Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clociau Palaeontolegaidd? Brodor o Lawrybetws ger Corwen, Sir Feirionnydd, yw Llýr Dafis Gruffydd. Symudodd ei deulu i Fryncrug ger Tywyn pan oedd yn fachgen ifanc a derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Tywyn. Graddiodd mewn Swoleg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, gan dderbyn gradd yn y dosbarth cyntaf ac arhosodd ym Mangor i ennill ei ddoethuriaeth. Wedi gadael Bangor bu'n darlithio am gyfnod o bedair blynedd yn Adran Bioleg Môr Prifysgol Lerpwl yn Mhort Erin ar Ynys Manaw. Ym 1966 dychwelodd i Fangor ac ers hynny bun weithiwr ymchwil yn uned ymchwil N.E.R.C. yn Adran Bioleg Môr y coleg ym Mhorthaethwy. Rhwng 1974 a 1975 treuliodd flwyddyn sabothol yn gwneud ymchwil yng Ngorsaf Bioleg Môr Amgueddfa Tromsø yng Ngogledd Norwy. CYFARWYDD i bawb yw'r cylchoedd sydd i'w gweld mewn bonyn coeden. Dysgwyd ni yn gynnar iawn mai cylchoedd blynyddol yw'r rhain a bod cylch o bren tywyll yn cael ei ffurfio yn yr hydref a chylch lletach golau yn tyfu yn ystod y gwanwyn. Adlewyrchiad yw'r gwahaniaeth mewn lliw o faint a nifer y celloedd a dyfir yn ystod y gwanwyn a'r hydref, a hynny yn ei dro yn adlewyrchu gwahan- iaeth yn anghenion y dail o un tymor i'r llall. Mae gan gregyn y môr eu cylchoedd blynyddol hefyd. Codwch unrhyw gragen gocsen oddiar y traeth a gwelwch gylchoedd amlwg arni. Cylchoedd yw'r rhain a ffurfiwyd yn ystod gaeafau eu hoes ac mae cylch yn amlinellu maint a ffurf y gragen yn ystod un gaeaf arbennig. Ni fydd y gragen yn tyfu ond yn araf iawn iawn yn ystod y gaeaf, a'r arafwch yma sy'n gyfrifol am y cylch cul o dyfiant y gaeaf sy'n sefyll allan yn amlwg rhwng tyfiant dau haf (Ffig. 1). Ffìg. I Cragen gocsen â thri chylch gaeaf arni (c cylch gaeaf, th tyfìant haf) LLYR GRUFFYDD Nid oes ond ychydig o flynyddoedd er pan sylweddolwyd bod cylchoedd eraill i'w gweld yn y cregyn hyn, ac mewn ambell greadur arall hefyd sydd â chragen neu sgerbwd o galch. Yn y gocsen, cylchoedd mewnol yng nghrombil y gragen ei hun ydynt a rhaid llifio'r gragen ar ei hyd cyn y medrir eu gweld. Wedyn, mae'n rhaid llifo'r toriad nes bydd yn berffaith lyfn gan ddefnyddio sawl gradd o bowdr agalen yn eu tro, o'r brasaf i'r manaf, ar wydr gwastad. Yna, mae'n rhaid paentio asid ar y toriad a'i adael yno am ychydig o funudau. Mae'r asid yn bwyta i mewn i'r gragen yn anwastad, yn ffodus iawn, gan wneud y cylchoedd mân mewnol yn llawer mwy eglur. Gwneir argraffiad neu gopi o'r cylchoedd trwy roi darn o ffilm asetad, wedi ei gwlychu â thoddydd, ar hyd y toriad. Wedi iddi sychu a'i thynnu i ffwrdd mae copi ffyddlon o'r cylchoedd i'w weld arni o dan y microsgop (Ffig. 2). Y ddamcaniaeth oedd mai cylchoedd dyddiol sydd yn y gragen. Gwelid fod cylchcedd culion tywyll yn digwydd bob yn ail â rhai lletach golau a chredid mai tyfiant y gragen yn ystod y dydd oedd y cylchoedd golau a bod y llinellau tywyll yn cael eu ffurfio yn ystod y nos (neu'r gwrthwyneb wrth gwrs-nid oedd modd gwybod). Ond, sut bynnag y ffurfiwyd y cylchoedd, credai'r palaeontolegwyr, a gwr o'r enw J. W. Wells yn flaenllaw yn eu mysg, eu bod wedi darganfod dull eithriadol o gywrain o olrhain hanes y byd a'i dymhorau yn yr oesoedd a fu oblegid ceir y cylchoedd mân hyn mewn cregyn wedi'u ffosileiddio hefyd. Nid oes neb erbyn hyn yn amau'r ffaith bod y ddaear yn troi'n arafach ar ei hechel rwan nag yr oedd gynt a bod y dydd, o ganlyniad, yn hwyhau. Yr un hyd yw'r flwyddyn o hyd ond credir bod tua 390 o ddyddiau iddi yn ystod y cyfnod carbonifferaidd yn ôl tystiolaeth geoffisegol. Felly, dyma benderfynu edrych ar y