Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rheolaidd yn y rhan fwyaf o'r cregyn. Mae'r eglurhad, yn syml, yn Ffig. 4. Mae'r llinell donnog yn cynrychioli symudiadau'r llanw i fyny ac i lawr y traeth dros gyfnod o tua phythefnos. Y penllanw uchaf ('high water spring tide') yw'r llinell uchaf (P.ll.), a'r distyll isaf ('low water spring tide') yw'r llinell isaf (D.i.). Casglwyd y gragen a ddefnydd- iasom fel enghraifft o safle ar y traeth a gynrychiolir gan y llinell o ddotiau ychydig yn uwch na'r distyll. Gwelwn mai po hwyaf y bydd y gragen o dan y dwr, lletaf yw'r tyfiant. Am gyfnod, pan fo'r llanw ar ei leiaf ('neap tides'), nid yw'r gragen allan o'r dwr yn hir ac o'r herwydd y mae tyfiant sylweddol. Pan fydd llanw mawr ('spring tides'), bydd allan o'r dwr am gyfnod hwy, gan greu llinellau duon cryfach sydd hefyd yn nes at ei gilydd gan fod y tyfiant yn llai. Felly mae'r patrymau hyn, sy'n cael eu hail-adrodd bob rhyw 14| diwrnod, yn dilyn cylch y lleuad. Felly, o edrych yn ôl, gwelwn y gall cragen gocsen wedi ei ffosileiddio ddweud wrthym (a) sawl llanw oedd i'r flwyddyn neu sawl diwrnod lleuadol oedd i'r flwyddyn yn yr oes honno, a (b) sawl cylch llanw ('spring/neap cycles') oedd i'r flwyddyn. Gyda gwybodaeth fel hyn gall y geoffisegwr ddweud wrthym beth oedd patrwm symudiadau'r lleuad a'r ddaear yr adeg honno. Mae rhai cregyn, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn dwr rhy ddwfn i fod o dan ddylanwad y llanw, yn creu GWYDDONWYR O GYMRY Llyfr difyr a luniwyd ar gyfer plant ysgolion uwchradd yn bennaf, am Gymry enwog ym myd meddygaeth, ffiseg, seryddiaeth a chemeg. Ceir yn y gyfrol nifer o luniau diddorol a ffigurau perthnasol ynghyd â geirfa ddefnyddiol. Tt. 87. 22 llun ac 8 o ffìgurau. Ail Argraffiad 1958. Clawr caled 50c. (75c ar ôl Awst laf.) HANES DATBLYGIAD GWYDDONIAETH gan RHIANNON a MANSEL DAVIES Ysgrifennwyd y llyfryn hwn er mwyn rhoi braslun, i'r darllenydd cyffredin, o wreiddiau a thwf y methodau gwyddonol. Bydd ei gynnwys yn ddealladwy heb unrhyw wybodaeth flaenorol yn y maes hwn. Tt. x 143. 8 llun a 5 o ffigurau. 1948. Clawr caled 75c. (95c ar ôl Awst laf.) Archebwch trwy eich siop lyfrau leol, neu os cewch anhawster yn syth oddi wrth: GWASG PRIFYSGOL CYMRU 6 STRYD GWENNYTH, CATHAYS, CAERDYDD CF2 4YD cylchoedd dyddiol, ac wrth olrhain hanes y rh;á hyn mewn ffosilau gallwn ddweud sawl dydd oed j i'r flwyddyn hefyd. Ac ymhellach na hyn, gallwi,. trwy gyfrwng y cylchoedd llanw a dyddiol, ddilya newidiadau yn y tywydd dros y canrifoedd gan nodi'r gwahaniaethau rhwng cylchoedd tyfiant un oes a'r lla.ll. Hefyd, gellir gweld cyfnodau pan ddaeth y tymor tyfu yn hwyrach neu'n gynharach yn y flwyddyn o'i gymharu â'n hoes ni. Defnydd- iwyd y dechneg eisoes gan archaeolegwyr er mwyn canfod pa adeg o'r flwyddyn y defnyddid gwersyll- oedd dros-dro gan ddyn cyntefig. Gwelwyd mewn un gwersyll yn Seland Newydd bod y cregyn i gyd wedi eu casglu pan oedd y tyfiant ar ei orau-- gwersyll haf oedd hwn mae'n amlwg. Nid oedd damcaniaeth J. W. Wells yn hollol gywir pan ddywedodd mai dyddiol oedd y cylch- oedd yn ddieithriad-cylchoedd llanw yw'r rhan fwyaf ohonynt. Ond haedda'r clod mwyaf am y weledigaeth y gellir defnyddio'r cylchoedd i edrych yn ôl a dadansoddi'r berthynas rhwng symud- iadau'r ddnear a'r lleuad dros y canrifoedd. Fel pob perl o hypothesis denodd hwn lawer gweithiwr dawnus i'r maes, ac nid yma mae diwedd y stori yn sicr. Cydnabyddiaeth Diolchaf i Christopher Richardson am gael defnyddio Ffig. 2 a 3 ac i Don Williams am baratoi'r lluniau. gan O. E. ROBERTS