Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a hefyd o'r potasiwm (K40 naturiol) sydd yn ein cyrff. Y mesur yr ydym yn ei ddefnyddio i ddangos effaith ymbelydredd yw y Rem, neu yn fwy arferol, y millirem (mR, milfed ran o Rem). Y ddos gyffredin i bobl Prydain yw oddeutu 100 mR mewn blwyddyn. Mewn rhai mannau y mae'r ddos yn llai, 80 mR efallai, ac mewn mannau eraill yn fwy, 120 mR efallai. Mewn gwledydd tramor y mae'r ddos yn aml yn fwy, er enghraifft 200 mR yn Sweden lle mae llawer o iwraniwm yn y creigiau a 500 mR mewn gwledydd mynyddig fel yr Andes yn Ariannin. Ar gyfartaledd yr ydym yn derbyn dos o oddeutu 30 mR oddi wrth belydrau-X meddygol. Y ddos i bobl o bwer niwclear yw oddeutu pumed ran o millirem (0-2 mR), sy'n llawer llai na'r ddos naturiol. Beth am ysbwriel ymbelydrol? Y mae'r rhan fwyaf o ymbelydredd yn dadfeilio yn fuan. Felly nid oes ond eisiau storio'r fath ysbwriel am amser byr cyn y gellir cael gwared ag ef. Ond ni ellir gwneud hyn â'r gweddillion sydd yn dod o drin hen elfennau tanwydd. Ar hyn o bryd y mae dros 99 o'r gweddillion hyn mewn toddiant y tu mewn i danciau neilltuol yn ffatri Windscale. Y syniad yw troi'r toddiant yn wydr ('vitrification') a dodi hwn mewn silindrau metel na ddirywiant am filoedd o flynyddoedd. Yn gyntaf storir y silindrau am rai COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH Rhai ffeithiau allweddol ynglýn â'r Coleg: · Sefydlwyd ym 1872, yr hynaf o Golegau gwieiddiol Prifysgol Cymru. Ym 1978-79, 3,144 o fyfyrwyr (2,583 is-raddedig, 561 graddedig). Derbynnir 1,300 o fyfyrwyr newydd y flwyddyn (57% dynion, 43 merched). Neuaddau preswyl ar gyfer 2,000. Cyfanswm staff dysgu: 350. Gwerth adeiladau a godwyd ers y rhyfel: £ 14 miliwn. YSGOLORIAETHAU EVAN MORGAN Bob blwyddyn bydd y Coleg yn cynnig 20 o Ysgolor- iaethau Evan Morgan, gwerth £ 265 y flwyddyn, sy'n parhau dros gyfnod o dair blynedd. Fe'u cynigir ar sail arholiad arbennig a gynhelir ym mis Ionawr bob blwyddyn; caiff yr ymgeiswyr eistedd yr arholiad yn y Coleg, neu yn eu hysgolion eu hunain. Bydd gwerth yr ysgoloriaethau yn ychwanegol at grantiau'r Awdurdodau Addysg Lleol. degadau i'r gwres dadfeiliad leihau. Wedyn cleddir y silindrau mewn llefydd diogel, er enghraifft yn ddwfn yn y ddaear neu dan wely'r môr. Cyn gwneud dim bydd yn angenrheidiol profi'n llwyr na allai'r ymbelydredd dreiddio'n ôl i'r amgylchedd. Y mae ymchwil ar waith mewn amryw wledydd i astudio priodweddau daearegol gwa- hanol greigiau fel gwenithfaen, clai a halen craig, a hefyd briodweddau clai dan wely'r môr. Gwelwch syniadau am storfeydd o dan y ddaear ac o dan y môr yn Ffigurau 6 a 7. Os yw'r clai ar waelod y môr yn feddal gall y silindrau suddo i mewn iddo. Os yw'n galed rhaid i ni ddrilio tyllau. Diweddglo Bydd bwlch yn ein cyflenwadau ynni cyn diwedd y ganrif. Er bod angen arnom ddatblygu nerth y gwynt, y tonnau, y llanw ac yn y blaen, nid yw'r technegau hyn wedi cael eu profi ac nid oes digon o ynni i'w gael o'r ffynonellau hyn i gyfarfod â'n gofynion. Bydd yn angenrheidiol defnyddio pwer niwclear neu gynyddu'n fawr faint o lo yr ydym yn ei losgi os ydym am gadw ein safon byw. Y mae pwer niwclear yn rhatach a mwy diogel na phwer o lo. Mae'n well cadw ein hadnoddau glo at bwrpasau eraill. Mae copïau o'r Prospectws, y Llawlyfr, a manylion ynglýn â'r Ysgoloriaethau ar gael oddi wrth T. A. OWEN, Cofrestrydd, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, SY23 2AX.