Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pwvsisrwvdd Ynni Niwclear Darlith Goffa Walter Idris Jones 1977-78 Ganwyd John Lewis yn Llansamlet, Abertawe, ym 1919. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg y dref ac yng Ngholeg Prifysgol Abertawe lle y graddiodd ym 1941 gydag Anrhydedd mewn Cemeg. Ar ôl graddio ymunodd ag Imperial Chemical Industries a gweithiodd hyd ddiwedd y rhyfel mewn ffatri ffrwydriadau yn yr Alban. Dychwelodd i Goleg Abertawe ym 1946 i wneud ymchwil mewn cemeg ffisegol ac aeth i Adran Beirianneg Gemegol y Sefydliad Ymchwil Ynni Atomig (A.E.R.E.) Harwell ym 1948. Y mae'r Dr. Lewis yn arweinydd y Grŵp Cemeg Diwydiannol ac yn gyfrifol am drefnu ymchwil i mewn i driniaeth ysbwriel ymbelydrol a hefyd am gael gwared â'r fath ysbwriel. Ym 1966 gwobrwywyd y Dr. Lewis â gradd D.Sc. y Brifysgol am ei ymchwil ym meysydd cemeg ffisegoì a pheirianneg gemegol. Rhagymadrodd Yr wyf am ddiolch yn gynnes i Goleg Prifysgol Cymru am y gwahoddiad i draddodi'r Ddarlith Goffa i'r diweddar Walter Idris Jones. I mi y mae hyn yn anrhydedd mawr oherwydd yr oedd Idris Jones yn Gymro enwog, yn Is-lywydd y Coleg, yn ogystal â bod yn wyddonydd byd-enwog. Yr oedd hefyd yn gampwr ar faes rygbi ac ar fynyddoedd Eryri a'r Alpau. Ond fel gwyddonydd ym maes y glo yr adnabyddir ef gan fwyaf y tu allan i Gymru. Fel gwr cyfarwydd â'r pwnc hwn y cwrddais i ag ef. Yr oedd Idris Jones yn un o'r rhai cyntaf i gynhyrchu petrol 0 lo a hefyd i wneud glo difwg. Pan etholwyd ef yn Rheolwr Cyffredinol Ymchwil y Bwrdd Glo parhaodd gyda'r ymchwil hon yn ogystal â bod yn gyfrifol am amryw gynlluniau newydd, ac yn arbennig y cynllun i wella cyflwr y glöwr. Bydd eisiau datblygu'r gwaith hwn pan fydd prinder nwy ac olew tanwydd. Pan ddechreuodd Idris Jones ei ymchwil yr oedd glo yn cynhyrchu y rhan fwyaf o'n hynni, oddieithr CYFLENWADAU YNNI YM MHRYDAIN 1977 (Miliynau o dunelli yn cyfateb i lo) Cyfanswm I Trydan Gwresogi Trosglwyddo Haearn Cemicalau Glo 123 80 22 17 Olew 137 18 42 51 5 8 Nwy 63 2 60 Niwclear 14 14 Trydan dwr 2 2 JOHN BRYN LEWIS yr olew a'r petrol sy'n gyrru ceir a lorïau. Y mae yr amgylchiadau wedi newid ers hynny, yn arbennig gyda darganfod nwy ac olew ym Môr y Gogledd. Er hynny, ni fydd y cyflenwadau hyn yn parhau am fwy na 30 neu 50 o flynyddoedd. Amcan y ddarlith hon yw rhoi fy marn bersonol i ar sut y bydd hi'n angenrheidiol i ni ddefnyddio pwer niwclear gyda'r glo sydd gennym i'n hachub rhag prynu gormod o olew tanwydd a nwy o wledydd tramor yn y dyfodol. Gall ynni niwclear ein helpu i ddiogelu glo. Nid oes gwerth mewn iwraniwm ond fel ffynhonnell pwer; ar y llaw arall y mae gwerth mawr mewn glo. Mae mwy o ddibenion i lo na dim ond tanwydd i'w losgi. Pan fydd yn angenrheidiol gellir ei ddefn- yddio i gynhyrchu nwy, olew, nwyddau cemegol ac yn y blaen. Anghenion ynni Beth yw cyflwr presennol ein ffynonellau tan- wydd ? Y mae Tabl 1 yn dangos ffigurau y flwyddyn ddiwethaf (1977) fel cyfansymiau sy'n cyfateb i lo. TABL 1