Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wedi amlhau filwaith. Dyma gychwyn ar yr heidiau anferth sy'n sicr o fudo i'r tiroedd y tu hwnt i ffìniau'r diffeithwch oni rwystrir hwynt. Heidiau 1977 Dyna a ddigwyddodd yn Ne Arabia ddwy flynedd yn ôl. Darganfu rhai heidiau bychain law ffres yn Oman. Nid oedd neb yn gwybod dim amdanynt tan hydref 1977 pan ddaeth entomol- egydd o Brydain ar draws corff locust ac iddo adenydd pinc. Gwyddai mai arwyddocâd yr adenydd pinc oedd fod y locust wedi dod o haid anaeddfed. Er iddo rybuddio'r corff canolog sy'n ceisio rheoli'r heidiau hyn, 'roedd braidd yn rhy hwyr erbyn hynny. Daeth gwynt cryf i chwythu'r locustiaid yn un haid enfawr i Somalia. Yno cawsant amgylchiadau delfrydol, sef digonedd o law i'w galluogi i fridio ymhellach. Hefyd, 'roedd y wlad ynghanol rhyfel fel nad oedd modd rheoli'r locustiaid yn effeithiol. 'Roedd yr un sefyllfa'n union yn bodoli yn Eritrea ac 'roedd swyddogion y corff, effeithiol iawn fel arfer, sy'n ceisio rheoli Locustiaid yn llenwi'r awyr, gan fygwth dyn ac anifail locust y diffeithwch wedi gorfod dychwelyd i Addis Ababa lIe ni allent wneud dim byd o werth. Nid oedd yn syndod, felly, pan gafwyd adroddiadau am heidiau anferth. Dywedwyd fod heidiau unigol yn tywyllu'r awyr am 100 milltir sgwâr. Gan fod un milltir sgwâr o haid yn cynnwys 200 tunnell o bryfed (pob un ohonynt yn pwyso dau gram ac yn bwyta'i bwysau'i hun o fwyd bob dydd) gellid dychmygu maint y bygythiad. Pa le bynnag y glanient gadawent ar eu hôl ddistryw llwyr. Mewn pla cynharach yn Ethiopia (ym 1958) unodd yr holl heidiau i ffurfio un haid enfawr a oedd yn ymestyn dros 400 milltir sgwâr. Mewn chwe wythnos bwytawyd digon o fwyd i gadw miliwn o bobl yn fyw am flwyddyn. Erbyn diwedd haf 1978 'roedd yr heidiau'n symud i gyfeiriad Cenia (Kenya). Rheoli'r locustiaid Eleni bydd llawer yn dibynnu ar faint o law sy'n syrthio ar y gwledydd hyn. Y mae rhyw wydnwch rhyfedd yn perthyn i'r pryfyn hwn-gall hedfan am