Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Debygwn i Owain Owain Paratoais yr anerchiad isod ar gyfer cyfres y BBC o bregethau radio ar Y Creu Fe'i recordiwyd ar Fehefin 10, 1979, yng Nghapel Ebeneser, Caernarfon, a'i darlledu ar Fehefin 17, 1979, ar 'Oedfdr Bore' y BBC. Ac er mai sgript ar gyfer traethiad llafar i gynulleidfa mewn capel a geir isod, credais mai gwell oedd ei gyflwyno i ddarllenwyr Y GWYDDONYDD heb newid dim arno. MAE'R testun i'w gael yn Epistolau Paul-rhannau o dair adnod; un o'r epistol cyntaf at y Corinthiaid (1312), un o'r epistol at yr Hebreaid (113), ac un o'r ail epistol at y Corinthiaid (418). 'Canys gweled yr ydym yr awr hon trwy ddrych, mewn dameg yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.' Yn y gyfres hon o oedfaon radio, 'Y Creu' yw'r thema. Ac fe'm gwahoddwyd i fynegi saf- bwynt y gwyddonydd o Gristion. 'Pan edrychwyf ar y nefoedd' beth ydw i, wyddonydd o Gristion, yn ei weld? A beth yw fy ateb i gwestiwn y salmydd- Pa beth yw dyn?' Fe gefais i fy magu yn y traddodiad Cristnogol gorllewinol. Yn yr ysgol Sul clywais ddisgrifiad Llyfr Genesis o Dduw yn creu y nefoedd a'r ddaear a phopeth byw-gan gynnwys Adda ac Efa yng ngardd Eden. Yn y Testament Newydd darllenais ddisgrifiad Ioan o'r Creu: 'Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Trwyddo Ef y gwnaethpwyd pob peth, ac hebddo Ef ni wnaethpwyd dim.' Clywais hefyd am fywyd ar ôl marwolaeth, am fyd anweledig a thragwyddol y tu hwnt i ffiniau ein daear ni. Ac mewn gwasanaethau angladdol clywais y geiriau hyn: 'Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir, ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni, yn odidog ragorol. Canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.' Dyna ran o'r hyfforddiant Cristnogol a gefais. Ond cefais hefyd hyfforddiant gwyddonol. Dysgais am atomau a molecylau, am gwmwl tenau o nwy yn dwyshau i ffurfio bydoedd drwy'r Cosmos, 'yn Y CREU oleuadau yn ffurfafen y nefoedd'. Dysgais am ddatblygiad daearegol ein planed, gynt yn 'aflun- iaidd a gwag'. Dysgais am esblygiad bywyd ar y blaned hon, o'r cawl cyntefig, o'r potes protosoa, o'r 'tywyllwch a oedd ar wyneb y dyfnder'- esblygiad graddol o gelloedd cyntefig, cyffredin, yn rhoi o'r diwedd lysiau yn hadu had, a phrennau ffrwythlon morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, a phob ehediad asgellog a bwystfil y ddaear a dyn.' Dysgais hefyd am ddyn-yr-anifail a'i gorff o gnawd-cymysgedd cymhleth o folecylau cad- wynog. Dysgais am farwolaeth a dadebriad y corff hwnnw: atalnod llawn. Dysgais drin a thrafod y materol drwy gyfrwng y synhwyrau corfforol-arsylwi, nodi, arbrofi-a chrynhoi'r cyfan drwy'r broses ymenyddol a elwir yn rhesymeg. Ymennydd o gnawd, mewn corff darfodedig, yn ymwneud â'r bydysawd materol. Dyna'r ddau hyfforddiant, y ddwy ddisgyblaeth a oedd yn rhan o'm cynhysgaeth. Ac o'r ddau, daeth y gwrthddweud. Ebe'r naill: 'Seren fechan yn y nos, Pwy a wnaeth dy wên mor dlos ? Annwyl Iesu!' Adleisiodd y llall ei barodi: 'Seren anferth yn y gofod, O ble ddaw dy rym diddarfod? Ffwrnais niwclear!' I'r naill, arwydd Cyfamod rhwng Duw a Daear oedd y bwa yn y cwmwl; i'r llall, adlewyrchiad a phlygiant goleuni oedd yr enfys. I'r naill, llen a daenwyd, pabell a ledwyd gan yr Arglwydd Iôr oedd y ffurfafen; ond i'r llall, traffordd i rocedi oedd y llwybrau nefolaidd. Gwrthddweud y ddwy ddisgyblaeth. 'Alla'i mo'i fynegi o'n well na thrwy ail-adrodd cwestiwn a ofynnwyd gan blentyn ysgol i'w athro: 'Syr—