Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYDDONYDD? Erbyn hyn bu i'r Gymdeithas dderbyn argymhellion y Gweithgor a bwriada ystyried pa fodd y gall eu hyrwyddo. Er fod yr argymhellion eu hunain wedi eu cyfeirio at sefyd- liadau ac awdurdodau addysgol, ni ddylid tybio nad oes swyddogaeth i'r Gymdeithas. Wedi'r cwbl, aelodau'r Gymdeithas sydd debycaf o fod ar flaen y gad, a'r Gymdeithas efallai sydd yn y lle gorau i feithrin y brwdfrydedd angenrheidiol yn ogystal â bod yn lladmerydd dros le'r Gymraeg o fewn addysg wyddonol a thechnolegol. Efallai, felly, y dylai'r Gymdeithas chwarae rhan fwy union- gyrchol yn nhermau trefnu trafodaethau neu gyrsiau yn ymwneud ag addysg yn y maes. Mae'n COLEG PRIFYSGOL GOGLEDD CYMRU, BANGOR UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: SYR CHARLES EVANS, M.A., D.SC., F.R.C.S. Darperir cyrsiau gradd Prifysgol Cymru yng Nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Diwinyddiaeth. Mae'r cyfadrannau'n cynnwys testunau arferol curricula prifysgol, a cheir, yn ychwanegol, ddarpariaeth arbennig ar gyfer dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o bynciau. Y mae gan y Coleg chwe Neuadd Breswyl gan gynnwys Neuadd gymysg Gymraeg, sef Neuadd John Morris-Jones. Gellir cael manylion pellach a chopi o Brospectws y Coleg oddi wrth y Cofrestrydd. Yn erthygl Dr. Eirwen Gwynn yn y gyfres 'Debygwn i' yn rhifyn mis Medi 1979 Y GWYDDONYDD ymddengys y gair 'microsgopig' dair gwaith mewn paragraff ar dudalen 126 lle mae'r awdur yn trafod syniadau A. J. Leggett, ffisegydd o Brifysgol Sussex. Mewn dau fan 'macrosgopig' yn hytrach na 'microsgopig' yw'r ffurf briodol. Ailargraffwn y paragraff yn ei ffurf gywir isod gan ymddiheuro i Dr. Gwynn am yr amryfusedd hwn. Mae amseroedd yn yr arbrofion ym maes y gronynnau elfennol yn anhygoel fyr (tua 10-9 eiliad) fel nad yw'n amhosibl bod yma raddfa amser sydd ddim yn berthnasol o gwbl i'r byd macrosgopig. Gallai hyn ddatrys prob- lemau mesur mecaneg cwantwm ar y lefel atomig ac ymhellach gallai gynnig sylfaen microsgopig i'r ffenomenau hynny sy'n treisio ein 'synnwyr amser' ar raddfa amser macrosgopig-megis rhagwybodaeth ('pre- deg holi hefyd ynghylch swyddogaeth Y GWYDD- ONYDD. Eisoes ymddangosodd Adran Ysgolion yn y cylchgrawn. A ddylid rhoi gogwydd bellach tuag at faterion addysgol, o gofio'r prinder deunydd? Dyma, mae'n siwr, gwestiynau a gaiff eu trafod yn ystod y misoedd nesaf a braf fyddai cael sylwadau darllenwyr Y GWYDDONYDD arnynt. Fel y nodwyd ar y dechrau mae lles addysg wyddonol a thech- nolegol drwy'r Gymraeg o bwys i aelodau'r Gymdeithas a darllenwyr Y GWYDDONYDD fel ei gilydd. Wrth drin adroddiad Gweithgor y Gym- deithas ar y Coleg Cymraeg ni ddylid anghofio nac esgeuluso'r cyfraniadau uniongyrchol y gall y ddau gyfrwng eu gwneud. CYWIRIAD cognition'). Mae'n wir bod y raddfa amser ynglŷn â'r ffenomenau hyn yn hwy o lawer (eiliadau neu oriau hyd yn oed) ond rhaid cofio bod yr ymennydd dynol yn llawer iawn mwy cymhleth nag unrhyw offer a ddefnyddir mewn ffiseg. Awgrym yn unig yw hyn gan Leggett ond tybia na allwn amgyffred beth fydd syniadau ffisegwyr am natur amser ymhen can mlynedd.