Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhestr Gynnar o Enwau Planhigion yn Gymraeg Tua thudalennau cefn The Herball or Generall Historie of Plantes, y llyfr enwog ar lysiau gan J. Gerarde a gyhoeddwyd ym 1597*, darganfyddir rhestr o enwau planhigion dan y pennawd 'A catalogue of the British names of plants sent to me by Master Robert Dauyes of Guissaney in Flintshire'. Cyflwynaf y rhestr gynnar hon o enwau Cymraeg islaw yn Nhabl 1 yn gywir fel y'i cyhoedd- wyd gyda gwallau sillafu ac argraffu. Mae'r ail res o enwau yn y tabl yn cynnwys yr enwau cyfatebol Saesneg a ddefnyddiodd Gerarde. 'Rwyf wedi mentro adnabod y planhigion a enwir-yn y man cyntaf o ddisgrifiad a darluniau Gerarde. Pan oedd hyn yn anodd trowyd am gymorth i The English- marís Flora (Grigson, 1958) neu i wahanol eiriaduron a llyfrau Cymraeg ar enwau planhigion (er enghraifft, Parry, 1969). Mae perygl mawr Bysedd y Cwn-Menig ellyllion yn rhestr Gerarde *Cyhoeddwyd y copi a welodd yr awdur ym 1636 'enlarged and amended by Thomas Johnson citizen and apothecarye of London'. DORIAN WILLIAMS mewn dibynnu ar enwau cyffredin i adnabod planhigion oherwydd y maent mor amrywiol, ac yn aml mae'r un enw yn cael ei ddefnyddio am sawl rhywogaeth a'r rhain heb fod yr un peth yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae cymhlethdod y sefyllfa yn amlwg o'r nifer mawr o enwau cyffredin Saesneg a ddarganfu Grigson ac mae hyn hefyd yn berth- nasol iawn i Gymru (Hughes, 1970). Felly, yr wyf wedi atodi, pan yn bosibl, yr hyn yr wyf yn credu yw enw rhywogaethol y planhigion hyn yn y drydedd res yn y Tabl; defnyddiwyd yr un awdurdodau â Dandy (1958). Arum maculatum: llun a dynnwyd gan arlunydd Byzantiaidd (Crateuas yn 01 rhai) yn y flwyddyn 512 ac a gynhwyswyd yn fersiwn John Goodyear (1655) o lysieulyfr enwog Dioscorides. Mae i'r planhigyn hwn lu o enwau llafar ymhob iaith a nifer ohonynt yn cyfeirio at ffurf phalig y blodeuyn (e.e. Pidyn y Gog a Cala'r Mynach yn Gymraeg). Am yr un rheswm, mae'n debyg, fe'i defnyddiwyd at anhwylderau rhywiol gan feddygon cynnar. Pidny y goc a geir yn rhestr Gerarde