Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Wyddoch chi beth ydy un o broblemau mwyaf dyrys Gwyddoniaeth heddiw? Darganfod y modd y mae'r ymennydd-yr ysbwng llwyd 'na o gnawd -ynghyd â'i holl ymestyniadau corfforol-yn fadruddyn y cefn ac yn nerfau ac yn bopeth-sut y gall y darn yna o gnawd gynhyrchu meddyliau, a sut y gall y meddyliau hynny reoli rhannau o'r union ymennydd a'u cynhyrchodd nhw yn y lle cyntaf! 'Wneith Gwyddoniaeth byth lwyddo i ateb y cwestiwn. Oherwydd mae'r cwestiwn ei hun yn cynnwys rhagdybiaeth anghywir. Pa gyfiawnhad sydd 'na i Wyddoniaeth gymryd yn ganiataol mai'r ymennydd materol yw'r peth real, ac mai cynnyrch y peth 'real' hwnnw yw'r meddyliau anfaterol, 'afreal'? Pa wyddonydd all brofi nad y meddwl yw'r peth real, ac mai cynnyrch y meddwl real yw'r ymennydd materol, afreal ynghyd â'r holl gorff a phopeth materol yr ydym yn ymwybodol ohonynt drwy gyfrwng y synhwyrau corfforol ? 'Yn y dechreuad yr oedd y Gair a'r byd a wnaethpwyd trwyddo Ef.' Yn y dechreuad yr oedd y Gair-y Logos-y Meddwl; a'r byd-y byd materol, mater ei hun-a wnaethpwyd trwyddo Ef, drwy'r Meddwl Mawr. Beth ydy 'realaeth'? Beth sy'n 'real'? A pha un yw'r ddameg a welir drwy ddrych? Ai disgrifiad Genesis, ynteu stori'r Gwyddonydd ? Gwendid Gwyddoniaeth heddiw, gwendid hefyd y diwylliant gorllewinol, ydy mynnu mai dim ond un math o wybodaeth sydd: y wybodaeth a ddaw i ni o'r byd materol, drwy gyfrwng ein synhwyrau corfforol, i'w phrosesu'n rhesymegol gan ymennydd o gnawd. A dyna lle mae Gwyddoniaeth a diwylliant y gorllewin yn methu. Oherwydd Os ydych am fwy o fanylion ynghylch ein llyfrau newydd, danfonwch eich enw a chyfeiriad (llythrennau bras os gwelwch chi'n dda), gan nodi eich diddordebau arbennig, i'r cyfeiriad isod (nid oes angen stamp ym Mhrydain Fawr): GWASG PRIFYSGOL CYMRU mae cyfrwng arall, rhagorach sy'n dod â gwybod- aeth sicr i ddyn. Fe'i gelwir yn ffydd. 'Ffydd yn wir yw sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled.' A 'does 'run rhan o Wyddoniaeth a all brofi i ni nad yw ffydd ddim yn bod, ac nad oes sicrwydd i ni, drwy ffydd, 'am y pethau nad ydys yn eu gweled'. 'Wrth ffydd (nid rhesymeg; nid drwy'r synhwyrau corfforol) yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir.' Peidiwch â'm camddeall i: nid dilorni'r materol ydw i. Rhan o greadigaeth Duw yw'r byd materol: 'A gwelodd Duw mai da oedd.' Beth oedd y Creu? Onid yr Anfeidrol a'r Tragwyddol yn llyffeth- eirio'i hun i gyfyngiadau lle ac amser? A'r Ail Greu, yr Ymgnawdoliad-onid Awdur Bywyd yn llyffetheirio'i hun i gorff dynol? A'r llyffetheiriau hynny'n cael eu malu'n chwilfriw yn yr Atgyfodiad, gwrthdro'r Creu? Ac onid cysgod o'r Creu, a chysgodion gweinion o'r Ail Greu, ydych chi a fi? Eneidiau byw wedi'u llyffetheirio i gyrff materol am gyfnod byr o ysgafn gystudd. Pam ? Ac be? Oherwydd 'gwelodd Duw mai da oedd'. Oher- wydd 'yn ystod ein byr ysgafn gystudd ni y gweith- redir tragwyddol bwys gogoniant i ni'. Derbyniwn, felly, drwy ffydd, y sicrwydd mai trwyddo Ef y gwnaethpwyd pob peth, ac mai ynddo Ef y mae bywyd, y bywyd sydd yn oleuni dynion ac sy'n llewyrchu heddiw yng nghanol tywyllwch ein byd materol ni. Yna, ac yna'n unig, fe beidiwn â gweled trwy ddrych, mewn dameg, gan adwaen o ran yn unig-ond yn hytrach, wyneb yn wyneb, fe gawn adnabod megis, yr awr hon, y'n hadwaenir ni. RHESTR BOSTIO AR GYFRIFIADUR FREEPOST CARDIFF CFl 1YZ