Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pigion Gwyddonol SPECULUM Dyddiau Iau a Gwener Ym Mhigion y rhifyn diwethaf cafwyd pwyslais bywydegol ar draul y gwyddorau eraill. Y tro hwn mae'r pwyslais eto yn anghytbwys, ond mewn cyfeiriad gwahanol. Datblygiadau technoleg y gofod a seryddiaeth a gynhyrfodd y lleygwr a'r gwyddonydd i'r un graddau yn ystod y misoedd diwethaf. Brenhines yr arbrofion hyn oedd diwedd taith Pioneer Venus i'r blaned Gwener. Tra bu'r fam long yn cylchynu'r blaned, plymiodd pum chwiliedydd trwy ei hawyrgylch hynod at ei hwyneb. Ymddengys fod awyrgylch ein 'chwaer blaned' yn hollol wahanol ymron pob agwedd i'n un daearol ninnau. Gan nad oes i Wener faes magnetig cyffelyb i'r ddaear i greu tarian yn erbyn y corwynt o ronynnau a ddaw o'r haul, mae'r rhain yn treiddio hyd at 750 milltir uwchben ei hwyneb cyn torri ar lefel uchaf yr awyrgylch, fel asgwrn yng ngheg llong. Yng nghysgod hyn mae haenau tebyg i'r rhai daearol yn ymestyn fel haenau wynwynsen at yr wyneb. Mae'r tair haen allanol, yr ecsobâs (ffin sy'n rhwystro nwyon rhag dianc i'r gwagle), yr ionosffêr a'r ffin terfysg turbopause-lle ceir dechrau haenau tawel yr awyrgylch-yn gyfres gyfarwydd, ond mae eu mesuriadau yn hollol wahanol i haenau cyfatebol y ddaear. Yma, 350, 120 a 60 milltir yw trwch yr haenau; ar Wener gwesgir hyn i 100, 90 ag 89 o filltiroedd, er bod y ddwy blaned yn debyg o ran maint. Wrth i'r chwiliedyddion symud drwy'r haenau isaf sylweddolwyd mai lle eithaf anghyfarwydd yw Gwener. Tua 45 milltir o'r wyneb mae haen o ddiferion asid sylffwrig 3 milltir o drwch. Odano byddai modd gweld yr haul fel cylch ond megis trwy niwl tenau. Yna 35-32 o filltiroedd i fyny mae ail haen o asid ynghymysg â llwch o sylffwr melyn. Yna ar ôl pasio trwy ddwy filltir o 'awyr' glir plymiodd y chwiliedyddion i drydedd haen o asid a sylffwr. Yna ar ôl rhai milltiroedd clir plymiasant i gawl nwyol coch yn ymestyn i'r wyneb. Lle gwirioneddol 'Annwnaidd' yw wyneb Gwener. Byddai modd gweld am ryw filltir yno cyn i'r 'gwylf coch ymdrychu. Er iddi ddal yn olau, rhyw olau coch tywyll yn dod o bobman fyddai. A'r tymheredd? 480 gradd canradd. Hyn yn bennaf oherwydd yr effaith 'tŷ gwydr' sy'n deillio o'r 98 o ddeuocsid carbon sydd yn yr awyrgylch. LIe prydferth i'w gwylio ar set deledu, ond gwell fyddai cadw at y Rhyl neu Borthcawl am wyliau eleni eto! Os mai Pioneer Venus oedd brenhines yr arbrofion diwethaf, yn ddiau Voyager oedd y brenin! Wrth i mi ysgrifennu, dim ond darluniau teledu Voyager 1 o'r blaned Iau a'i lleuadau a welwyd ond yn barod synnwyd gwyddonwyr a lleygwyr gan ei darganfyd- diadau. Nid oes modd cystadlu â'r teledu wrth ddisgrifio'r wybodaeth a gasglwyd ond rhaid nodi peth ohoni wrth fynd heibio. Fel Gwener, mae gan Iau awyrgylch lliwgar. Yma molynnau cymhleth wedi'u creu, mwy na thebyg, gan effaith mellt ar y cymysgedd o hydrogen, methan, amonia a dwr sy'n gyfrifol. Mae stormydd yr awyrgylch hwn yn creu patrymau, gan gynnwys y Smotyn Mawr Coch enwog. Storm yw hwn sydd wedi parhau am ganrifoedd. Uwchben y cymylau yma, yn hollol annisgwyl, darganfuwyd fod gan Iau gylchoedd o'i amgylch yn debyg i rai Sadwrn. Yn awr fe wyddom fod gan dair o'r planedau mawrion gylchoedd-Sadwrn, Iwranws a Iau. Symudodd Voyager yn agos at nifer o'r llu lleuadau sydd gan y blaned fawr. Yno hefyd, gwelwyd pethau annisgwyl. Amalthea, y lleuad dywyll fewnol, wedi'i thynnu'n hir-grwn gan ddis- gyrchiant y blaned; Io, melynfrown, yn hollol lân a di-graith, a orchuddiwyd gan gynnyrch o leiaf wyth mynydd tân byw; Ganymede, yn fwy na'r blaned Mercher, yn greithiau i gyd; Callisto, y corff mwyaf creithiog yn system yr haul, ac arno un crater fel tonnau ar lyn ar ôl i garreg ei daro, yn gylchoedd cymherfeddol miloedd o filltiroedd ar eu traws. Yn awr mae Voyager 1 ar ei ffordd i'r blaned fawr nesaf, Sadwrn. Pa ryfeddodau sydd yn ei disgwyl? Rhaid aros hyd Dachwedd 1980 cyn eu gweld. Penblwydd 3 9 biliwn mlwydd oed Mae tystiolaeth ddaearegol creigiau o Greenland yn awgrymu i fywyd ymddangos ar wyneb ein planed ni o leiaf 3-9 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Os gwir, mae hyn yn symud ein dechreuad daearol yn ôl i ychydig dros hanner biliwn o flynyddoedd yn unig wedi genedigaeth system yr haul. Ymateb Cyril Ponnamperuma, pennaeth Labordy Esblygiad Cemegol Prifysgol Maryland i'w ganlyn- iadau yw dechrau edrych tuag at y sêr am dystiolaeth am darddiad bywyd daearol.