Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

maes ar hyn o bryd. Ar y pwynt cyntaf 'roedd gweledigaeth y Gweithgor yn glir a bu iddo grynhoi ei farn mewn dau ddatganiad: (a) Fod modd dysgu pob agwedd ar wyddoniaeth a thechnoleg drwy gyfrwng y Gymraeg. (b) Y dylid anelu at sefyllfa lle gall disgyblion neu fyfyrwyr ddilyn cyrsiau gwyddonol neu dechnolegol yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg. Nid anodd gweld fod yr egwyddorion hyn (yn arbennig y cyntaf) yn sylfaenol i holl waith y Gweithgor. Yn wir, dichon y gellid disgrifio'r cyntaf fel rhyw fath o gyffes ffydd ar ran nifer Tudalen gyntaf papur C.B.A.C. Safon Uwch Ffiseg helaeth o aelodau'r Gymdeithas Wyddonol Gened- laethol a darllenwyr Y GWYDDONYDD fel ei gilydd. Nid rhyfedd, felly, yw gweld haeriad o'r fath yn cael cadarnhad ebrwydd gan Weithgor y Gym- deithas. Ni ddylid anghofio fodd bynnag y gall cefnogaeth i'r fath haeriad fod yn ddigon simsan ymysg Cymry Cymraeg (heb sôn am y di-Gymraeg) yn gyffredinol. Dychwelwn at y pwynt yma eto. A throi oddi wrth ystyriaethau egwyddorol, beth yn hollol yw'r sefyllfa bresennol? Er fod yr egwyddorion uchod yn hawlio lle blaenllaw i'r Gymraeg gwyddai'r Gweithgor nad oedd ond ychydig o ddefnydd o'r iaith yn ymarferol ac, yn