Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau Ar Antur Wyddonol gan Harry Thomas (addasiad Cymraeg gan Iwan Bryn Williams). D. Brown a'i Feibion Cyf., Y Bontfaen. Tud. 45. Pris £ 2.95. Braf yw cael croesawu llyfr lliwgar deniadol, yn byrlymu gyda syniadau i danio dychymyg a chodi brwdfrydedd mewn gwyddoniaeth ymysg plant. Bwriedir y llyfr ar gyfer yr oedran 9-13 ac mae'r cyfieithiad gan Iwan Bryn Williams (o 'Adyentures into Science' a gyhoeddwyd gyntaf ym 1975) yn llwyddo i gyfleu arddull ac ysbryd bywiog yr awdur. Dylanwadwyd yn drwm ar Harry Thomas gan egwyddorion gwyddoniaeth Nuffield sef, meddai, 'sylwi yn arwain at holi, a holi at arbrofi, a'r arbrofi weithiau yn ateb y cwestiwn. Dro arall yn arwain at holi pellach a rhagor o arbrofi wedyn.' Gwrth- rychau y sylwi, holi ac arbrofi yw pethau cyffredin yn y tý, megis jeli, inc ac ati, a llwyddir i gynllunio nifer o arbrofion diddorol sy'n cyffwrdd ag agweddau o gemeg, ffiseg a bioleg. Mae'r awdur yn hanu o Abercynffig, Morgannwg Ganol, ac wedi ymddeol yn ddiweddar wedi gyrfa fel athro ysgol a darlithydd coleg hyfforddiant yn Llundain. Mae'n hen law ar ysgrifennu llyfrynnau yn poblogeiddio gwyddoniaeth ond hwn yw'r cyntaf i gael ei gyfieithu. Cyhoeddir y llyfr dan nawdd Cynllun Gwerslyfrau y Cyd-Bwyllgor Addysg, sydd i'w longyfarch am sylwi fod yma ddeunydd addas ar gyfer plant Cymru. Anodd deall, fodd bynnag, pam nad yw'r cyfieithydd wedi glynu'n ffyddlon wrth ganllawiau'r Geiriadur Termau. Er enghraifft, defnyddia arbraw, ammonia, aliwminiwm yn lie arbrawf amonia, alwminiwm. Ond brychau bychain yw pethau felly o'u cymharu ag ansawdd cyffredinol y llyfr. Diolch i'r awdur am y llyfr bywiog hwn. Peth braf hefyd yw clywed ei fod wedi dysgu'r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Gallwn edrych ymlaen, mae'n siwr, at gyfraniadau pellach ganddo i faes gwyddoniaeth Gymraeg i blant. H.G.FF.R. Mathematics: an Introduction to its Spirit and Use (golygydd: Morris Kline.) W. H. Freeman, 1979. Tud. 249. Pris £ 8.90 (clawr caled), £ 4.70 (clawr meddal). Cyfres o erthyglau a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn y 'Scientific American' yw'r llyfr hwn ac mae hyn yn ein sicrhau ei fod o safon uchel. Mae yma ddeugain o erthyglau ar wahanol agweddau ar fathemateg. Rhennir yr erthyglau rhwng chwech o feysydd, sef hanes mathemateg, rhif ac algebra, geometreg, ystadegaeth a thebygolrwydd, rhes- ymeg symbolaidd a chyfrifiaduron, a chymhwys- iadau. Mae pob un o'r erthyglau yn dda ac mae cryn amrywiaeth ynddynt. Ar y naill law dangosir ysbryd mathemateg drwy'r erthyglau sy'n trafod y rhan o fathemateg yr honnir nad oes dim defnydd ohoni, sef theori rhifau sy'n ymwneud, er enghraifft, â dosraniad y prif rifau. Hefyd ceir erthygl sy'n trafod rhai o nodweddion trionglau nas trafodwyd gan Euclid. Ar y llaw arall mae defnyddioldeb mathemateg yn dod allan trwy erthyglau megis yr un gan Gardner ar y testun annisgwyliadwy o theori gwneud tyllau sgwâr, ac un gan Dalton ar reoli ansawdd cynnyrch mewn ffatri. Heblaw'r erthyglau y mae ysgrif ragarweiniol i bob rhan gan y golygydd sy'n trafod cefndir y gwahanol feysydd, a, hefyd, restrau o bethau eraill i'w darllen. Beth bynnag, mae'n rhaid i mi wneud rhai sylwadau anffafriol. Yn gyntaf, ymddangosodd llyfr tebyg iawn, Mathematics in the Modern World, rai blynyddoedd yn ôl (v GWYDDONYDD, 7, t. 45, 1969) ac mae tair ar ddeg, sef bron y drydedd ran o'r erthyglau wedi ymddangos yn hwn. Yn ail, mae'r erthyglau ar y cyfan yn weddol hen-mae tair yn perthyn i'r pedwardegau, pedair ar bymtheg i'r pumdegau, pedair ar ddeg i'r chwedegau a dim ond pedair i'r saithdegau. Mae hyn yn arbennig o wir am y pumed ran; cyhoeddwyd yr erthygl 'The Role of the Computer' ym 1952, dros chwarter canrif yn ôl. Wedi dweud hyn, mae'n rhaid cydnabod bod y llyfr yn cyfiawnhau ei deitl trwy ddangos ysbryd a defnyddioldeb mathemateg. Hyd yn oed os yw'r llyfr cyntaf ar gael, mae'r saith erthygl ar hugain arall yn werth eu darllen, a chyda phris cymharol isel yr argraffiad clawr meddal dylai'r llyfr hwn fod yn llyfrgell pob ysgol uwchradd. LL.G.C. Penn ar Bed. S.E.P.N.B., Faculté des Sciences, Brest. Rhifynnau 89-92 (Mehefin 1977-Mawrth 1978). Rhifyn 89. Disgrifir y gerddi-llysieueg newydd yn Stangalarc'h yn ymyl Brest. Eu prif ddiben yw gwarchod planhigion sydd ar fedr diflannu'n gyfangwbl. (Gwyddys am ddiflaniad mathau o anifeiliaid, ond, wrth reswm, peryglir hefyd, ac am yr un rhesymau ymron, fathau o blanhigion nad yw eu cartrefi gwreiddiol yn eang.) Bydd y gerddi'n cynnwys labordai lle gellir cadw hadau