Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'r bacteriwm hwn i'w gael mewn llefrith Mae atgenhedlu Escherichia coli yn cychwyn am 10°C, yn lleihau yn gyflym dros 45°C, a mwy neu lai yn peidio am 50°C. Gan mai hwn yw y bacteriwm sydd yn achosi i lefrith suro gall llefrith gael ei gadw o dan 10°C neu dros 50°C yn amhenodol! Mae pwysigrwydd Escherichia coli yn gorwedd hefyd yn y ffaith ei fod yn arf a ddefnyddir gan fiolegwyr molecwlar mewn arbrofion.3 Mae amser cenhedlu yn dibynnu ar gyflwr y bacteriwm a hefyd mae yn amrywio o facteriwm i facteriwm. Nid oes llawer o waith wedi ei wneud ar amserau cenhedlu bacteria y tu allan i'r labordy ac nid ydym yn gwybod y rheswm am y gwahan- iaeth yn amserau cenhedlu gwahanol facteria. Rhoddwn yn awr enghraifft o amserau cenhedlu bacteria. Mae'r amserau yn amrywio rhwng 10 munud (y byrraf) a 81 munud (yr hwyaf). Mae'r tabl yn rhoddi cyfraddau macsimwm y bacteria yn y labordy; bydd amserau cenhedlu yn hwy o dan amodau naturiol: Amser cenhedlu macsimwm Bacteriwm (munudau) Pseudomonas natriegens 10 Bacillus stearothermophilus* 1 Bacillus coagulans* 13 Bacillus subtilis* 26 Clostridium botulinum 35 meliloti 75 Vibrio marinus 81 Mae'r bacteria hyn i'w cael mewn pridd a gallant achosi tetanws a'r ddarfodedigaeth. Gan fod amserau cenhedlu bacteria mor sensitif i dymheredd, mae tymereddau'r gwahanol brosesau yn bwysig iawn. Er enghraifft, mae'r tymheredd wrth brosesu ymenyn, gwneud caws, trin tybaco a chynhyrchu gwin yn bwysig er mwyn lleihau tyfiant bacteria. Ym myd natur ni all y rhan fwyaf o ffyngau achosi heintiad mewn dyn gan fod uchafbwynt tymheredd eu tyfiant islaw tymheredd y corff. Yn awr gadewch i ni droi at destun sydd, ar yr wyneb, yn hollol anghysylltiedig â'r hyn yr ydym wedi bod yn ei drin. Tyfiant Meibion Israel yn yr Aifft Drwy'r blynyddoedd bu dyfalu ynglyn â sut i ddehongli cyfrifiadau poblogaeth llyfr Numeri. Beth yw arwyddocâd y rhifau a beth oedd bwriad pob cyfrifiad? Mae'n amlwg bod cyfrifiadau poblogaeth yn gyffredin yn y gwahanol wareidd- iadau hynafol. Mae cyfrifiadau Mari, Ras Shamrah ac Alalakh4 yn amredeg o amser cyn Moses i gyfnod Hammurabi. Yn Rhufain mae'r cyfrifiad yn mynd yn ôl i gyfnod y brenhinoedd5 ac mae Katalogos y Groegiaid yn nodwedd gynnar o'r gyfundrefn filwrol.5 Mae cyfrifiadau yn Siapan yn mynd yn ôl cyn belled â'r wythfed ganrif o leiaf,6 wedi dod o Tseina lle maent hwy i'w gweld yn y ganrif gyntaf. Trwy'r canrifoedd mae'n ymddangos bod cyfrifiadau poblogaeth yn ateb dau brif ddiben: i wasanaethu fel sylfaen i godi a chasglu trethi ac fel cofrestr o'r dynion a oedd yn rhwy- medig i wasanaeth milwrol. Mae rheswm dros gysylltu cyfrifiadau poblogaeth llyfr Numeri â'r ddau bwrpas.7 Mae dyfalu bod y gair Hebraeg 'elef o lyfr Numeri yn dynodi rhyw ran o lwyth ac nid 'mil' fel y mae'n cael ei gyfieithu yn y Beibl. Mae Flinders Petrie,9 sy'n derbyn y cyfrifiadau fel gwir gofnodau o amser Moses, wedi esbonio 'elef fel 'bagad pabell'. Fodd bynnag, mae'r dehongliad hwn yn rhoddi ffigurau rhy fawr.10 Mae Menden- hall10 yn awgrymu y dylai'r gair 'elef ddynodi 'undod llwyth'. Er enghraifft, pan ddarllenwn 'sef o lwyth Reuben, oedd chwe mil a deugain a phum cant' (Numeri 1 21), mae Mendenhall yn awgrymu bod hyn yn golygu 46 o unedau yn cynnwys 500 0 ddynion. Buasai 'O lwyth Simeon, oedd onid un fil tri ugain mil a thri chant' (Numeri 1 23) yn golygu 59 o unedau yn cynnwys cyfanswm o 300 o ddynion. Yn ôl y patrwm hwn buasai maint uned yn amrywio 0 lwyth i lwyth, gyda Simeon (y lleiaf) â rhyw 5 dyn mewn uned a Gad (y mwyaf) â rhyw 14 dyn mewn uned. Un agwedd anfoddhaol i'r dehongliad hwn yw bod y cyfansym- iau yn rhoi 598 o unedau yn cynnwys 5,550 0 ddynion. Nid yw'r rhain yn cyd-fynd â Numeri 1 46 A'r holl rifedigion oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain'. Yn ôl dehongliad Mendenhall dylai hyn olygu 600 0 unedau yn cynnwys 3,550 o ddynion. Ar y llaw arall, os dehonglwn 'elef fel mil cawn 598,000 a 5,550 yn rhoi 603,550 ac mae'r cyfan yn gyson. Yn y papur hwn byddwn yn derbyn y term 'elef sydd yn cael ei ddefnyddio yn Numeri 1 a 26 fel mil ac yn archwilio tyfiant Israel yn yr Aifft i gyrraedd at y ffigurau hyn. Cychwynnwn gyda 'holl eneidiau ty Jacob, y rhai a ddaethant i'r Aipht, oeddynt ddeg a thri ugain'. (Genesis 46 27.) Ystyriwn fod poblogaeth wreiddiol Israel yn 70 o ddynion. Cymerwn fod meibion Israel wedi preswylio yn yr Aifft am 430 o flynyddoedd: 'Ac ym mhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ie, o fewn corph y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr Arglwydd allan o wlad yr Aipht'. (Exodus 12 41.) Cymerwn fod y boblog- aeth derfynol yn 603,550 fel y mae sôn amdani