Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Miwsig Electronig Am y tro cyntaf erioed yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol cafwyd cystadleuaeth yn Eisteddfod Caerdydd ym 1978 i gyfansoddi darn o fiwsig electronig ar dâp. Yn ôl y feirniadaeth yr oedd yn gystadleuaeth o safon uchel iawn ac fe ddylid llongyfarch Pwyllgor Eisteddfod Caerdydd am fentro i'r maes gweddol ddiarth hwn, gan gofio ei bod efallai yn fwy anodd cyflwyno ffurfiau newydd mewn miwsig i ni'r Cymry yma yng ngwlad y gân draddodiadol a chonfensiynol nag odid unman yn y byd! Diddorol fyddai olrhain cychwyn y math hwn ar fiwsig a cheisio edrych i ba gyfeiriad y mae yn debyg o ddatblygu. Hanes Y mae chwarter canrif wedi mynd heibio er pan ddarfu i Schaeffer a Henry ddechrau astudio'r gelfyddyd o drin sain a swn yn eu stiwdio ym Mharis. Er yr adeg honno, rhaid cyfaddef fod miwsig electronig wedi datblygu trwy lawer o wahanol agweddau o ddatblygiadau technegol ac esthetig, ac y mae'n rhaid sylweddoli fod y dechneg hon yn llwyr ddibynnol ar ddatblygiadau ym myd technoleg. Fel y deuai ffurfiau a gwelliannau newydd yng ngwneuthuriad y cylchedau electronig felly hefyd y deuai mwy o gyfle i greu miwsig gwahanol a gwell. Fe ddatblygodd y miwsig yma o fod yn musique concrete ar y dechrau ac yna'n elecktronische musik ac wedi hynny yn dechneg glasurol mewn stiwdio. Wedyn cafwyd math o dâp-dyrniadol ynghlwm wrth gyfrifiadur i gyfleu'r miwsig ac erbyn heddiw y mae'r cyfan yn ymwneud ag ymdrin â seiniau electronig sy'n dod allan o synthesiser. Yn gynnar yn y chwedegau, pryd y bu datblygiad pwysig yn y gylched gyfunedig o fewn cylchedau electronig (a'r pwyslais ar reoli'r foltedd mewn cylchedau) y cychwynnodd oes aur y miwsig hwn, oherwydd yr oedd yn bosibl ymadael â'r hen ddulliau anodd a thrafferthus. Tua'r un adeg y daeth hefyd rhyw ymdeimlad newydd tuag at fiwsig electronig ac fe ddangoswyd cryn ddiddordeb yn y gelfyddyd newydd hon. Daeth cynulleidfa barod o rywle yn ddisymwth hollol ac fe ddaeth cyfle i'r cyfansoddwyr i ymateb i ofynion y boblogaeth eiddgar. OWAIN WYN DAVIES Cyfansoddi Yn naturiol ddigon y mae'r seiniau a gynhyrchir yn dibynnu ar y math o offer a ddefnyddir gan y cyfansoddwr. Ar yr un pryd gellir dweud fod gan bob system o fiwsig electronig ei nodweddion ei hun. Gall pobl sy'n gyfarwydd â'r miwsig ddweud ar unwaith o Ie y daeth math arbennig o swn a heb unrhyw anhawster gallant ddehongli a dirnad ffynhonnell y miwsig o dan sylw. Er enghraifft, gwyr yr arbenigwyr selog y gwahaniaeth rhwng swn allan o system Buchla a swn allan o system Moog neu Putney. Mae hyn yn rhyw groesddweud yr hyn a ddywedir am fiwsig confensiynol pryd y cyhoeddir fod miwsig er enghraifft allan o gorned, yn fiwsig corned ar draws y byd. Beth felly ydyw y prosesau y mae'n rhaid i gyfansoddwr miwsig electronig eu dilyn er mwyn gallu cyfansoddi ? Beth ydyw'r paramedrau cysyllt- iedig y mae'n hanfodol i'w diffinio wrth gyn- hyrchu'r miwsig hwn? Beth ydyw'r dechneg sydd wrth law a sut y gellir ei defnyddio? Canys, wedi'r cyfan, yr oedd gan y cyfansoddwyr confensiynol traddodiadol nifer o ddyfeisiau megis homoffoni, poliffoni, gwrthdroadau, cyfundrefnau dodecoff- onig, toneiddwch ac yn y blaen i'w cynorthwyo i greu eu miwsig. Wrth gwrs gall cyfansoddwyr miwsig electronig ddefnyddio rhai os nad y cyfan o arfau'r hen feistri ond gan amlaf maent yn tueddu i chwilio am y newydd-deb hwnnw sy'n dod trwy edrych ar seiniau o agwedd hollol wahanol. Pan yn gweithio yn y cyfrwng electronig rhaid yn gyntaf ystyried geirfa newydd sain a swn. Rhaid i gyweirnod a seinfannedd (loudness) gael eu haileni yn amledd ac osgled. Ac yn eu tro rhaid i amledd ac osgled gael eu trafod yn nhermau foltedd cerrynt tonnog neu gerrynt eiledol. Gellir egluro hyn trwy ystyried symudiadau corfforol unrhyw ddarseinydd modern (Ffig. 1 (a)). Cynhyrchu sain Os cysylltir y darseinydd i foltedd cerrynt tonnog y mae newidiadau yn cymryd lle. Pan nad oes foltedd o gwbl erys diaffram y darseinydd mewn sefyllfa newtral (A). Pan gysylltir foltedd positif iddo caiff y côn ei wthio am allan (B), ac fel y gostwng y foltedd daw'r côn yn ôl i newtral (A).