Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bellterau maith a dal i fynd am gyfnodau hir heb fwyd o gwbl. Nid peth hawdd yw ei reoli, yn enwedig o gofio bod rhaid lladd o leiaf 95% o'r heidiau cyn cael rhywbeth tebyg i reolaeth ddigonol. Y mae dyfodol 300 miliwn o bobl yn dibynnu ar lwyddiant y frwydr yn erbyn y locust yn Affrica eleni (1979). Y mae'r mathau eraill 0 locust yn weddol rwydd i'w rheoli-ond nid yw hyn yn wir am locust y diffeithwch. Nid yw hwnnw'n bridio mewn unrhyw fan arbennig (h.y. man lle y gellir ei ddarganfod a lladd yr wyau) a hefyd y mae'n medru newid ei liw a'i ymddygiad yn ôl yr amgylchiadau. Pan yw'r boblogaeth yn isel maent o liw gwyrdd, llwyd neu frown ac yn byw'n annibynnol ar ei gilydd. Ond pan ddechreuant heidio maent nid yn unig yn newid eu hymddygiad ond hefyd yn newid lliw o binc i goch ac wedyn i felyn llachar. Y mae gwybodaeth ynghylch ymddygiad y pryfyn ynghyd â dealltwriaeth o bwysigrwydd y gwahanol wynt- oedd sy'n chwythu ar draws yr anialwch yn gymorth mawr i'r rhai sy'n ceisio rheoli'r locust. Yn anffodus, y mae'r gwledydd hyn yn dlawd ac y mae'r galwadau'n niferus. Peth hawdd yw anghofio COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH • Yr hynaf o Golegau gwreiddiol Prifysgol Cymru. • Cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ø Graddau allanol drwy gyfrwng y Gymraeg. • Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Ø Neuaddau preswyl ar gyfer 2,000. YSGOLORIAETHAU EVAN MORGAN Bob blwyddyn bydd y Coleg yn cynnig 20 o Ysgolor- iaethau Evan Morgan, gwerth £ 265 y flwyddyn, sy'n parhau dros gyfnod o dair blynedd. Fe'u cynigir ar sail arholiad arbennig a gynhelir ym mis Ionawr bob blwyddyn; caiff yr ymgeiswyr eistedd yr arholiad yn y Coleg, neu yn eu hysgolion eu hunain. Bydd gwerth yr ysgoloriaethau yn ychwanegol at grantiau'r Awdurdodau Addysg Lleol. bod rhaid wrth wyliadwriaeth barhaus. Mae'n amlwg y bu peth esgeulustod mewn rhai gwledydd rhwng 1963 a 1977 a rhaid talu pris uchel am hynny yn awr. Gwelwyd pum pla erchyll er 1910. Yn India bu locust y diffeithwch yn gyfrifol am ddinistrio cnydau gwerth dros £ 4,000,000 rhwng 1926 a 1931. Collwyd yr holl gnwd o ffrwythau citrus (gwerth £ 4,500,000) yn nyffryn Souss ym Morocco ym 1954-5. Lladdwyd y pryfed trwy chwistrellu pryf- leiddiad o'r awyr gan greu carped o locustiaid marw hyd at 30 cm. o drwch. Yr haid fwyaf o locustiaid a recordiwyd erioed oedd yr un a welwyd yn Ne Affrica ym 1784. Ymestynodd dros 2,000 o filltir- oedd sgwâr ac fe'i chwythwyd allan i'r môr gan wynt nerthol. Pan olchwyd cyrff y locustiaid yn ôl i'r traeth yr oeddynt yn bentwr dros un medr o uchder yn ymestyn ar hyd y traeth am 50 milltir. Nodyn Y mae'r erthygl uchod yn rhannol seiliedig ar adroddiad gan S. Baron o waith WHO yn y maes hwn. Atgynhyrchir y lluniau trwy ganiatâd caredig WHO. Ysgrifennwyd yr erthygl ym 1979. Mae copïau o'r Prospectws, y Llawlyfr, a manylion ynglyn â'r Ysgoloriaethau ar gael oddi wrth T. A. OWEN, M.A.. Cofrestrydd, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, SY23 2AX.