Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffìg. 3. Gosod y cistiau sbwriel yn eu gorffwysfa daearegol GLYN O. PHILLIPS Poenyn Penna' Rhif 11: GWYLIAU GWLYB "Sut dywydd gest ti ar dy wyliau, Bob?" — cwestiwn digon ystrydebol, mae'n wir, wrth i mi gyfarch fy nghyfaill ar sgwâr y pentref, ond un a ysgogodd ateb annisgwyl: "Lle gwlyb ar y naw ydi ardal 'Stiniog, wsti. Fe lawiodd ar ddeg o'r diwrnodau fuo ni yno er, cofia, mi gawson ni ddeg pnawn braf ac wyth bore braf hefyd ac mi fyddai hi bob amser yn clirio erbyn y pnawn yn dilyn bore gwlyb." 'Roeddwn wedi bwriadu gofyn iddo am faint fuo fo a'i deulu yno ond aeth ar ei union i'r swyddfa bost gan adael i mi ateb fy nghwestiwn fy hun. Am faint fu Bob ar ei wyliau ? (Ateb ar dudalen 13) Positron