Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mewn ffordd deilwng. Yn y cyswllt hwn, mae'n ddiddorol nodi bod y llywodraeth yn bygwth torri grantiau i brifysgolion os byddant yn cymryd gormod o fyfyr- wyr tramor. Bydd hyn yn creu anaws- terau mawr oherwydd mae'r siartr yn gwahardd unrhyw weithred hiliol gan y Coleg sydd, yn hytrach, i fod i dderbyn myfyrwyr am resymau academaidd yn unig-ac yn gwneud hynny. Un peth sy'n achosi pryder i rai ohonom yw'r nifer bach o Gymry Cym- raeg sy'n astudio gwyddoniaeth. Eleni mae 202 o Gymry Cymraeg yn astudio ar gyfer B.A. a dim ond 38 yn astudio ar gyfer B.Sc. Ni wn a yw hyn yn beth cyffredin. A yw'n bosibl nad oes gan y Cymry Cymraeg fawr o ddiddordeb mewn gwyddoniaeth? Os felly bydd anawsterau mawr yn codi mewn ysgol- ion uwchradd Cymru yn y dyfodol gan na fydd neb ar gael i ddysgu pynciau gwyddonol trwy'r Gymraeg. Cafodd 'Adran dramor' y Coleg gryn sylw yn ddiweddar mewn canlyniad i ymweliad tîm teledu'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ag uned ymchwil yr Adran Amaethyddol yn Hofuf, Arabia. Mae aelodau o'r Adran Amaeth- yddol yn ymweld yn gyson â Hofuf, ac mae llawer o fyfyrwyr ymchwil Arabaidd ym Mangor. Mae gan amryw aelodau eraill o'r staff ddiddordeb sydd yn gysylltiedig â'r trofannau a gwledydd poeth. Bu'r Dr. A. G. Gatehouse o'r Adran Swoleg Amaethyddol yn ymweld â gwledydd Affrica i wneud archwiliad ynglýn â phryfed tsetse a thrychfilod cyffelyb. Mae'r Dr. A. J. Propert, o'r un Adran, yn yr India yn ymchwilio i drychfilod anifeiliaid. Bu'r Dr. I. Kelso, o'r Adran Fiocemeg, yn Syria yn trafod tiroedd sych, a bu'r Dr. Gareth Wyn Jones yn rhedeg cyrsiau ym Mhacistan ar halwyn- edd planhigion. Bu'r Athro D. J. Crisp o Adran Fioleg y Môr yn treulio deufis ym Mhrifysgol y 'South Pacific' yn Fiji. Hoffwn longyfarch y Dr. J. G. Duckett o'r Ysgol Lysieueg ar ei benodiad i Gadair Lysieueg yng Ngholeg y Fren- hines Fair ym Mhrifysgol Llundain. Mae amryw o'r cynlluniau adeiladu ar fin cael eu cwblhau. Mae'r adeilad newydd i'r cyfrifiadur (y tu ôl i'r hen Ysgol Deiniol) bron yn barod. Hefyd mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen ym Mhorthaethwy ar y tanciau dwr môr, ac ar bier Porthaethwy a fydd yn ddefn- yddiol iawn ar gyfer cychod y Coleg a'r adrannau gwyddor môr. Cafodd amryw o'r adrannau gwydd- onol rantiau ymchwil. Mae'n debyg mai'r rhai a fydd o ddiddordeb mwyaf yw'r rhai a gafwyd gan yr Adran Amaethyddol--gan gwmni Bob Parry ar gyfer gwella gwartheg duon Cymraeg, gan y Comisiwn Cig ar gyfer archwilio nodweddion cig oen Cymreig, a chan y Cyngor Ymchwil Amaethyddol i ddat- blygu math newydd o ddafad-y brîd Caergrawnt. Bu amryw staff y Coleg yn darlithio mewn gwledydd tramor yn ddiweddar. Er enghraifft, o'r Ysgol Beirianneg bu'r Dr. D. Das Gwpta yn darlithio yn Siapan a'r Unol Daleithiau, y Dr. J. D. Last yng Ngorllewin yr Almacn, y Dr. R. Pethig yn yr Unol Daleithiau, yr Athro P. E. Secker yng Nghanada. Dengys hyn gysylltiadau byd-eang un adran yn unig. Cafodd amryw eu penodi neu eu hethol i bwyllgorau o bwys. Penodwyd Mr. A. R. Owens o'r Ysgol Beirianneg i un o fyrddau Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol (CNAA), a'r Dr. R. Pethig yn gyd-olygydd y Joumal of Biological Physics. Penodwyd yr Athro T. R. Miles (bydd darllenwyr Y GWYDDONYDD yn cofio am ei erthygl ar seicoleg tenis) i bwyllgor ymgynghorol yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth ar addysg plant gydag anawsterau dysgu. Hefyd bu'r Athro J. M. Dodd o'r Adran Swoleg yn cynrychioli'r Gymdeithas Frenhinol yng Nghymdeithasfa Gyffred- inol Cyngor Cydwladol Undebau Gwyddonol y Byd yng Ngenefa. Yr oedd pawb yma yn falch iawn o glywed bod yr Athro W. Charles Evans wedi ei ethol yn Gymrawd o'r Gym- dcithas Frenhinol fel cydnabyddiaeth o'i waith ar natur y defnyddiau sy'n achosi cancr. Mae'r Athro, sy'n ymddeol eleni ar ôl bod yn bennaeth yr Adran Fiocemeg ers tua deng mlynedd ar hugain, yn hanu o Fethel Arfon, ac mac'n llongyfarchiadau diffuant yn mynd iddo. Bydd y Coleg yn dathlu ei ganmlwydd- iant ymhen pum mlynedd a disgwylir y cyhoeddir ei hanes yr adeg honno. Os oes gan rywun atgofion a all fod o ddiddordeb, bydd yr Athro J. Gwynn Williams, sy'n ysgrifennu'r hanes, neu'r adrannau sy'n ysgrifennu eu penodau eu hunain, yn falch o'u clywed. CAERDYDD Sefydlodd yr Adran Fwynfeydd ganol- fan weithio yn hen weithfeydd aur Dolaucothi ger Pumpsaint. Oherwydd y rhamant a phrydferthwch naturiol yr ardal daeth y Ile yn hynod boblogaidd gyda myfyrwyr ac ymwelwyr. LL.G.C. Yn ystod y flwyddyn 1977-78 llwydd odd yr Adran Drydan i ddenu grantiaL gan gwmnïau preifat yn ogystal at Adran Ddiwydiant y Llywodraeth ddatblygu peiriannau magnetig i'v defnyddio mewn cyfrifiaduron. Yn ddiweddar datblygwyd gwasanaeth cyfrifiadurol y coleg. Cynyddodd maint prif stôr y cyfrifiadur lleol i 1 M byte. Newidiwyd dau ddrwm magnetig araf am ddau o gyflymdra uwch ac ychwan- egwyd un arall. Yn ogystal, trosglwydd- wyd disg fagnetig o 60M byte, sy'n perthyn i'r Cyngor Ymchwil Feddygoi, o Aberdeen i Gaerdydd a bydd ar gael i holl ddcfnyddwyr y cyfrifiadur. Gall y ganolfan ddefnyddio adnoddau cyfrif- iaduron eraill yn Llundain a De- Orllewin Lloegr, e.e. y CDC 760 yn Llundain, y 4-72 yng Nghaer-Wysg a'r ICL 2980 newydd yng Nghaerfaddon. B.T. POLITECHNIG CYMRU Ar ddechrau sesiwn 1978-79 bu dau ddatblygiad o bwys. Dechreuodd y Dr. John D. Davies yn ei swydd fel Prifathro ac ad-drefnwyd y Cyfadrannau oddi mewn i'r Politechnig. Yn y system newydd ceir pedair Cyfadran: Adeilad- waith a Defnyddio Tir; Gwyddoniaeth a Pheirianneg; Dyniaethau; Busnes a Gweinyddiaeth. Mae adrannau Peirian- neg Sifil, Maintfesuraeth a Rheolaeth Ystadau, a Mwyngloddiaeth yn perthyn i'r Gyfadran gyntaf, gyda'r gweddill o'r adrannau peiriannegol, gwyddonol a mathemategol yn perthyn i'r ail Gyf- adran. Y gobaith yw y bydd y Cyf- adrannau newydd yn adlewyrchu yn well y cysylltiadau a'r gweithio ar y cyd a geir rhwng gwahanol adrannau. Mae sêl bendith Cymdeithas Broffes- iynol o bwys mawr i rai adrannau mewn Colegau, Prifysgolion a Pholitechnigau, gan fod y Cymdeithasau yn archwilio'r adrannau a'u cyrsiau cyn cytuno bod myfyrwyr graddedig o'r adrannau hynny i gael eu derbyn yn aelodau o'r Gym- deithas. Yn ddiweddar ymwelodd panel o'r Gymdeithas Peirianwyr Sifil â'r Politechnig. 'Roedd y panel wedi ymweld â dwy adran ar bymtheg mewn gwahanol golegau cyn dod atom ac, o'i rhain, dim ond naw a farnwyd yn addas ar yr olwg gyntaf. Aeth yr ymweliad a'r Politechnig yn hwylus ac mae pob gobaith y bydd adroddiad ffafriol yn dilyn yn y man. Er fod y panel yn sylw; ar safon academaidd y cyrsiau a threfr yr adran, 'roedd y pwyslais mwyaf yr cael ei roi ar agweddau ymarferol