Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y tibia a'r ffemwr yn cyfarfod yn y pen-glin gyda'r patela yn cloi y cymal Dwy ran newydd i'w gosod yma eto, un fetel dros fan cyfarfod y tibia a'r ffemwr, ac un blastig mewn cysylltiad uniongyrchol â'r hyn oedd ar ôl o'r patela, gan fod hwnnw hefyd wedi dirywio'n ddirfawr. Chwe rhan felly, a'r cyfan yn symud mewn perthynas â'i gilydd yn lle'r esgyrn oedd wedi dirywio. Cymysgu'r sment acrylig wedyn a gosod y rhannau oedd wedi cael eu mesur yn ofalus yn eu lle a dyna'r hen wraig efo pen-glin cwbl newydd. Aros i'r sment boethi-yr arwydd ei fod yn caIedu-a'r rhannau wedi'u clymu'n ddiogel, plygu'r goes i weld fod popeth yn gweithio'n esmwyth ac ar ôl dwy awr a hanner Dr. Triantafyllou yn mynd o'r neilltu a gadael i un o'i gyd-weithwyr orffen y driniaeth a chau'r agoriad, oedd erbyn hyn yn edrych yn anferth. Ymhen deng munud 'roedd popeth yn ôl yn daclus a lluniau pelydrau-X wedi'u cymryd eto i gadarn- hau fod pob rhan wedi eu gosod at ei gilydd yn berffaith. Erbyn hyn 'roedd yr anaesthetegydd yn dechrau deffro'r hen wraig a hithau wedyn ar ei ffordd yn ôl i'w gwely i gysgu'n naturiol. Ymhen Y metel yn mynd i'w Ie ar yr asgwrn mis byddai'n cael yr un driniaeth ar y goes arall. Ni allwn aros i weld y wraig yma'n dysgu cerdded eto, ond gwelais ddigon o rai eraill cyn hyned â hon yn cerdded yn sionc ymhen rhyw wyth wythnos wedi'r driniaeth. O dro i dro 'roeddwn wedi dilyn hynt y ferch ifanc, lle 'roedd y llawfeddyg wedi agor croen y ffêr hyd at yr esgyrn. Gwaith torri a sythu oedd yma. Yn raddol sythwyd y droed a thynnu'r bysedd allan i fod yn llac, syth a'r esgyrn yn y gwahanol gymalau yn symud yn esmwyth. Tua'r un amser a gymerodd y ddwy driniaeth. Erbyn hyn 'roedd y theatr yn cael ei pharatoi am ddwy driniaeth arall, a ninnau yn cael cwpaned o goffi Groegaidd cryf i adnewyddu tipyn arnom. 'Doeddwn i wedi gwneud dim ond sefyll yn gwylio am dair awr ond 'roeddwn yn bur flinedig. Beth am y llawfeddyg druan? Ymhen deng munud yr alwad yn dod fod popeth yn barod i ail-ddechrau. 'Daf i ddim i fanylu eto, dim ond nodi mai dyn 86 oed wedi torri ei glun oedd yn nesaf dan law Dr. Triantafyllou. Nid oedd ei frest yn rhyw gryf iawn, felly chwistrelliad epidural i'w asgwrn cefn oedd yr anaesthetig y tro hwn. Cadwodd yn effro gan sgwrsio'n gyson, tra agorai y llawfeddyg ei glun ac ail-gysylltu'r ddau asgwrn oedd wedi torri