Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ai seren newtron arall neu dwll du. Mae'r ddau ddarn, felly, yn anferth o ddwys ac yn agos iawn at ei gilydd, amgylchiad sydd yn arbennig o addas i chwyddo'r gwahaniaeth rhwng peirianneg perth- nasedd cyffredinol a pheirianneg Newtonaidd. Darganfuwyd gan J. H. Taylor a'i gydweithwyr ym Mhrifysgol Massachusetts (Nature cyf. 277 tud. 437) fod anghysondeb o 4 2 gradd y flwyddyn rhwng ymddygiad y pwlsar-dyblyg a'r hyn a ddaro- genir gan beirianneg Newton! Ymddengys hefyd fod y 'seren' yn colli egni fel petai yn ymbelydru ymbelydredd disgyrchiannol. Mae bodolaeth hwn yn destun llosg rhwng y gwahanol garfanau yn y cyfnod ers Einstein. Ond meidrol, wedi'r cyfan, oedd Einstein hyd yn oed. Bu cryn drafodaeth yn ddiweddar ynglýn â Dylid anfon ymholiadau a cheisiadau i Bennaeth Adran Addysg Gorfforol, Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg, Heol Cyncoed, Caerdydd CF2 6XD. Ffôn (0222) 751345. hanes ymennydd y Gwr Mawr. Mae'n debyg i'r dar i amhrisiadwy o feinwe yma gael ei godi o benglo ei berchennog 23 blynedd ar ôl ei farwolaeth (yi i 1978). Ni chyhoeddwyd unrhyw ganlyniadau an ei bod yn debyg ei fod yn ymennydd hollol gyffredi.1 wedi'r cwbl. Yn ôl adroddiad yn y New Scientht (Mawrth 8ed, tud. 777) mae'n gorwedd yn awr mewn heddwch mewn jar 'Mason' mewn bocs cardbord wedi'i farcio 'Costa Cider'. Gorwedd hwn yn ei dro mewn swyddfa yn Wichita, Kansas. Beth a ddigwydd i Einstein druan, heb ei ymennydd, ar Ddydd y Farn ? Er nad oes terfyn i'r Gofod, fe ddaeth diwedd i'm gofod innau, felly gorffennir gyda chwestiwn. Un blaned yn unig sydd heb sôn amdani y tro yma-pa un? ATHROFA ADDYSG UWCH DE MORGANNWG CAERDYDD BA (ANRHYDEDD) ASTUDIAETHAU SYMUD DYNOL Cwrs tair blynedd wedi ei ddilysu gan Brifysgol Cymru. Mae'r cwrs Anrhydedd hwn yn dechrau ym Medi 1979 ac mae o ddiddordeb i ddynion a gwragedd sy'n edrych am gyfle diddorol i arbenigo mewn ymarfer corff, sbort a symud dynol tra'n astudio ar gyfer gradd Anrhydedd. Cyfuna'r cwrs theori ac ymarfer. Croesewir ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr sy'n gallu cynnig dwy lefel 'A', tair lefel 'O' a thystiolaeth o gyraeddiadau a disgleirdeb mewn campau, athletau, gymnasteg, dawns a symud.