Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 8: PALINDROMAU Gallwn ddiffinio rhif palindromig fel un nad yw'n newid o'i ddarllen o'r dde i'r chwith. Er enghraifft, mae 88, 161, 437734 i gyd yn rhifau palindromig. Mae rhifau o'r fath yn destun nifer o ddyfaliadau diddorol. Er enghraifft, tybir ei fod yn bosibl creu rhif palindromig o unrhyw rif, fel a ganlyn: trowch y rhif o chwith a'i adio i'r un gwreiddiol; os nad yw'r ateb yn balindromig ailadroddwch y broses. Gyda'r rhif 39 cawn: Mae mwy o waith gyda 96: a mwy fyth gyda'r rhif 89, sy'n cyrraedd 8,813,200,023,188 ar ôl adio 24 o weithiau! Mae'n bosibl, fodd bynnag, nad yw 196 byth yn datblygu i fod yn rhif palindromig- mae cyfrifiadur wedi ailadrodd y broses gyda'r rhif hwn rhai miloedd o weithiau heb lwyddiant. Mae'r dyfaliad cyffredinol yn aros, felly, heb ei brofi na'i wrthbrofi. Yr unig beth a wyddom i sicrwydd yw fod y dyfaliad yn anghywir os cyfeirir ein sylw at rifau yn y bôn 2, gan ei fod yn bosibl profi nad yw 10110 byth yn cyrraedd rhif palindromig. Mae'n hawdd gymhwyso'r syniad at feysydd eraill. Yn y byd cerddorol, er enghraifft, mae tôn balindromig yn un y gellir ei chanu o'i dechrau (ymlaen) neu o'i diwedd (yn ôl). Ar yr ochr lenyddol cawn sôn am eiriau, cymalau, brawddegau, paragraffau neu, hyd yn oed, am gerddi palindromig: mae mam, ydy, llall yn eiriau palindromig, a 'lladd dafad ddall' neu 'ysgol rad ar log sy' yn frawddegau palindromig. Mae rhai o'r enghreifftiau Saesneg yn bur enwog, megis cyfarchiad Adda wrth gyfarfod ei gymar: 'Madam, Fm AdamV; neu'r frawddeg gryno: 'A man, a plan, a canal — PanamaT Ceir brawddegau tebyg mewn nifer o ieithoedd eraill, ond ychydig o sylw sydd wedi'i roi iddynt yn y Gymraeg. Er ceisio unioni'r cam, dyma osod y Poenyn Penna' hwn yn gystadleuaeth am frawddeg, neu frawddegau, ar ffurf palindrôm (sylwch nad yw atalnodi yn cael ei gyfrif yn rhan o'r palindrôm). Dyfernir y ceisiadau yn ô1 eu hyd, eu dyfeisgarwch a'u hystyr a bwriedir argraffu'r goreuon. Yn ogystal cynigir gwobr o docyn llyfrau gwerth £ 5 am y palindrôm gorau. Dylid anfon cyfansoddiadau, dan ffugenw, erbyn Hydref 30, 1979, i'r cyfeiriad canlynol: Poenyn Penna' 39 132 93 231 132 363 96 165 726 1353 69 561 627 3531 165 726 1353 4884 POENYN PENNA' Rhif 8, Y Gwyddonydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 6 Stryd Gwennyth, Caerdydd CF2 4YD. Positron