i helaethu gwybodaeth am y cyflwr. Bob wythnos y mae cyfarfod arennol dan nawdd yr Uned yn yr Ysbyty Frenhinol, lle bydd y meddygon a'r gwyddonwyr yn trafod amryw bynciau ynglýn â chlefyd arennol. Ym 1973 cyn- haliwyd cyfarfod rhyngwladol yng Nghaerdydd dan nawdd v Sefydliad, gyda siaradwyr o Ffrainc a'r Unol Daleithiau yn ogystal â Phrydain yno. Y mae nifer o'r gweithwyr wedi derbyn anrhyd- eddau. Rhoddodd y Brifysgol Gadair bersonol i'r Athro Asscher. Penodwyd un o'r darlithwyr cyntaf fel Uwch-Ddarlithydd ym Mhrifysgol Sheffield ac y mae un arall yn gweithio nawr ym Manceinion fe1 meddyg ymgynghorol. Y Dirprwy-Gyfarwyddwr yw Trysorydd presennol y Gymdeithas Draws- blaniad Ryngwladol. Y mae'r arian sydd yn cynnal yr Uned Ymchwil yn dod o amryw fannau. Y Cyngor Ymchwil Feddygol sydd yn cefnogi'r grwp dan arweiniad Mr. Salaman, ac mae'r Swyddfa Gymreig wedi rhoi grantiau tuag at amryw agweddau o'r gwaith. Mannau eraill yw'r cwmnïau cyffur a'r Gronfa Ymchwil Arennol Genedlaethol. Sut bynnag, o'r