Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

trydanol yn cael eu trawsnewid yn donnau ac yna yn dod allan fel swn yn y darseinydd. Dyna'r gadwyn, dyna'r llwybr. (Gweler Ffig. l(b) a Ffig. 2.) Rhaid cofio hefyd ei bod yn bosibl cymysgu'r tonffurfiau hyn i greu ffurfiau hollol newydd. Defnyddiau'r gymysgfa gan amlaf ydyw mwy nag un o seindonnau sy'n cael eu mabwysiadu mewn ffordd neilltuol a hynny o dan reolaeth trwy'r cylchedau electronig. Er enghraifft, os dymuna'r cyfansoddwr gael swn cloch diwbiwlar neu chime rhaid iddo sylweddoli fod uwch-donnau y swn arbennig hwn yn ddi-harmonig o ran eu natur ac felly ni ellir eu trafod mewn modd mathemategol a thrwy hynny gael ffurfiau uniongyrchol. Yn hytrach, rhaid cychwyn gyda chwe osgiladur sy'n cynhyrchu seindon yr un a'u tiwnio i'r cywair a ddangosir yn Ffig. 3. Yna bydd yn rhaid arbrofi efo transients, ymosodiadau a hefyd darfodiadau a'u plethu rywsut yn un ffurf a chyrraedd y nod trwy hynny. Ffig. 3. Cynrychioliad o raniadau di-harmonig y gloch diwbiwlar Gellir dychmygu y gall hyn fod yn dasg gymhleth a hirwyntog ond y mae lle i obeithio y daw ryw ddydd nodiant arbennig a chyflym i ran y cyfan- soddwyr neu o leiaf y daw y medr i greu eu nodiant eu hunain a fydd yn cyfateb i'r synthesiser y maent yn ei ddefnyddio. Swn gwyn Gellir mynd ymlaen i sôn llawer mwy am y gwahanol dechnegau sy'n ymwneud â chreu swn a sain allan o beiriant electronig, yn arbennig, efallai, y modd y creir y 'swn gwyn', sydd yn aml yn gefndir i gyfansoddiadau. Fel y gwyr pawb, os peintir saith lliw yr enfys ar gerdyn crwn, yna wrth droi y cerdyn yn gyflym o gylch echel trwy'i ganol fe ymdodda'r lliwiau i'w gilydd a rhoi yr argraff o liw gwyn i'r llygaid. Felly yn union ydyw hanes y swn gwyn, sef cymysgedd o'r holl seiniau a glyw'r glust ar wahanol osgledau. Y mae'r swn gwyn yma yn rhan bwysig o bob cyfansoddiad electronig ac yn ami y mae'n gyfrifol am roddi 'teimlad' i'r darn. Ac y mae'n rhaid cyfaddef ei bod yn bosibl cael teimlad mewn darn o gerddoriaeth electronig yn yr un modd ag y'i ceid yng ngweithiau'r hen feistri. Soniodd y beirniad yn y gystadleuaeth yng Nghaerdydd am y modd y priodwyd yr agweddau technegol a cherddorol mewn dull trawiadol i greu cyfanwaith o sylwedd a sensitifrwydd. Methiant llwyr fyddai'r holl fenter electronig pe na bai'r miwsig terfynol yn sensitif a theimladwy er fod y cyfryngau wedi newid yn llwyr. Perfformio Ymddengys yn y rhan fwyaf o enghreifftiau o fiwsig electronig a recordiwyd fod y cyfansoddwr yn chwarae rhan ddeuol trwy greu a pherfformio. Ond yn y dechreuad yn Ewrop yr oedd yn arferiad i'r cyfansoddwr ddibynnu ar dechnegydd proffes- iynol i ymdrin â'r offer. Erbyn heddiw, gan fod mwy a mwy yn meistroli'r gelfyddyd o drin y peiriant a mynnu gwybod dirgelion ei grombil, mae y cyfansoddwr yn gallu arbrofi fel y mynno a chreu seiniau rhyfedd ac ofnadwy. Y mae mewn cysylltiad â holl baramedrau y synthesiser a thrwy hynny yn medru rhoddi ei gymeriad ei hun ar unrhyw ddarn cerddorol heb i neb arall fod yn y cyffiniau. Am amser hir fe wrthwynebwyd y ffurf newydd hon o wneud miwsig gan y rhai hynny sydd yn dra thraddodiadol a'u cwyn yn bennaf oedd nad oedd llawer o apêl i'r llygaid mewn cyngerdd o'r miwsig hwn. Rhaid cofio mai rhywbeth personol byw oedd pob perfformiad cerddorol yn yr hen amser a dibynnai'r llwyddiant i raddau helaeth ar bersonol- iaeth weladwy yr hwn a gymerai ran. Anodd felly ydoedd i gynulleidfaoedd gymhwyso eu hunain at y peiriannau gor-faterol a'r darseinyddion annynol oedd yn cyíîeu'r neges. Gellir datrys y broblem hon i raddau trwy greu cefndir o liwiau ar gynfas elec- tronig a chreu effeithiau seicadelig hyd y lle. Hefyd gall y cyfansoddwr sianelu ei gynhaeaf mewn dull deublyg a chael tonnau ei fiwsig i ymddangos ar yr un amrantiad fel tonnau gweledig ar osgilosgop anferth yn y cefndir. Trwy hyn y creir rhywbeth gweladwy i'r gynulleidfa ac mae'n rhaid cyfaddef