Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn gyfan gwbl oddi wrth ei gilydd. Rhoi clamp o ddarn o fetel wrth asgwrn y glun a chyda naw o sgriwiau modfedd o hyd rhoi'r ddau ddarn o'r ffemwr oedd wedi torri yn sownd wrth ei gilydd. Yr hen wr, a'i goes ar ei hyd yn agored, yn galw am gwpaned o goffi ac yn cwyno ei fod yn cyffio braidd ac i'r llawfeddyg frysio fel y gallai fynd yn ôl i'w wely a oedd yn llai caled na'r bwrdd yr oedd arno. Ni allwn gredu'r peth. Gadewais y theatr ar ôl pedair awr a hanner wedi ymlâdd, ond 'roedd dau arall yn disgwyl eu Athrofa Astudiwch yng Ngogledd Cymru mewn cyrsiau addysg uwch, yn cynnwys: DIPLOMA CENEDLAETHOL UWCH (HND) Cyrsiau rhyngosod a llawn-amser mewn Cemeg Astudiaethau Busnes Astudiaethau Cyfrifiadurol Peirianneg (Aeronotig, Cynnyrch, Mecanyddol, Trydanol ac Electronig) Metaleg DIPLOMA ADDYSG UWCH (PRIFYSGOL CYMRU) Cwrs dwy flynedd llawn-amser a all arwain at radd B.Addysg neu at gyrsiau gradd mewn mannau eraill. Y dewis a gynigir yw: Astudiaethau Busnes Y Celfyddydau Creadigol a Mynegiannol Addysg Astudiaethau'r Amgylchedd Dyniaethau Mathemateg ac Ystadegau Gwyddorau Natur Gwyddorau Cymdeithasol tro a byddai Dr. Triantafyllou wedi bod yn y theatr am saith awr cyn gorffen am y dydd. Ni feddyliais erioed fod angen y fath stamina ar lawfeddyg. Mae medr a dyfeisgarwch y llawfeddyg ortho- paedig yn cynnig cymalau, esgyrn ac aelodau newydd wedi golygu bywyd gwell i filoedd yn ystod y ddeng mlynedd y bu'r Banc Meinwe Dynol yn gweithredu yn Athen. Fe ddylem fod yn hynod o ddiolchgar am bobl mor ymroddedig â'r Dr. Triantafyllou. CYRSIAU PROFFESIYNOL LLAWN-AMSER Gradd R.I.C. Rhannau I a II Gradd I.M. Rhannau I a II CYRSIAU GRADD B.Addysg (Cyffredinol ac Anrhydedd) ar ôl cwblhau y Dip. Addysg Uwch yn llwyddiannus. Rhydd y rhain statws athro cydnabyddedig. B.A. (Astudiaethau Cyfun) gyda dewis o Saesneg/Hanes ac Astudiaethau'r Amgylchedd. Ceir nifer o gyrsiau gradd cyffelyb a graddau uwch mewn Cemeg a Gwyddorau eraill. Ceir manylion oddi wrth Y Cofrestrydd, Coleg Celstryn, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy, Clwyd CH5 4BR