Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Ddrama Lawfeddygol Eleni mae'r Banc Meinwe Dynol yn Democritos (Athen, Groeg) yn dathlu ei ddegfed penblwydd gydachynhadleddryngwladol. Ydefnydd o'rmeinwe mewn llawfeddygaeth yw testun y gynhadledd, gyda llawfeddygon, cemegwyr a biolegwyr yn cyfrannu. Mae asgwrn a meinwe meddal yn cael ei ddiheintio a'i gadw wedi ei wahanu o gorff newydd farw drwy ddamwain. Mae'n barod wedyn i'w ddefnyddio pan fydd angen i adeiladu asgwrn newydd neu ran arall o gorff sydd wedi ei niweidio. Yr arweinydd yn y maes yma, yng Ngroeg, yw Dr. Nicholas Triantafyllou, sefydlydd a chyfar- wyddwr presennol y Banc, ei hun yn llawfeddyg orthopaedig. Bûm yn ei wylio wrth ei waith am rai dyddiau dro yn ôl, a rhyfeddais at y gwyrthiau y mae'n eu cyflawni'n feunyddiol. Dim ond enghraifft neu ddwy o'r mathau o driniaethau 'rydym bellach yn eu derbyn yn ganiataol a nodaf yma. Wrth eu gwylio'n uniongyrchol y sylweddol- ais, mewn difri, gwaith mor gelfydd a chorfforol galed ydyw gwaith y llawfeddyg. Cychwyn o'i gartref am 7.00 a.m. gan fod taith bron awr i'r ysbyty yn Voula, ysbyty orthopaedig fwyaf Athen (1,000 o welyau) ar lan Bae Salonika. Newid, ymolchi a Dr. Triantafyllou a'i dîm o ddeg yn barod i ddechrau ar eu gwaith erbyn 8.15 a.m. Dau o'r cleifion bellach yn y theatr a'r ddwy anaesthetegydd yn gwilio drostynt yn eu trwmgwsg. Dim o'r tensiwn fuaswn wedi'i ddisgwyl, awyrgylch yn brysur ond yn ysgafn gydag ambell jôc a thynnu coes. Yr hyn a'm trawodd oedd yr ymgais bwriadol i wneud y cyfan mor amhersonol ag oedd bosibl. Pen y claf wedi ei ynysu oddi wrth y rhan weithredol gyda llenni gwyrdd fel bod yr anaesthetegydd mewn ystafell o fewn ystafell fel petai yn gofalu am anghenion anadlu y claf. Wedyn y corff i gyd wedi'i orchuddio ar wahân i'r rhan o dan driniaeth. Fe'i cefais yn anodd i atgoffa fy hun bod person byw, gyda'i bryderon a'i ofnau, yno o gwbl. Naill ochr i'r ystafell 'roedd cyferbyniad drama- tig. Un ochr, merch bedair ar ddeg oed oedd wedi'i amharu gan y polio yn ei blynyddoedd cynnar a hynny wedi gadael ei throed yn gam a chaeëdig. 'Roedd y bysedd wedi eu tynnu i mewn at wadn y droed. Croes drom i ferch ifanc hardd ac yn amharu'n ddrwg ar ei cherddediad. GLYN O. PHILLIPS Y llawfeddyg Dr. NICHOLAS TRIANTAFYLLOU Ar yr ochr arall, gwraig 72 oed, drom yr olwg, fel aml i Nain yng Nghymru ers talwm. Osteo- arthritis wedi bwyta i'w dau ben-glin a'r lluniau pelydrau-X yn darlunio'r dirywiad sobr yn yr asgwrn. Y meinwe cysylltiol rhwng yr esgyrn, sydd yn esmwytho'r symudiad wedi llwyr ddiflannu oherwydd yr afiechyd. Nid oedd wedi medru cerdded ers misoedd. Bwriedid gosod pen-glin newydd iddi o fetel a phlastig. Mae'r Dr. Triantafyllou wedi arbenigo yn y driniaeth yma, a pherffeithio'i dechneg drwy ymarfer ar gyrff meirw. Daeth yr amser i agor y goes ac yntau'n gwneud hyn gydag un toriad hir a sicr. Ymhen chwincied 'roedd wedi cael at yr asgwrn, torri'r patela a'r meinwe sydd o'i gwmpas fel bod y ddau asgwrn sy'n dod at ei gilydd yn y pen-glin, y